Gwasanaethau Cwmwl

Mynediad cyflym a diogel o unrhyw le dan haul i dy fusnes.
Bounce Arrow

Pam Gwasanaethau Cwmwl Ogi Pro?

Ryn ni’n hen gyfarwydd â chymylau yng Nghymru – ac nid y rhai sy’n dy wlychu’n unig! Fe allwn ni roi cyngor i ti, dy helpu i symud i’r cwmwl, neu roi cymorth i ti os wyt ti yno eisoes. Tro dy gefn ar yr holl broblemau storio. 

Bydd defnyddio systemau cwmwl yn helpu dy fusnes i fod yn fwy hyblyg, i gydweithio’n well, ac i arbed costau. Ar yr un pryd, mae’n ffodd o oresgyn nifer o gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â seilwaith TG traddodiadol ar safleoedd busnes

Bydd yn anorchfygol

“Mae Ogi wedi bod yn hyblyg iawn wrth weithio gyda ni i ddarparu prosiectau arbennig. Mae hynny wedi bod yn fantais aruthrol, oherwydd roedd angen yr hyblygrwydd hwnnw arnon ni i fuddsoddi mewn cynhyrchion a gwasanaethau newydd.”

Gaunt Francis, Cyfarwyddwr Gaunt Francis Architects 

Gyda Ogi Pro mae eich data yn

Outline icon of a handshake in blue

Ble bynnag, pryd bynnag

Ei gwneud hi’n rhwyddach o lawer i dy weithwyr weld dogfennau hollbwysig, boed yn gweithio o gartref, ar yr hewl, neu yn y swyddfa.

Diogelwch

Byddwn ni’n cadw dy ddata mewn lle diogel; yn dy helpu i symud pethau pwysig; ac yn  gofalu am storio pethau wrth gefn ac am eu hadfer.

Yn barod i dyfu

Y capasiti i dyfu er mwyn cyd-fynd ag anghenion dy fusnes.

Cofrestra am fwy o wybodaeth

"*" indicates required fields

Enw*
Dy cyfeiriad ebost
This field is for validation purposes and should be left unchanged.