Sdim shwd beth â dydd Llun diflas

Datblyga dy yrfa ochr yn ochr â thîm arobryn gyda chymunedau wrth wraidd popeth!
Bounce Arrow

Swyddi Cyfredol

Oi! Oi! Oi!

Ni yw’r cwmni band eang o Gymru; ar daith i sicrhau bod band eang ffibr llawn ar gael yn ein cymunedau ledled y genedl.

Mae gennym uchelgeisiau mawr ac ryn ni’n chwilio am y bobl orau i’n helpu ni i wneud iddo ddigwydd. Ymuna â thîm sy’n agored ac yn gynhwysol; cyflogwr cyfleoedd cyfartal, sy’n ymdrechu i hyrwyddo ac adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau ryn ni’n eu gwasanaethu. Ryn ni’n adeiladu tîm sy’n adlewyrchu’r gorau o Gymru heddiw, a’r byd ehangach o’n cwmpas.

Swnio’n debyg i le i ti? Yna dere i mewn!

Dyfodol disglair yn marchnata, gwerthu, technoleg gwybodaeth a mwy...

Dere i weithio gyda’r cwmni wedi creu yng Nghrymu.

Mae ‘na le i bawb

Mae Ogi rownd y gornel, ar draws y fordd, hyd a lled y de. O’n pencadlys yng nghanol dinas Caerdydd, i’n tair canolfan waith yng Nghasnewydd, Tongwynlais a San Clares, mae croeso cynnes ym mhob man.

Fel cwmni technoleg, ryn ni dwli ar y dechnoleg sy’n gwneud ein swyddi’n well hefyd: ryn ni’n cynnal ‘Huddles’ rheolaidd ar-lein, ac yn cefnogi gweithio hybrid os yw hynny’n gweithio i ti a dy rôl.