Lliniaru’r pwysau ar gartrefi gyda band eang am ddim am chwe mis

26 Medi 2022
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Lliniaru’r pwysau ar gartrefi gyda band eang am ddim am chwe mis

Mae bargen Ogi Max, sydd ar gael ar draws y trefi a’r pentrefi lle y mae Ogi yn cyflwyno ei rwydwaith newydd Gigabit-alluog, yn darparu i gartrefi sy’n ymrwymo i gontractau 24 mis y pedwerydd cyfleustod am ddim am y chwe mis cyntaf.

Mae’r darparwr band eang, sydd hefyd wedi gostwng 10% ar brisiau ei becynnau cyffredinol, gan eu pennu hyd o leiaf Ebrill 2023, yn amcangyfrif y gallai cwsmeriaid arbed hyd at £390, yn dibynnu ar y pecyn y maen nhw’n ei ddewis.

Mae’r fargen wedi’i llunio i gynnig gwasanaethau ffeibr llawn Ogi, sy’n unigryw mewn llawer o’i ardaloedd cyflwyno, heb ychwanegu’n syth at wariant cartrefi sydd eisoes dan straen. Gyda sgoriau boddhad cwsmeriaid cryf sydd y tu hwnt i 95% yn gyson – llawer uwch na safon y diwydiant sef 85% – mae’r darparwr sydd wedi’i leoli yng Nghymru yn datblygu enw da cadarnhaol iddo’i hun am ei wasanaethau cynhenid a’i gymorth i gwsmeriaid.

Dywedodd Prif Swyddog Refeniw Ogi, Sally-Anne Skinner: “Rydyn ni i gyd yn teimlo’r wasgfa ar hyn o bryd, ac yma yn Ogi rydyn ni eisiau helpu pobl i reoli’r pwysau gyda chynnig heb amodau ynghlwm ag ef. Nid yn unig y bydd cartrefi yn arbed costau cyfleustodau band eang; ond gall band eang cyflym a dibynadwy leihau costau eraill i gartrefi hefyd: gan ein helpu i weithio gartref heb orfod cymudo; dod ag adloniant gwell inni heb orfod talu am fynd allan; hyd yn oed ein galluogi i reoli ein biliau trydan a gwresogi drwy dechnolegau clyfar, cysylltiedig.

“Mae cynnig ein gwasanaethau i gwsmeriaid newydd am ddim am chwe mis yn teimlo fel y peth iawn i’w wneud, ac yn galluogi pobl roi cynnig ar ein gwasanaethau, gyda thawelwch meddwl na fyddant yn talu dim tan y Gwanwyn y flwyddyn nesaf. Ar ben hynny, rydyn ni’n hyderus pan fydd pobl yn ymuno, y byddan nhw’n aros gyda ni ac yn dod yn lladmeryddion dros Ogi yn y tymor hir!”

Ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithredol, Ben Allwright: “Ogi yw’r cwmni rhyngrwyd sydd wedi’i greu a’i wreiddio yng Nghymru. Rydyn ni’n sbarduno chwyldro digidol mewn cymunedau o Sir Benfro i Sir Fynwy, gan wreiddio cysylltedd y genhedlaeth nesaf – a’r posibiliadau sy’n dod yn ei sgil – yng ngwead ein trefi a’n pentrefi.”

“Gyda chwmnïau cyfleustodau eraill yn codi eu prisiau, fel darparwr pedwerydd cyfleustod, rydyn ni’n falch o fod mewn sefyllfa i gefnogi cwsmeriaid Cymru fel hyn, gan ddod â gwasanaeth sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth mawr i lawer mwy o bobl y gaeaf hwn a thu hwnt.”

Ble mae’r fagl? Does dim un. Fel gyda phob darparwr band eang, y cyfan sydd angen i gwsmeriaid ei wneud yw ymrwymo i gontract 24-mis. Ar ôl i gyfnod y cynnig ddod i ben, bydd cwsmeriaid yn parhau â chyfradd sefydlog ar un o dariffau cystadleuol Ogi am weddill cyfnod y cytundeb [18 mis].


 

Y cyntaf i’r felin

Byw yn ne Cymru ac eisiau bod yn un o’r rhai cyntaf i ddarganfod pryd mae Ogi ar gael. Cofrestra i’n rhestr aros a byddwn yn rhoi gwybod pan fydd ein ffeibr llawn gyflym a dibynadwy iawn wedi cyrraedd dy stepen drws.

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb