Yn ôl yr amcangyfrif, mae tua 12 miliwn o bobl wedi ymddeol yn y Deyrnas Unedig. Bydd y rhan fwya’ o bobl yn rhoi’r gorau i’r patrwm 9 tan 5 yn eu chwedegau, ac fe all bywyd ar ôl stopio gweithio fod yn gyfle i ddilyn diddordeb. Dyma stori Malcolm.
Pan ymddeolodd Malcolm o’i swydd fel fferyllydd yn 2002, fe aeth ati i droi ei hoffter o gelf a cherddoriaeth glasurol yn gyfres o ddarlithoedd – gan gyrraedd pobl o bob cwr o’r byd, a’r cyfan o’i gartre yn y Fenni.
“Pan rois i fy nghôt wen ar y bachyn yn 70 oed, ‘Beth wna’ i nesa’?’ oedd y cwestiwn amlwg. Fe ddechreuais greu darlithoedd ar ôl ymddeol – ond pan ddaeth y pandemig, roedd yn rhaid imi addasu, a dyna pryd ddechreuais i ddefnyddio Zoom.”
Ac yntau â diddordeb erioed mewn cerddoriaeth glasurol a chelf, byddai Malcolm yn rhoi sgyrsiau cyson am Chopin a Tchaikovsky gan ddefnyddio’i hen daflunydd sleidiau dibynadwy. Ar ôl i’w wraig farw, ymunodd Malcolm â Phrifysgol y Drydedd Oes (u3a) a darganfod cyfres newydd o adnoddau. Heb iddo sylweddoli hynny ar y pryd, byddai hyn yn ei helpu i roi darlithoedd i’r pedwar ban cyn bo hir.
“Bu gen i ddiddordeb erioed mewn cerddoriaeth glasurol a chelf, ac fe ddechreuais ddefnyddio taflunydd sleidiau i roi sgyrsiau. Un waith, daeth rhywun i U3A a rhoi cyflwyniad gan ddefnyddio PowerPoint. Roedd y slicrwydd yn fy rhyfeddu, ac roeddwn i eisiau dysgu mwy. Felly, fe ddechreuodd ffrind fy nysgu ’da’r gliniadur.”
Cyn hir, dechreuodd Malcolm roi sgyrsiau ar longau mordeithio, yng nghwmni ei ail wraig, Valerie. Bu’n rhaid iddo’i binsio’i hun bod modd cludo’i holl ddarlithoedd mewn un bag gliniadur bach.
Saith mlynedd yn ddiweddarach, oherwydd salwch, bu’n rhaid i Malcolm ymddeol unwaith yn rhagor, a dyna ddiwedd ar ei anturiaethau ar y môr. Ac yntau’n frwd ac yn benderfynol, fe ddechreuodd gyflwyno ei ddarlithoedd i gynulleidfaoedd newydd – mewn cartrefi gofal, gwestai a neuaddau pentre lleol.
Ond ar ddechrau’r pandemig yn 2020, daeth Malcolm o hyd i gyfres o adnoddau newydd a fyddai’n golygu cyrraedd gwrandawyr yn y pedwar ban, a hynny o glydwch ei gartre yn y Fenni.
“Roeddwn i’n benderfynol o beidio â rhoi’r gorau i’r sgyrsiau yn y cyfnod clo, felly fe ddechreuais i ddysgu sut i gyflwyno ar-lein ar Zoom.”
Fel pawb arall, doedd hi’n ddim o dro nes bod Malcolm wedi meistroli galwadau fideo, gan ddeall bod pobl o bob cwr o’r byd yn ymuno â’i ‘weminarau byd-eang’. Ac yntau’n cyflwyno i’w gynulleidfa gan ddefnyddio llawer o ffeiliau sain a lluniau manylder uchel, roedd angen cysylltiad dibynadwy ar Malcom – un a fyddai’n rhoi’r profiad gorau posib iddo’i hun ac i’w gynulleidfaoedd.
“Pan welais fod Ogi’n dod i’r dre, fe wyddwn i’n syth bin fy mod i eisiau symud atyn nhw. Wedi’r cyfan, pam fydden nhw’n gwneud yr holl waith yma os nad oedd ganddyn nhw ffydd yn eu gwasanaeth?”
Gan gynnig gwibgysylltiad, a chymorth ’da’i anghenion ffrydio, cofrestrodd Malcolm i gael Ogi 900 – sydd â chyflymder lawrlwytho safonol o 900Mbps a chyflymder uwchlwytho safonol o 90Mbps. Mae hynny’n ei helpu i roi ei ddarlithoedd o gartre, heb orfod pryderu y bydd y byffro yn amharu ar ei gyflwyniad.
“Ers gosod fy ngwasanaeth Ogi, mae pethau wedi bod yn wych. Mae Ogi wedi rhoi cysylltiad dibynadwy tu hwnt imi, ac mae gen i bob ffydd yn y gwasanaeth. Mae’n bwysau oddi ar fy meddwl, ac yn fy ngalluogi i ganolbwyntio ar fy ngwaith.
“Dyma wir yw’r dyfodol.”