Ffeibr llawn sy’n barod am y dyfodol
Ogi 150
150Mbps
Cyflymder i lawr
Dydd Gwener Du Grêt
- 15Mbps cyflymber lan
- £0 i'w osod
- Un eero 6
£17y mis
Tymor o leiaf 24 mis. Pris o 01 Ebrill 2027 £20.00, a phris o 01 Ebrill 2028 £23.00.
Ogi 300
300Mbps
Cyflymder i lawr
Dydd Gwener Du Grêt
- 30Mbps cyflymder lan
- £0 i'w osod
- Un eero 6
£21y mis
Tymor o leiaf 24 mis. Pris o 01 Ebrill 2027 £24.00, a phris o 01 Ebrill 2028 £27.00
Ogi 1Gig
900Mbps
Cyflymder i lawr
Dydd Gwener Du Grêt
- 90Mbps cyflymder lan
- £0 i'w osod
- Un eero 7
£28y mis
Tymor o leiaf 24 mis. Pris o 01 Ebrill 2027 £31.00, a phris o 01 Ebrill 2028 £34.00
Band eang gwell i Gymru
Rhoi’r profiad band eang gorau posib i ti yw’r unig beth sy’n bwysig i ni. Mae darparwyr eraill yn aml yn defnyddio hen linellau ffôn copr, neu gyfuniad o ffeibr a chopr. Ond gennyn ni, byddi di’n cael dy linell ffeibr dy hun, a honno’n syth at garreg dy ddrws. Mae’n golygu y bydd dy gysylltiad yn gwbl ddibynadwy, ac y byddi di’n cael y cyflymder rwyt ti’n ei ddisgwyl.
Gwibgysylltiad
Cer 9 gwaith yn gynt na’r cyfartaledd cenedlaethol ’da ffeibr llawn Ogi.
Beth ye ffeibr llawn?Rhanna 'da Ffrind(iau)
Mynna taleb gwerth £40 yr un pan fydd rhywun yn ymuno a Ogi try defnyddio dy god unigryw.
Dere o hyd i sut.Mae newid yn haws
Mae rhai yn dweud mor hawdd ag un, dau, tri! Mae arbenigwyr Ogi yn barod i dy dywys drwy’r broses osod, o benderfynu ar y llwybr gorau ar gyfer y cebl band eang ffeibr llawn i sicrhau gallet fynd yn gynt na’r gwynt.
Gallwn naill ai ganslo dy contract presennol, neu cer amdani i brynu ar-lein heddi.
Beth am fy llinell ffôn?
Gofynna am becyn Llais Ogi wrth gofrestru, neu ychwanega’r gwasanaeth unrhyw bryd. Mae’n debyg i wasanaeth ffôn arferol, ond ei fod yn cael ei ddarparu dros dy linell ffeibr llawn. Mwynha alwadau clir fel cloch ac opsiynau hyblyg am bris anhygoel, a hynny heb linellau ffôn traddodiadol. Dewisa dy becyn, rho dy rif ffôn presennol i mewn, a dalia ati i sgwrsio, hyd yn oed heb dy rif ffôn presennol.
Rhanna 'da Ffrind(iau)
Mynna taleb gwerth £40 yr un pan fydd rhywun yn ymuno a Ogi try defnyddio dy god unigryw.
Felly rhanna ‘da dy gymydog, ffrind, neu aelod o’r teulu sy’n dal i gwyno am gyflymderau araf – dyma’r amser perffaith i sôn am Ogi.
Ishe mwy o wybodaeth?
Ryn ni ’ma i dy helpu i wneud y penderfyniad gore.
Sut ydw i’n gwybod a yw Ogi yn fy ardal i?
Mae Ogi wrthi’n creu rhwydwaith ffeibr llawn mewn cymunedau ledled y de, gyda rhagor i ddod whap. Defnyddia’r gwiriwr côd past i ganfod ble yn union ryn ni, ffonia ni ar 029 2002 0520 neu anfona e-bost i cymraeg@ogi.cymru.
Os wyt ti’n gwsmer cartre sy’n byw yn y de, ond ddim yn un o gymunedau rhwydwaith Ogi, efallai y gallwn ni roi gwasanaeth gwahanol i ti.
Fe allwn ni roi gwasanaethau i fusnesau ble bynnag maen nhw yn y de. Ffonia 029 2002 0535 neu anfona e-bost.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y broses osod?
Bydd y broses osod arferol yn cymryd hyd at 1.5 awr. Bydd y tîm yn gosod dy gysylltiad ffeibr llawn, ac yn sicrhau bod dy lwybrydd neu lwybryddion yn barod.
Beth os bydda’ i’n symud tŷ?
Os wyt ti’n bwriadu symud tŷ, efallai y bydd modd i ti symud dy wasanaeth i dy gyfeiriad newydd, er mwyn lleihau’r drafferth a gofalu nad wyt ti’n colli’r gwasanaeth.
Bydd ein gallu i wneud hyn yn dibynnu ar ble mae dy gartre newydd, ac ar natur dy wasanaeth ’da ni ar hyn o bryd. Cysyllta ’da sales@ogi.wales neu ffonia 029 2002 0520 i weld a oes modd i ni helpu.
Os na fydd modd i ni gynnig gwasanaeth i ti yn dy gartre newydd, neu os byddi di’n dewis peidio â chael gwasanaeth Ogi yn dy gyfeiriad newydd, yna bydd angen dod â dy wasanaeth presennol i ben. Bydd ein telerau arferol ar gyfer terfynu gwasanaeth yn berthnasol. Bydd angen i ti ddychwelyd dy lwybrydd neu lwybryddion aton ni, gan ddefnyddio pecyn i’w ddychwelyd yn y post y byddwn ni’n ei roi i ti.
Os bydd modd i ni gynnig gwasanaeth i ti yn y dyfodol, efallai y bydd angen i ti dalu ffi gosod yn dy gyfeiriad newydd. Mae modd i ti ddewis mynd â dy lwybrydd neu dy lwybryddion ’da ti, ond trafoda hyn â’n tîm gwerthu.
Ond mae gen i gontract yn barod?
Mae’n werth holi dy ddarparwr presennol i weld faint fyddai hi’n ei gostio i ddod â dy gontract i ben yn gynnar. Neu rho wybod i’n tîm gwerthu pryd mae’n dod i ben, ac fe allwn ni gysylltu yn ôl bryd hynny!