Cymunedau’n paratoi at y Nadolig gydag Ogi

30 Tachwedd 2023
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Cymunedau’n paratoi at y Nadolig gydag Ogi

Mae trefi a phentrefi ar draws de Cymru yn paratoi ar gyfer y Nadolig gydag ychydig o help gan ddarparwr band eang cartref Cymru – Ogi.

Wrth i gymunedau ddod at ei gilydd y gaeaf hwn, bydd ‘coblynnod cymunedol’ Ogi yn cynnig help llaw gan gefnogi digwyddiadau lleol a grwpiau cymunedol hyd at wythnos y Nadolig.

Gan ddechrau gyda Gorymdaith Nadolig yn nhre Maesteg ddydd Sadwrn 02 Rhagfyr – lle mae disgwyl i gannoedd ymuno – bydd tîm cymunedol Ogi yn helpu goleuo coeden Nadolig Nylnod, mewn partneriaeth â phrif gontractwr gorllewin Cymru, Network Plus, cyn mynd am damaid i fwyta yn Ffair Bwyd a Chrefft Gaeaf Caerffili ac yn gorffen gyda diwrnod Dickensaidd yn Ninas Powys.

Ochr yn ochr ag ymddangosiadau yn rhai o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf adnabyddus de Cymru, bydd y tîm hefyd yn casglu rhoddion bwyd a theganau i’w rhoi i ffwrdd yn lleol – gyda staff o bob rhan o’r busnes yn cymryd rhan hefyd.

Ar ôl blwyddyn o roi, mae hynny wedi cynnwys dros £40,000 a roddwyd i glybiau llawr gwlad leol ac achosion da drwy’r gronfa gymunedol arobryn ‘Cefnogi’, bydd y tîm hefyd yn parhau i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli, gan ychwanegu at y dros 2,500 o oriau a dreuliwyd eisoes yn helpu yn y gymuned.

Wrth siarad am y rhestr o ddigwyddiadau, dywedodd Louise Clement, Arweinydd Ymgysylltu â’r Gymuned Ogi: “Mae’r Nadolig yn esgus gwych i ddod â phobl at ei gilydd – yn enwedig yn ein cymunedau; ac mae’r staff yn rowlio eu hunain i gymryd rhan, fel maen nhw wedi gwneud trwy’r flwyddyn.

“Mae’n gyfnod anodd o’r flwyddyn i gymaint o bobl, ond mae’n anhygoel gweld cymaint o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn ein cymunedau eleni, gyda rhywbeth i bawb – ac rydyn ni’n falch o allu chwarae rhan fach yn y weithred!”

Bydd tîm cymunedol Ogi allan hyd at y Nadolig, yn cefnogi digwyddiadau cymunedol a grwpiau lleol yn y cyfnod cyn y gwyliau.

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb