Mae dros 33 miliwn o chwaraewyr gemau brwd ym Mhrydain, ac mae 1.8 miliwn o bobl yn defnyddio apiau i chwilio am gariad. Mae dod o hyd i gymar ar-lein, felly, yn gallu bod yn dipyn o dalcen caled. Dyma stori Jake a Cerys.
Pan wnaeth Jake a Cerys o Gaerfyrddin, sydd wrth eu boddau’n chwarae gemau cyfrifiadurol, sweipio i’r chwith cyn dechrau pandemig y coronafeirws, prin y gallen nhw fod wedi dychmygu beth oedd o’u blaenau.
A hwythau’n cwrdd ar-lein ychydig fisoedd cyn y cyfnod clo cynta’, llwyddodd y ddau i ymdopi ’da’r cyfyngiadau drwy chwarae gemau ’da’i gilydd. Fe wnaeth Cerys hyd yn oed gynnig consol sbâr i Jake, er mwyn iddyn nhw allu parhau i chwarae gemau yng nghanol y pandemig.
“Mae chwarae gemau’n rhan fawr iawn o’n bywydau ni. A dweud y gwir, dyna sut ryn ni wedi cwrdd â llawer o’n ffrindiau – a dyna sut wnaethon ni gysylltu ’da’n gilydd y tro cynta’”
Wrth i’r cyfyngiadau lacio, fe aeth y ddau amdani a symud i mewn ’da’i gilydd, gan ddod â chylch o ffrindiau niferus o bob cwr o’r byd sy’n chwarae gemau ’da nhw.
Cyfartaledd y cyflymder lawrlwytho ’da’r band eang lleol oedd tua 67Mbps, sy’n golygu nad oedd eu cysylltiad yng Nghaerfyrddin yn rhoi digon o fantais gystadleuol iddyn nhw. Bydden nhw’n chwarae gemau yn aml o amgylch y tŷ, gyda Cerys lan staer mor bell ag y gallech chi fod o’r llwybrydd, a Jake yn yr ystafell fyw. Byddai’r cysylltiad yn methu’n aml, gan achosi cryn rwystredigaeth ar adegau tyngedfennol mewn gemau.
“Byddai lawrlwytho a diweddariadau’n cymryd oriau. A ninnau heb lawer o amser ’da’n gilydd, ryn ni moyn ei ddefnyddio’n chwarae gemau ’da’n ffrindiau, yn hytrach nag yn aros i ddiweddariadau gael eu gosod.”
Gyda babi newydd ar ei ffordd, credai’r ddau y gallai eu bywydau yn chwarae gyda nifer o bobl eraill fod drosodd, gyda’r cyflymder ara’n arwydd o hynny.
“Roedd cael babi newydd yn golygu cryn addasu, ac fe aeth ein bywydau’n fwy prysur fyth. Fe ddechreuon ni ddefnyddio ein technoleg i helpu i amseru’r coginio neu i chwarae hwiangerddi i Faye, y babi.”
Golygodd y straen ychwanegol ar eu cysylltiad ar ôl i Faye y babi gyrraedd fod y ddau ar ben eu tennyn – a dyna ble mae Ogi’n camu i mewn i’r stori.
“Cawson ni gnoc ar y drws gan Ogi – yn llythrennol ar yr union adeg iawn. Fe ofynnon nhw a oedden ni am dreialu eu gwasanaeth band eang ffeibr llawn, ac fe achubon ni ar y cyfle’n syth.”
Gan gynnig gwibgysylltiad, a chymorth technolegol ar gyfer dyfeisiau niferus, cofrestrodd y ddau i gael Ogi 900 – sydd â chyflymder lawrlwytho safonol o 900Mbps a chyflymder uwchlwytho safonol o 90Mbps. Nid yn unig y mae hynny’n hwb wrth chwarae gemau, ond mae’n helpu hefyd i ffrydio cerddoriaeth i gael Faye y babi i gysgu, i ymchwilio i swyddi, i gynllunio’u priodas, ac i ddarganfod beth sy’n cael ei gynnal iddyn nhw a’u teulu newydd yn lleol.
“Mae wedi gweddnewid sut y gallwn ni chwarae gemau, ac mae cysylltiad cyflymach yn golygu ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar beth sy’n bwysig, fel ein teulu, ffrindiau… a chynllunio erbyn hyn at ein priodas.”