Opsiynau cymorth i gwsmeriaid newydd yn lansio

22 Ionawr 2024
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Opsiynau cymorth i gwsmeriaid newydd yn lansio

Gan ddechrau’r flwyddyn gyda chynnig pris a chyflymderau newydd, mae Ogi hefyd wedi buddsoddi mewn darpariaeth gofal cwsmeriaid; o gynyddu’r nifer o asiantau sydd ar gael ac ymestyn ein horiau agor,  yn cynnwys cymorth hunain-wasanaeth ar gael ar-lein.

Gan wella’r offer hunangymorth ar y wefan hefyd, mae ein tudalennau ar-lein newydd yn cynnwys canllawiau ar bynciau o gysylltu blychau pen set â chwestiynau bilio a helpu i sefydlu gwasanaethau llais digidol.

Yn siarad am y gwasanaethau newydd, dywedodd ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cwsmeriaid, Greg Hay: “Ryn ni i gyd yn byw bywydau sy’n gynyddol brysur ac nid yw ein hanghenion cymorth bob amser yn cyd-fynd â’r 9-5 traddodiadol.

“Mae’r rhyngrwyd yn gyfleustodau hanfodol erbyn hyn, ac mae cael gafael ar gymorth pan nad yw’n gweithio yn ôl y disgwyl mor bwysig – yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf gwledig ryn ni’n gwasanaethu ynddo.

“Rwy’n gobeithio bydd yr oriau newydd, ac offer hunangymorth ar-lein yn helpu i roi hwb i’r profiad – gan sicrhau bod ein cwsmeriaid yn medru cael gafael ar gymorth sut a phryd maen nhw ei angen fwyaf.”

Yn dilyn treial llwyddiannus ym mis Rhagfyr, mae gofal i gwsmeriaid bellach ar gael dros y ffôn ac ar-lein saith diwrnod yr wythnos, ochr yn ochr ag adran gymorth ar-lein newydd a gynhelir ar wefan Ogi.

Mae Ogi bellach wedi cofrestru dros 10,000 o gwsmeriaid i’w rwydwaith ffeibr llawn, gan osod cysylltiadau newydd yn rhai o leoliadau mwyaf gwledig Cymru, yn aml heb fawr ddim seilwaith eisoes. Mae’r brand herwyr wedi ennill enw da yn gyflym am ei ymroddiad i gymunedau ac mae’n cael ei raddio’n gyson yn ‘rhagorol’ ar safleoedd adolygu fel Trustpilot.

Mae’r ffocws newydd hwn ar brisio cystadleuol a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid, heb leihau ansawdd cyflymder – yn hytrach ei gynyddu – yn rhan o ffocws cychwynnol Ogi yn 2024 ar ei frand ISP i’r cartref.

Mae’r rhwydwaith yn parhau i gael ei fonitro 24/7 gan dîm o beirianwyr rhwydwaith mewnol, a bydd y cam newydd hwn yn golygu bod y tîm Gofal Cwsmeriaid yn gweithio’n agosach gyda’r tîm rhwydwaith i wella cyfathrebu â chwsmeriaid pan fydd alldafliadau’n digwydd.

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb