Pontypandy ar dân i fynd yn gynt

1 Ebrill 2024
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Pontypandy ar dân i fynd yn gynt

Pentref eiconig Pontypandy sy’n paratoi i ymuno â chwyldro ffeibr llawn Cymru nesaf, wrth i  Ogi dechrau gwaith yn yr ardal.

Y pentref cyntaf yn Sir Powys i elwa o fuddsoddiad Ogi, mae gwaith yn dechrau yr wythnos hon, gyda chynlluniau i gysylltu’r rhan fwyaf o gartrefi a busnesau – gan gynnwys yr orsaf dân lleol – o fewn wythnosau.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn ychwanegu at rwydwaith cynyddol Ogi ledled de Cymru, sy’n gwario miliynau o bunnoedd ar draws de Cymru ar hyn o bryd.

Bydd y rhwydwaith pwrpasol ar gael i fusnesau lleol a gwasanaethau cyhoeddus hefyd, gyda mynediad at gymorth a gwasanaethau TG o’r radd flaenaf yn rhoi cyfle i weithleoedd lleol o bob math fod yn fwy cynhyrchiol, effeithlon a chystadleuol.

Gan ganolbwyntio ar drefi a phentrefi gwledig ac ôl-ddiwydiannol yn bennaf, mae Ogi bellach yn cael eu ystyried fel y darparwr band eang o ddewis i Gymru.

Wrth sôn am y newyddion diweddaraf, dywedodd y Prif Weithredwr, Ben Allwright: “Ryn ni wrth ein boddau bod yn dod a’n rhwydwaith i trigolion ym Mhontypandy yr wythnos hon – cymuned sy’n adnabyddus yng Nghymru a thu hwnt. Mae gennym uchelgais i gyrraedd cymunedau llai – y rhai sy’n aml yn cael eu gadael ar ôl – sy’n cyfrannu’n haul at economi Cymru.

“Rydw i – a thîm Ogi – yn edrych ymlaen at gwrdd â chymeriadau lleol wrth i’r gwaith dechrau dros yr wythnosau nesaf.”

Ychwanegodd cymeriad lleol, Norman Price: “Mae’n wych! Mae mam yn hapus iawn am y peth – yn dweud bydd yn fy nghadw allan o drafferth unwaith ac am byth.

“Mae’r dref ar dân gyda chyffro, allwn ni ddim aros i Ogi ddod nawr!”

Gyda chyflymder llwytho i lawr ar gyfartaledd yn cyrraedd tua 50Mbps yn y cymoedd cyfagos yn ôl Thinkbroadband, mae rhwydwaith ffeibr llawn Ogi bedair gwaith yn gyflymach, gyda phecynau yn dechrau o £15 y mis.

Mae cyflymderau fel rhain yn golygu y gellir lawrlwytho gemau fideo poblogaidd fel Grand Turismo 7 mewn munudau o’i gymharu ag oriau, gyda defnyddwyr hefyd yn gallu cael profiad mwy clir with ffrydio ffilmiau 4K a bocssets poblogaidd.

Gyrrodd Ogi i’r llwyfan gyda chynllun uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd yn ôl yn 2021 ac ers hynny mae wedi tyfu deg gwaith; gan cyflogi mwy na 220 o staff a chefnogi cannoedd o swyddi lleol drwy ei gadwyn gyflenwi a prif gontractwr.

Mae’r brand bellach wedi cyrraedd dros 100,000 o ddrysau ac wedi cofrestru dros 15,000 o gwsmeriaid i’w rwydwaith ffeibr llawn – gan osod cysylltiadau newydd yn rhai o leoliadau mwyaf gwledig Cymru, yn aml heb fawr ddim seilwaith sy’n bodoli eisoes. Mae’r busnes yn un o’r brandiau sy’n tyfu cyflymaf yng Nghymru, gan fuddsoddi £200m fel rhan o’i gynlluniau cam cyntaf.


Ddim yn byw ym Mhontypandy? Dere i ni gael gweld os ma’ Ogi ar gael yn dy ardal di…

Rho dy god post i mewn isod a byddwn yn gwirio i weld a wyt ti’n byw yn un o’n cymunedau ffibr llawn.

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb