Gall ymdopi ä Dydd Gwener Du ar-lein fod ychydig yn llethol, ond drwy fwrw ati yn y ffordd iawn, mae bargeinion gwych i’w cael, a fiw iti eu colli. Dyma ein cyngor gwych i fanteisio i’r eithaf ar benwythnos gorau’r byd manwerthu i wneud arbedion – a hynny o gysur y soffa.
Dim ond os oeddet ti eisiau rhywbeth y mae’n fargen dda. Gwna restr o’r pethau rwyt ti eisiau, a gosoda gyllideb realistig i ti dy hun. Mae’n braf gwybod beth allet dalu – yn ogystal â beth rwyt ti’n barod i dalu.
Os wyt ti’n siopaholig go iawn, digon o fyrbrydau amdani, a phyjamas hefyd – mae hyn am gymryd sbel, felly mae angen bod yn gyfforddus.
Cofrestra i gael cylchlythyron y manwerthwr er mwyn sicrhau mai ti fydd y cyntaf i glywed am fargeinion chwim ac anhygoel. Bydd llawer o fanwerthwyr yn rhoi blas o’u cynigion neu hyd yn oed yn ymestyn penwythnos Dydd Gwener Du am gyfnod hwy. Felly mae’n braf gwybod cyn i’r torfeydd ddod i glywed am y fargen.
Yn aml, hyn a hyn o eitemau a fydd ar gael. Gyda chynifer o gwsmeriaid, mae angen i ti fod ym mlaen y ciw. Paid â phoeni – fe allet ti wastad ddad-danysgrifio ar ôl prynu’r twba poeth pwmpiadwy yna am glamp o fargen.
Efallai y bydd hyn yn swnio’n od, ond bydd rhai manwerthwyr yn cynnig bargeinion gwahanol ar ddyfeisiau gwahanol, felly mae hi wastad yn werth cymharu rhwng dy ffôn a cyfrifiadur rhag ofn. A chofia gyrraedd yn gynnar… wedi’r cyfan, y cyntaf i’r felin gaiff falu (neu gaiff fargen band eang ffeibr llawn anhygoel, falle ?).
4. Chwilia mewn gwahanol siopau
Bydda’n bwyllog, ac edrycha (yn rhithwir) mewn gwahanol siopau – agora’r holl dabiau – a gofala dy fod yn cael y fargen orau un. Bydd gan bron bawb ryw fath o fargen ar gael, felly cer i fusnesa cyn clicio i dalu am ddim byd.
Bydd botiau diegwyddor o gwmpas a fydd â chynigion sy’n rhy dda i fod yn wir. Edrycha am y clo clap diogel pryd bynnag y byddet ti’n siopa ar-lein. Drwy wneud hynny, bydde ti’n gwybod bod y safle’n un y gallet ymddiried ynddo. Os yw’n edrych yn rhy dda i fod yn wir – hyd yn oed ar Ddydd Gwener Du, ffonia’r manwerthwr. Fe all hwnnw gadarnhau’r fargen ac efallai dy helpu i brynu dros y ffôn, hyd yn oed.
Dydy wifi sy’n byffro yn dda i ddim i neb! Y peth olaf rwyt ti eisiau yw gweld yr olwyn honno’n troelli (neu’n rhewi!) a tithau’n barod i dalu. Gofala fod gen ti’r cysylltiad gorau posibl – oni bai, wrth gwrs, dy fod yn aros i gofrestru i gael ffeibr llawn Ogi ?
Gall siopa ar-lein fod yn gystadleuol ar Ddydd Gwener Du, ac efallai y bydd gwefannau’n araf yn llwytho neu’n methu’n llwyr. Bydd yn amyneddgar a dalia ati os mai dyna’r ffriwr aer rwy ti wir ei eisiau (mam bach, ie wir!)
Byw yn un o’n cymunedau ffeibr llawn ac eisiau bod yn un o’r rhai cyntaf i wybod pryd mae Ogi’ ar gael. Cofrestra i’n rhestr aros a byddwn yn rhoi gwybod i ti pan fydd ein ffeibr llawn gyflym a dibynadwy iawn wedi cyrraedd eich drws.