Sut 'allwn ni helpu?

Bilio a thalu

Mae angen help

Dechra ’da Ogi

Mae angen help

Fy offer Ogi

Mae angen help

Cyflymder dy wasanaeth

Mae angen help

Llais Ogi a llinell dir

Mae angen help

Cyflawni cymunedau

Mae angen help

Cwestiynau poblogaidd

Sut mae sicrhau gwasanaeth wrth Ogi?

Defnyddia’r chwiliwr i weld os yw Ogi’n gallu dy wasanaethu di nawr; neu cyn-gofrestra fel bod modd inni gadw mewn cysylltiad.

Gelli hefyd ffonio ein criw cyfeillgar ar 029 2002 0520 neuebostia sales@ogi.wales.

Os hoffet gysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg mae gennym Linell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru.

Sut ydw i’n gwybod os yw Ogi yn fy ardal?

Mae Ogi’n adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn mewn cymunedau ar hyd a lled y de ar y foment. Os wyt ti’n un o’r llefydd hyn – ac os yw Ogi wedi cysylltu dy stryd di, yna mae modd i ti dderbyn gwasanaeth nawr. Fel arall, cyn-gofrestra ac mi wnawn ni roi gwybod cyn gynted ag y mae’r rhwydwaith yn ‘fyw’ yn dy ardal di. Defnyddia’r chwiliwr i weld lle ryn ni, ffonia 029 2002 0520 neu ebostia sales@ogi.wales. Gelli gysylltu ar ein Llinell Gymraeg hefyd (029 2002 3200 / cymraeg@ogi.cymru.)

Os wyt ti’n gwsmer cartref yn y de – ond mewn ardal tu fas i un o gymunedau rhwydwaith Ogi, yna falle bod modd inni roi cyswllt o fath gwahanol i ti.

Ryn ni’n gallu gwasanaethu busnesau lle bynnag y maent yn y de. Ffonia 029 2002 0535 neu ebostia business@ogi.wales. Mae busnesau hefyd yn gallu defnyddio’r Llinell Gymraeg, wrth gwrs.

Sut mae canslo’r gwasanaeth?

Ma da ti 14-diwrnod i newid dy feddwl ar ôl gosod archeb da Ogi.

Er mwyn canslo, ffonia 029 2002 0535 neu ebostia sales@ogi.wales.

Os yw dy wasanaeth wedi cael ei osod yn barod, rwyt ti dal yn gallu canslo yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd angen i ti dalu’r costau gosod (£60) i Ogi, a danfon ein llwybrydd/llwybryddion nôl, mewn cyflwr da.

Sut mae dod â’r cytundeb i ben?

Unwaith mae’r cyfnod ‘oeri’ wedi dod i ben yna mae modd holi i derfynu dy wasanaeth. Rhaid gwneud hynny ar ‘bapur’ gyda 30 dydd o rybudd at cymraeg@ogi.cymru neu trwy lythyr.

Os wyt ti dal ar gytundeb yna bydd angen ad-dalu gweddill cyfnod y cytundeb i ni.

Bydd angen dychwelyd dy offer wifi hefyd. Mae’r broses yn syml: byddwn ni’n gyrru pecyn postio atat ti. Rho dy offer yn y pecyn, cer i Swyddfa’r Post, yna dychwela’r cyfan atom i’w ail-gylchu.  Byddwn ni’n codi ffi os nad yw’r offer yn cael ei ddychwelyd atom.

Oes modd imi enwebu rhywun i reoli fy nghyfri ar fy rhan?

Wrth gwrs. Cysyllta â ni ar ein Llinell Gymraeg at cymraeg@ogi.cymru neu  029 2002 3200 a gelli roi rheolwr ar dy gyfri sy’n gallu edrych ar ôl pethau ar dy ran.

Be os dwi’n symud tŷ?

Os wyt ti’n symud tŷ, mae’n bosibl y gallem ni symud dy wasanaeth draw i dy gyfeiriad newydd er mwyn gwneud bywyd yn haws i ti.

Bydd hyn yn dibynnu ar lle rwyt ti’n symud, a natur dy wasanaeth presennol. Rho floedd i sales@ogi.wales / 029 2002 0520 i weld os oes modd inni helpu.

Os nad yw Ogi’n gallu darparu gwasanaeth i ti yn dy gyfeiriad newydd, neu os nad wyt ti’n dymuno derbyn gwasanaeth Ogi yn y cyfeiriad hwnnw, yna bydd dy wasanaeth presennol yn dod i bem a bydd ein telerau arferol o ran dirwyn cytundeb i ben yn gymwys. Bydd angen i ti ddychwelyd dy lwybrydd/ion atom yn Ogi gan ddefnyddio’r pecyn postio fyddwn ni’n ei ddarparu i ti.

Os ydyn ni’n gallu darparu gwasanaeth i ti yn dy gartref newydd yna falle bydd ffi yn cael ei godi am osod y gwasanaeth. Gelli fynd â dy lwybrydd/ion da ti, ond bydd ishe trafod hyn gyda’r criw Gwerthu yn Ogi ar y manylion cyswllt uchod.

Os hoffet gysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg mae gennym Linell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru.

Beth sy’n digwydd os oes profedigaeth?

Os oes profedigaeth yn y teulu, yna gall y sawl sydd yn cynrychioli’r cwsmer ddod â’r cytundeb i ben heb gost, a dychwelyd y llwybrydd/ion i ni. Gallant hefyd drosglwyddo’r cytundeb i rywun arall, ar yr un telerau, a heb gost os hoffent wneud hynny.

Cadw mewn cysylltiad ’da ni – a ninnau ’da ti

Sut mae cysylltu ’da Ogi?

Os wyt ti’n gwsmer cartre, cysyllta ’da’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am-6pm.  Ffonia ni ar ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu anfona e-bost at cymraeg@ogi.cymru. Os byddai’n well gen ti ddefnyddio’r post, anfona lythyr i Gwasanaethau i Gwsmeriaid Ogi, Tŷ Ogi, Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Neu anfona neges uniongyrchol aton ni drwy Facebook, Instagram, neu Twitter.

Os wyt ti’n gwsmer busnes, ffonia 029 2002 2333 neu anfona e-bost at business.care@ogi.wales. Gwasanaethau Saesneg yw’r rhain ond croeso i ti hefyd ffonio ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu ebostio cymraeg@ogi.cymru unrhywbryd os wyt ti’n fusnes ac y byddai’n well gen ti wneud hynny.

Mae ein manylion cysylltu llawn yn yr adran Cysylltu ‘da ni ar y wefan.

Sut mae cwyno?

Dyw hi byth yn braf pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, ond gallwn ni helpu i ddatrys pethau: Anfona e-bost at cymraeg@ogi.cymru, ffonia ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200, neu anfona lythyr aton ni i’r cyfeiriad hwn: Gwasanaethau i Gwsmeriaid Ogi, Tŷ Ogi, Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY.

Mae copi llawn o’n Cod Cwynion i’w weld ar y wefan.

Pam eich bod chi am imi lenwi ffurflen cyn cofrestru?

Ryn ni yn y broses o adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn drwy’r de, a gallwn ni hefyd gynnig gwasanaethau cysylltu a chymorth busnes eraill.

Ryn ni’n gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb yn ein gwasanaethau i gofrestru eu diddordeb yn www.ogi.cymru, a byddwn ni hefyd yn gwerthu yn y maes, ond hynny heb fod unrhyw rwymedigaeth.

Cyn gynted ag y gallwn ni dy gysylltu di ’da gwasanaeth, byddwn ni’n cysylltu ’da ti roi gwybod iti.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch data, cer i’r adran Polisi Preifatrwydd ar y wefan.

Dw i ddim moyn cael eich negeseuon e-bost mwyach – sut mae eu stopio nhw?

Gelli di ein ffonio ni ar ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu anfon e-bost i cymraeg@ogi.cymru.

Bydd opsiwn hefyd yn ein negeseuon digidol i ddad-danysgrifio o’n rhestrau postio.

Sut mae gadael adborth?

Ryn ni wrth ein boddau’n cael adborth, yn dda neu’n ddrwg, gan fod hyn yn hanfodol er mwyn inni wella ein gwasanaeth. Gelli di roi caniad inni neu roi gwybod inni drwy ddefnyddio ein ffurflen adborth a-lein.

Sut mae newid/diweddaru fy manylion?

Gelli di ddiweddaru neu newid dy fanylion drwy roi caniad i’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid ar ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200, neu ebostia cymraeg@ogi.cymru.

Ein cwmni

Beth mae Ogi yn ei wneud?

Ryn ni’n rhoi gwasanaethau band eang ffeibr llawn i gartrefi a busnesau ledled Cymru, ac i rai rhannau o Loegr. Ystyr ffeibr llawn yw cysylltiad band eang ffeibr optig yn uniongyrchol i dy gartre neu dy fusnes. Mae hefyd yn cael ei alw’n gysylltiad FTTP, sy’n sefyll am ‘Fibre To The Premise’.  Ryn ni hefyd yn darparu rhai gwasanaethau cysylltu eraill, gan gynnwys gwasanaethau cysylltu a chymorth i fusnesau yng Nghymru.

Pam mae’r enw wedi newid?

Daeth Spectrum Internet a Net Support UK yn rhan o grŵp Spectrum Fibre yn 2020 – pan lwyddodd y cwmni i gael buddsoddiad conglfaen i ddarparu rhwydwaith band eang ffeibr llawn drwy’r de. Roedden ni am gael enw a fyddai’n adlewyrchu uchelgais newydd y cwmni, sef adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn a fydd yn gweddnewid gallu pobol yn y de i gysylltu ’da’i gilydd a ’da’r byd am genedlaethau i ddod. Erbyn hyn, mae enw Net Support UK hefyd wedi newid i Ogi Networks Limited.

Pam Ogi?

Yng Nghymru, mae Ogi yn air sydd wastad yn ennyn gwên neu ymateb. Mae’n siant y byddwn ni’n ei ddysgu pan fyddwn ni’n ddim o beth. Ryn ni’n ei gysylltu ’da chyfnodau hapus bywyd, pan fydd pobol yn ymgynnull, pan fyddwn ni am fynegi ein hundod a’n mwynhad. Mae mymryn o hiraeth yn perthyn iddo, ond i ni, mae’n golygu dyfodol llawn cysylltiadau gwell. Dyna pam ddewison ni Ogi yn enw: mae’n cysylltu pobol, yn y fan a’r lle.

Nam ar y gwasanaeth

Mae nam ar fy ngwasanaeth. Be wna’i?

Rho wybod, ac mi wnawn ni weld be sy’n digwydd.

Mae’n bosibl bod y nam ar ein rhwydwaith, ac – os felly – bydd ein criw yn gweithio i adfer y sefyllfa cyn gynted ag sy’n bosibl.

Os yw’r nam yn effeithio ar dy wasanaeth di’n unig, yna falle bod y nam ar y ffeibr i dy gartref neu dy offer. Efallai y bydd angen inni yrru Peiriannydd i weld – os felly, mi wnawn ni drefnu hyn gyda ti. Os yn ni’n taro draw, ac mai nid arnom ni mai’r bai, mae’n bosibl y bydd angen i ni godi ffi am yr ymweliad.