Cymorth Ogi Pro

Dibynadwy, dyfal ac yn deall popeth
Bounce Arrow

Pam Cymorth Ogi Pro?

Mae angen i dy systemau TG weithio’n galed, cyflawni’u haddewid, ac addasu’n hyblyg i dy fusnes, gan roi rhwydd hynt i ti ganolbwyntio ar dy gryfderau. Dyna sut mae Ogi Pro yn helpu.  

Ryn ni’n gwneud mwy na dim ond rhoi lled band i fusnesau ffynnu. Ni fydd dy adran TG 24/7 y galli di droi ati am gymorth unrhyw dro. Neu lenwi ambell fwlch yn unig; fe allwn ni wneud hynny, ’fyd. Ein gwaith ni yw dy helpu di i gysylltu a thyfu, gan ofalu am bopeth ar dy ran 

Astudiaeth Achos Sero

“Roeddwn i ar ben fy nigon ’da lefel y cymorth gawson ni gan Ogi; bu dau aelod hynod o brofiadol ac uchel o dîm busnes Ogi yn gweithio’n agos ’da ni drwy’r holl broses. Felly roedd hi’n teimlo eu bod nhw’n estyniad o Sero.” 

~ Ellie Lancaster, Pennaeth Pobl, Sero 

Two staff members at Sero sat having a meeting and drinking coffee.

Ryn ni’n gefn i ti

Mae cymorth ein gwasanaethau rheoli yn golygu y bydd gennyt ti’r sicrwydd y byddwn ni ’na pan fydd arnat ti ein hangen ni. Byddwn ni’n cymryd camau rhagweithiol i fonitro dy adnoddau TG er mwyn gallu canfod a datrys pethau anarferol, a hynny’n aml cyn i ti hyd yn oed sylwi arnyn nhw. Gall cwsmeriaid busnes ddewis haenau gwahanol o gymorth, gan gynnwys llenwi y tu fas i oriau ar ran y tîm, sy’n golygu bydd gofal unigryw a phenodol ar gael o hyd. 

Tîm cyfan, ar dy ochr di

Bydd ein tîm ymroddedig yn gweithio ’da ti i ganfod blaenoriaethau’r busnes, gan gydweithio i ganfod yr ateb gorau. Ryn ni’n sicrhau hyblygrwydd a’r gallu i addasu cyn argymell strategaeth i weddnewid pethau’n ddigidol. Beth bynnag rwyt ti’n chwilio amdano, ryn ni ’ma i wneud dy fusnes di’n anorchfygol. 

Hoffet ti wybod mwy? Y cyfan sydd ei angen arnon ni yw mymryn o wybodaeth i gychwyn arni. Rho dy fanylion i mewn a gad y gweddill i ni.  

Cofrestra am fwy o wybodaeth

"*" indicates required fields

Enw*
Dy cyfeiriad ebost
This field is for validation purposes and should be left unchanged.