Cyfle i arbed cannoedd ar benwythnos mawr dydd Gwener Du

13 Tachwedd 2023
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Cyfle i arbed cannoedd ar benwythnos mawr dydd Gwener Du

Mewn can newydd mae Ogi’n cynnig hyd at £720 oddi ar y pris manwerthu arferol eu holl becynnau band eang i’r cartref yn ystod cyfnod Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber. Bydd hynny heb unrhyw gostau gosod ymlaen llaw.

Yn cynnig slotiau gosod safonol hyd at y Nadolig – sy’n golygu y gall pob cwsmer newydd elwa o gyflymder hyd at 18 gwaith yn gyflymach na’r cyfartaledd yng Nghymru (51.2Mbps) cyn yr holl ffrydio a fydd yn digwydd yn ystod tymor yr ŵyl.

Gyda thua hanner oedolion y Deyrnas Unedig yn bwriadu gwario yn ystod Dydd Gwener Du eleni, mae disgwyl i swm anferthol o £3 biliwn gael ei roi i fanwerthwyr, yn ôl ymchwil Finder. Bydd hyn yn digwydd wrth i siopwyr chwilio am y bargeinion gorau mewn cyfnod pan mae costau byw a chwyddiant uchel yn parhau i roi cyllidebau aelwydydd o dan bwysau.

Ers camu’n hyderus i’r llwyfan yn 2021, mae gan Ogi eisoes enw da am ei fargeinion gwych sy’n canolbwyntio ar y cwsmeriaid, a hynny wrth iddo ddod â rhwydwaith ffeibr llawn unigryw i drefi a phentrefi ledled y de. Fe gwtogodd y cwmni ei brisiau yn 2022 wrth i’r pwysau costau byw gynyddu, ac nid yw chwaith wedi codi prisiau yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hynny’n groes i duedd rhai o rwydweithiau mwyaf y Deyrnas Unedig i godi prisiau yng nghanol y contract.

Mewn cam beiddgar arall, mae’r darparwr nawr yn cwtogi 50% ar brisiau band eang i’r cartref, gan gynnig arbedion o hyd at £720 i bob cwsmer newydd. Mae ei wasanaethau band eang ffeibr llawn bellach ar gael mewn dros 60 o gymunedau.

Gan gyhoeddi’r fargen hon, sydd ar gael am gyfnod penodol, meddai Sally-Anne Skinner, y Prif Swyddog Refeniw: “Nid yn unig y bydd aelwydydd yn gwneud arbedion ar eu costau band eang, ond mae modd i fand eang cyflym, dibynadwy, leihau costau eraill ar yr aelwyd hefyd: mae’n ein helpu i weithio gartref heb orfod cymudo; mae’n rhoi gwell adloniant i ni heb orfod talu i fynd allan; ac mae hyd yn oed yn ein helpu i reoli ein trydan a’n gwresogi drwy dechnolegau clyfar, cysylltiedig.

“Rydyn ni i gyd yn teimlo’r wasgfa ar hyn o bryd, a fan hyn yn Ogi rydyn ni eisiau helpu pobl i reoli’r pwysau ym mha bynnag fodd y gallwn ni. Mae dod yn rhan o benwythnos mwyaf y byd manwerthu yn gam cyffrous i ni – ac yn garreg filltir arall i’n busnes. Rwy’n edrych ymlaen i weld sut y bydd y cynnig hwn yn apelio at bobl sy’n chwilio am fand eang ledled y de.”

Mae bargen Dydd Gwener Du yn cynnig band eang ffeibr llawn cyflawn Ogi, sy’n unigryw yn nifer o’r ardaloedd lle mae wedi’i gyflwyno, gyda gostyngiad anferth o 50% oddi ar y pris. Gyda sgoriau bodlonrwydd cwsmeriaid cyson uchel, a sgôr ‘Rhagorol’ ar Trustpilot, mae’r darparwr o Gymru wrthi’n creu enw da iawn iddo’i hun am ei wasanaethau lleol a’i wasanaeth i gwsmeriaid, sydd hefyd yn lleol.

Mae’r fargen ar gael am 16 diwrnod o ddydd Llun 13 Tachwedd tan ddydd Mawrth 28 Tachwedd, cyn i’r prisiau ddychwelyd i’r ffioedd arferol a gynigiwyd gan Ogi cyn y sêl, sef £30, £40 a £60 y mis o 29 Tachwedd.


Dere i ni gael gweld os mae ffeibr Ogi wrth dy ddrws?

Byw yn un o’n cymunedau ffeibr llawn ac eisiau ymuno heddi. Popia dy gôd post i mewn a byddwn ni’n gwneud y gweddill!

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb