Gwasanaeth Llais Ogi Pro

Cadwa mewn cyswllt â dy gwsmeriaid
Bounce Arrow

Pam Gwasanaeth Llais Ogi Pro?

Sgwrsio yw hanfod busnes da. Os oes angen un llinell arnat ti, neu ganolfan alwadau o’r iawn ryw, dyma system ffôn hyblyg a fydd yn galluogi ffonau desg, ffonau symudol, gliniaduron a chyfrifiaduron i gyd i wneud galwadau wifi. Ac fe allwn ni gyfuno hyn â Microsoft Teams, ’fyd. 

Gyda’r Rhwydwaith Ffôn Cyhoeddus Analog (PSTN) yn diffodd cyn hir, bydd angen i fusnesau symud o’r hen linellau tir copr i systemau ffôn digidol Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd (VoIP) er mwyn cadw mewn cyswllt â’u cwsmeriaid.  

Cysylltiad cyflym, dibynadwy

Ryn ni’n rhoi band eang ffeibr llawn cyflym, dibynadwy i wneud galwadau clir fel cloch heb ddim oedi

Un ateb i bopeth

Manteisia drwy uwchraddio’n ddirwystr i systemau ffôn digidol heb ddiffodd dim ac heb unrhyw darfu mawr.

Arbenigwyr o hyd wrth law

Mae arbenigwyr technolegol lleol ar ein desg wasanaeth a’r rheini’n gallu canfod a datrys problemau’n gyflym er mwyn dy gadw mewn cyswllt â dy gwsmeriaid.

Beth yw ystyr y Rhwydwaith Ffôn Cyhoeddus Analog i dy fusnes di?

Yn y ddwy flynedd nesa, bydd y rhwydwaith ceblau copr y gallet ti fod yn ei ddefnyddio i ffonio pobl o dy fusnes yn cael ei ddiffodd. Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd (VoIP) fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud pob galwad lais yn y dyfodol. Mae sawl mantais i hyn

Mae VoIP yn rhatach

Mae VoIP yn defnyddio cysylltiad rhyngrwyd sy’n bodoli’n barod i wneud galwadau yn hytrach na rhwydwaith ffôn penodol, felly byddi di’n osgoi talu ffioedd a chostau rhentu llinell, a galli di gynyddu maint dy waith yn gyflym

Outline icon of a handshake in blue

Mae VoIP yn fwy hwylus

Mae modd ffonio o unrhyw le gan ddefnyddio unrhyw ddyfais, ailgyfeirio galwadau, a gwneud galwadau cynadledda a rhannu deunydd mewn gwahanol gyfryngau yn ystod sgwrs.

Mae VoIP yn fwy diogel

Mae gwasanaeth VoIP Ogi Pro yn gallu amgryptio galwadau ac awdurdodi’n ddiogel i atal hacwyr (neu unrhyw un arall) rhag gwrando.

Dere i ni gychwyn arni...

Os wyt ti am gael darparwr VoIP sydd hefyd yn gallu cynnig gwibgysylltiad yn y gweithle, a hwnnw’n barod am y dyfodol, ynghyd â gwasanaeth penigamp i gwsmeriaid, fe all Ogi dy helpu di. O un llinell ffôn i ganolfan gyswllt gyfan, fe allwn ni dy gysylltu gan ddefnyddio technoleg VoiP (llinellau ffôn dros y rhyngrwyd). Technoleg yw hon sy’n addas i’r genhedlaeth nesa ac yn cynnwys popeth y bydd ei angen arnat ti. Y cyfan sydd ei angen arnon ni yw mymryn o wybodaeth i gychwyn arni. Rho dy fanylion i mewn a gad y gweddill i ni.

Cofrestra am fwy o wybodaeth

"*" indicates required fields

Enw*
Dy cyfeiriad ebost
This field is for validation purposes and should be left unchanged.