Manteisia i’r eitha ar dy fand eang ffeibr llawn

8 Medi 2023
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Manteisia i’r eitha ar dy fand eang ffeibr llawn

A yw dy fywyd ar-lein ’da Ogi yn ei lawn nerth? Darllena’r cyngor gwerth chweil isod i gael y signal wifi cryfaf a’r cysylltiad rhyngrwyd gorau posib.

Dere o hyd i’r lle gorau i dy offer

Mae dy lwybrydd yn anfon signalau i bob cyfeiriad. Felly’n ddelfrydol, rwyt ti ’moyn iddo fod yn rhywle sy’n weddol ganolog, agored, ac oddi ar y llawr, fel nad yw’n gwastraffu signal drwy ei anfon mas i’r stryd neu lawr i’r ddaear. Po uchaf yw’r llwybrydd ar y llawr gwaelod, y mwya tebygol wyt ti o gael signal gwell lan staer.

  • Mae waliau, silffoedd a chypyrddau i gyd yn gallu gwanhau’r signal, felly gallai symud dy lwybrydd i rywle agored wneud byd o wahaniaeth i dy gyflymder, ac i ba mor bell y gall dy wifi gyrraedd.
  • Ceisia wneud yn siŵr nad yw eitemau trydanol eraill yn ymyrryd (fel argraffydd, teledu neu ffôn di-wifr cyfagos).
  • Ceisia osgoi arwynebau metel a rhai sy’n adlewyrchu golau (fel cypyrddau metel, tanciau dŵr a drychau) – mae’r rhain yn gallu amharu ar y signal neu ei wanhau.
  • Paid â rhoi’r llwybrydd yn y gegin. Ar wahân i’r risg o sblasio bwyd, mae’n bosib y bydd dy lwybrydd a dy feicrodon yn defnyddio’r un sianel 2.4GHz.

Gyda llaw, paid â thybio bod yn rhaid i lwybrydd newydd Ogi fynd i ble mae’r prif soced – fe alli di wastad ddefnyddio ceblau hirach os bydd angen hynny.

Mae canolfan gymorth eero hefyd yn rhoi canllaw da ar gyfer gosod llwybryddion eero.

Defnyddia gebl Ethernet

Pan fyddi di ’moyn y signal rhyngrwyd gorau posib, ceisia ddefnyddio cebl Ethernet. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r rhain ar gyfer teledu clyfar a blychau ffrydio ac i chwarae gemau ar gyfrifiaduron.

Cadwa dy wifi yn ddiogel

Nid yn unig y bydd cael cyfrinair ar dy rwydwaith yn rhwystro hacwyr, mae hyn hefyd yn rhwystro pawb arall yn yr ardal rhag manteisio (a gallai hynny arafu dy rwydwaith yn arw).

Yn dal i ddefnyddio dy hen lwybrydd?

Er bod ailddefnyddio offer yn beth da, os na fydd dy hen lwybrydd yn gallu cadw lan ’da chyflymder y rhyngrwyd heddiw (er enghraifft, os mai dim ond ’da wifi 4 y mae’n gweithio), yna efallai ei bod hi’n bryd i ti gael llwybrydd newydd.

Os nad wyt ti ’da Ogi ar hyn o bryd, ond yn bwriadu ymuno, fe fyddi di’n falch o glywed y byddwn ni’n rhoi llwybryddion sy’n cyrraedd safon wifi 6 (802.11ax WLAN), er mwyn i bawb fanteisio i’r eitha ar ein gwasanaeth ffeibr llawn.

Diffodda ddyfeisiau nad wyt ti’n eu defnyddio

Os nad wyt ti’n defnyddio’r wifi ar unrhyw ddyfeisiau ‘clyfar’ (peiriant golchi, sugnwr llwch robot, bylb golau rhyfeddol…) cofia droi’r cysylltiad bant. Cofia hefyd ei bod hi’n bosib y bydd dyfeisiau sydd wedi gweld dyddiau gwell yn cysylltu’n arafach.

Cadwa olwg ar dy gyflymder

Ryn ni i gyd yn mynd yn gynt na’r gwynt ’da ffeibr llawn! Felly, os gweli di bod pethau’n arafu ar adegau prysur, mae’n werth edrych i weld beth mae pawb arall yn y tŷ yn ei wneud ar y rhwydwaith, a sawl dyfais sy’n defnyddio’r wifi ar yr un pryd (fe allai fod yn fwy na’r disgwyl!).  Mae’r holl ddyfeisiau sy’n cael eu defnyddio ar yr un pryd yn rhannu’r cyflymder. Felly os oes gen ti wasanaeth 150Mbps a phum dyfais wedi’u cysylltu, bydd y pum dyfais yn lawrlwytho ar gyfartaledd o 30Mbps yr un.

Dyna pam ein bod ni’n cynnig gwahanol becynnau, Ogi 150, Ogi 300 ac Ogi 900, er mwyn i’r aelwydydd mwya prysur gael gwibgysylltiad, hyd yn oed.

Fe all cyflymder y rhwydwaith amrywio am nifer o resymau, ac er na allwn ni warantu ffigur penodol, ryn ni’n gwybod o’r ffigurau cyfartalog y dylet ti fod yn cael o leiaf hanner y cyflymder lawrlwytho sydd wedi’i hysbysebu, a hynny yn ystod yr oriau brig. Hyd yn oed ’da Ogi 150, dyna lawer mwy o hyd na’r cyfartaledd cenedlaethol o 54.9Mbs (Ofcom, 2022), felly mae hynny’n beth da.

Os wyt ti’n teimlo bod rhyngrwyd Ogi braidd yn araf, rho gynnig ar brofi dy gyflymder ar wahanol adegau dros ddiwrnod neu ddau. I gael y canlyniadau cywiraf, fe ddylet ti gysylltu dy ddyfais yn uniongyrchol â’r llwybrydd gan ddefnyddio cebl Ethernet, a diffodd unrhyw ddyfeisiau eraill rwyt ti’n eu defnyddio. Drwy brofi’r cyflymder ’da dim ond un ddyfais wedi’i chysylltu, bydd modd gweld cyflymder cyffredinol dy wasanaeth.

Os bydd y canlyniadau yn wahanol i’r disgwyl, rho wybod i ni drwy cysylltu â ni, ac fe wnawn ni’n gorau glas i helpu.

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb