Gwasanaethau Rheoli

Ryn ni’n rhoi sylfaen i bopeth rwyt ti’n ei wneud. Beth bynnag fydd ei angen arnat ti, ryn ni ‘ma I sicrhau bod dy fusnes yn rhedeg yn iawn, a hynny bob munud o bob dydd.
Bounce Arrow

Yma i fusnesau

Yng Nghaerdydd y mae ein tîm atebion busnes wedi’i leoli. Maen nhw’n arbenigwyr ardystiedig mewn trwyddedu a thechnoleg, ac wrth law i dy helpu i fanteisio i’r eitha’ ar dy adnoddau digidol. Mae ein gwasanaethau rheoli yn helpu busnesau i fod yn fwy effeithlon ym mhob cam ar eu siwrneiau, gan agor drysau i gyfleoedd iddyn nhw a’u cwsmeriaid ar yr un pryd. 

Cymorth Ogi Pro

Ryn ni’n gwneud mwy na dim ond rhoi lled band i fusnesau ffynnu. Ni fydd dy adran TG 24/7 y galli di droi ati am gymorth unrhyw dro..

Cymorth Ogi Pro

Diogelwch Wal Dân

Amddiffynfeydd wedi’u rheoli i ddiogelu dy ddata a dy draffig, ac i sicrhau’r gorau o dy rwydwaith ym mhob ffordd, fel nad oes dim byd yn dy rwystro.

Diogelwch wal dân

Wifi wedi’i reoli

Bydd wifi ym mhob twll a chornel, heb unrhyw fannau gwag na byffro.

Wifi wedi’i reoli

Teleffoni

O un llinell i ganolfan gyswllt gyfan, fe allwn ni dy gysylltu gan ddefnyddio technoleg VoIP (llinellau ffôn dros y rhyngrwyd) sy’n addas i’r genhedlaeth nesa’. Mae hyn yn cynnwys galwadau fideo hefyd!

Teleffoni

Gwasanaethau Cwmwl

Byddwn ni’n gyfrifol am dy gwmwl diogel, gan dy helpu i symud pethau pwysig. Byddwn ni hefyd yn gofalu am storio pethau wrth gefn ac am gymryd camau adfer os bydd galw

Gwasanaethau Cwmwl

Gwasanaethau Microsoft

Mae’n swyddogol. Fel un o bartneriaid Microsoft Solutions, byddwn ni’n rheoli, yn caboli ac yn trwyddedu’r gyfres o adnoddau y mae eu hangen arnat ti i gydweithio – o SharePoint i Teams, o Power BI i feddalwedd Office.

Gwasanaethau Microsoft

Ogi! Ogi! Ogi! Pro! Pro! Pro!

Dim adran TG? Dim problem. Ryn ni ’ma o fewn tafliad carreg pan fyddi di ein hangen ni. Bydd ein desg gymorth yng Nghymru ar gael mewn chwinciad chwannen.

Cofrestra am fwy o wybodaeth

"*" indicates required fields

Enw*
Dy cyfeiriad ebost
This field is for validation purposes and should be left unchanged.