Band eang go dda. Lyfli.
Rhoi’r profiad band eang gorau posib i ti yw’r unig beth sy’n bwysig i ni. Mae darparwyr eraill yn aml yn defnyddio hen linellau ffôn copr, neu gyfuniad o ffeibr a chopr. Ond gennyn ni, byddi di’n cael dy linell ffeibr dy hun, a honno’n syth at garreg dy ddrws. Mae’n golygu y bydd dy gysylltiad yn gwbl ddibynadwy, ac y byddi di’n cael y cyflymder rwyt ti’n ei ddisgwyl.
Ogi 200
Yn berffaith i ffrydio a phori’n ddi-stop mewn cartrefi bach ond perffaith.
200Mbps
Cyflymder i lawr
- 20Mbps cyflymder lan.
- £0 i’w osod
£15
y mis
Ffonia 029 2002 0520 i drafod.
Tymor 12 mis ac yna pris safonol wedi hynny. Cwsmeriaid newydd yn unig.
Ogi 500
Yn berffaith i gartrefi sydd â llawer o ddyfeisiau. Gweithio, ffrydio a chwarae ar yr un pryd heb sylwi.
500Mbps
Cyflymder i lawr
- 50Mbps cyflymder lan
- £0 i’w osod
- Yn cynnwys bwst wifi gyda thechnoleg Amazon eero
£21
y mis
Ffonia 029 2002 0520 i drafod.
Tymor 12 mis ac yna pris safonol wedi hynny. Cwsmeriaid newydd yn unig.
Ogi 1Gig
Yn berffaith i chwaraewyr gemau o fri a chartrefi sydd wastad ar-lein.
900Mbps
Cyflymder i lawr
- 90Mbps cyflymder lan.
- £0 i’w osod
- Yn cynnwys bwst wifi gyda thechnoleg Amazon eero
£30
y mis
Ffonia 029 2002 0520 i drafod.
Tymor 12 mis ac yna pris safonol wedi hynny. Cwsmeriaid newydd yn unig.
Mae newid yn haws
Mae rhai yn dweud mor hawdd ag un, dau, tri! Mae arbenigwyr Ogi yn barod i dy dywys drwy’r broses osod, o benderfynu ar y llwybr gorau ar gyfer y cebl band eang ffeibr llawn i sicrhau gallet fynd yn gynt na’r gwynt.
Gallwn naill ai ganslo dy contract presennol, neu cer amdani i brynu ar-lein heddi.
Beth am fy llinell ffôn?
Gofynna am becyn Llais Ogi wrth gofrestru, neu ychwanega’r gwasanaeth unrhyw bryd. Mae’n debyg i wasanaeth ffôn arferol, ond ei fod yn cael ei ddarparu dros dy linell ffeibr llawn. Mwynha alwadau clir fel cloch ac opsiynau hyblyg am bris anhygoel, a hynny heb linellau ffôn traddodiadol. Dewisa dy becyn, rho dy rif ffôn presennol i mewn, a dalia ati i sgwrsio, hyd yn oed heb dy rif ffôn presennol.
Dal ddim yn sicr?
Ryn ni ’ma i dy helpu di i wneud y penderfyniad gore i ti.
Sut ydw i’n gwybod a yw Ogi yn fy ardal i?
Mae Ogi wrthi’n creu rhwydwaith ffeibr llawn mewn cymunedau ledled y de, gyda rhagor i ddod whap. Defnyddia’r gwiriwr cod past i ganfod ble yn union ryn ni, ffonia ni ar 029 2002 0520 neu anfona e-bost i cymraeg@ogi.cymru.
Os wyt ti’n gwsmer cartre sy’n byw yn y de, ond ddim yn un o gymunedau rhwydwaith Ogi, efallai y gallwn ni roi gwasanaeth gwahanol i ti.
Fe allwn ni roi gwasanaethau i fusnesau ble bynnag maen nhw yn y de. Ffonia 029 2002 0535 neu anfona e-bost i pro@ogi.wales.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y broses osod?
Bydd y broses osod arferol yn cymryd tua 1.5 awr. Bydd y tîm yn gosod dy gysylltiad ffeibr llawn, ac yn sicrhau bod dy lwybrydd neu lwybryddion yn barod i ffrydio dy fyd arlein.
Beth os bydda’ i’n symud tŷ?
Os wyt ti’n bwriadu symud tŷ, efallai y bydd modd i ti symud dy wasanaeth i dy gyfeiriad newydd, er mwyn lleihau’r drafferth a gofalu nad wyt ti’n colli’r gwasanaeth.
Bydd ein gallu i wneud hyn yn dibynnu ar ble mae dy gartre newydd, ac ar natur dy wasanaeth ’da ni ar hyn o bryd. Cysyllta ’da cymraeg@ogi.cymru neu ffonia 029 2002 0520 i weld a oes modd i ni helpu.
Os na fydd modd i ni gynnig gwasanaeth i ti yn dy gartre newydd, neu os byddi di’n dewis peidio â chael gwasanaeth Ogi yn dy gyfeiriad newydd, yna bydd angen dod â dy wasanaeth presennol i ben. Bydd ein telerau arferol ar gyfer terfynu gwasanaeth yn berthnasol. Bydd angen i ti ddychwelyd dy lwybrydd neu lwybryddion aton ni, gan ddefnyddio pecyn i’w ddychwelyd yn y post y byddwn ni’n ei roi i ti.
Os bydd modd i ni gynnig gwasanaeth i ti yn y dyfodol, efallai y bydd angen i ti dalu ffi gosod yn dy gyfeiriad newydd. Mae modd i ti ddewis mynd â dy lwybrydd neu dy lwybryddion ’da ti, ond trafoda hyn â’n tîm gwerthu.
Ond mae gen i gontract yn barod?
Mae’n werth holi dy ddarparwr presennol i weld faint fyddai hi’n ei gostio i ddod â dy gontract i ben yn gynnar. Neu rho wybod i’n tîm gwerthu pryd mae’n dod i ben, ac fe allwn ni gysylltu yn ôl bryd hynny!