Gwasanaethau Microsoft
Ogi Pro

Rho nerth i dy rym cynhyrchiol
Bounce Arrow

Pam dewis Ogi Pro fel dy ddarparwr meddalwedd?

Arbed costau

Byddwn ni’n rheoli ac yn canfod yr union drwyddedau ar gyfer dy anghenion penodol, a thithau’n arbed costau ynni a chaledwedd.

Rheoli TG Symlach

Yn lleihau cur pen drwy leihau dy seilwaith TG a thrwy gyfuno biliau. Bydd dy gynnwys wedi’i gadw’n ddiogel mewn canolfannau data sy’n dosbarthu’n fyd-eang, gyda chopïau wrth gefn a’r gallu i adfer mewn argyfwng yn rhan o’r cyfan.

Cymorth Technegol Lleol

Ryn ni’n arbenigwyr ar dy helpu di i fanteisio i’r eitha ar systemau Microsoft. Dim mwy o chwilio am help dros y we a chynrychiolwyr tramor: sgwrsia ’da un o arbenigwyr Ogi Pro i lawr yr hewl.

Mae pecyn meddalwedd diweddaraf Microsoft yn helpu i gryfhau cydweithio yn y gweithle.

Gan gyfuno apiau o’r radd flaenaf â gwasanaethau cwmwl pwerus fel Teams , SharePoint a OneDrive, mae Microsoft 365 yn gadael i unrhyw un greu a rhannu unrhyw le ar unrhyw ddyfais – sy’n hollbwysig er mwyn i fusnesau fanteisio i’r eitha ar dechnoleg. 

Bydd Microsoft 365 yn tyfu ’da ti ar gwmwl Azure, er mwyn i ti allu tyfu dy fusnes yn gyflym ac yn hyblyg, a ninnau’n sicrhau bod gan bob defnyddiwr yn dy sefydliad yr hyn y mae’i angen arno i gyflawni. 

Two office workers looking at a computer. One is standing while the other is sitting.

Beth am i gwmni o Gymru roi’r atebion meddalwedd i dy fusnes di?

Mae’n swyddogol. Fel un o bartneriaid mwya Microsoft yng Nghymru, byddwn ni’n dy helpu i fanteisio i’r eitha ar y systemau cydweithio y mae eu hangen arnat ti. Ac ar ben hynny, ’da’n cyngor arbenigol ni, fe allwn ni dy helpu ar dy siwrnai i weddnewid pethau’n ddigidol. 

Dere i gael cymorth cyfeillgar, proffesiynol, sydd wedi’i gymeradwyo gan Microsoft. Y cyfan sydd ei angen arnon ni yw mymryn o wybodaeth i gychwyn arni. Rho dy fanylion i mewn a gad y gweddill i ni.  

Cofrestra am fwy o wybodaeth

"*" indicates required fields

Enw*
Dy cyfeiriad ebost
This field is for validation purposes and should be left unchanged.