Gwibgysylltu sgwâr poblogaidd ym mae eiconig Caerdydd

26 Mehefin 2023
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Gwibgysylltu sgwâr poblogaidd ym mae eiconig Caerdydd

I’r mwyafrif o bobl, mae cysylltu â’r rhyngrwyd heddiw mor hawdd â neidio ar fws neu dalu am goffi neu ginio wrth y til. Prin fod angen i ni feddwl am gadw ein dyfeisiau wedi cysylltu wrth i ni neidio o rwydwaith i rwydwaith lle bynnag ry’ ni’n sgrolio.

Ond tu ôl i’r llenni, mae creu’r cysylltiadau anweledig hyn yn gamp arloesol, wedi’u curadu gan dimau o gyflwynwyr, cynllunwyr ac adeiladwyr sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod gennym u cyswllt ry’n ni’n disgwyl, bob tro.

Mae’r rhwydweithiau hyn ym mhobman, ac eto os cymeret eiliad i feddwl am sut y cânt eu creu, efallai y cei dy synnu gan faint o ymdrech sy’n mynd i’th gadw mewn cysylltiad, yn ac o gwmpas y dref.

Pan ofynnodd yr Urdd i ni gysylltu eu pentref Gemau Stryd – ar gyfer penwythnos o weithgareddau ym Mae Caerdydd – neidiom ar y cyfle i bweru’r mudiad ifanc a’i fenter newydd.

Nid yw cynllunio rhwydwaith yn beth newydd i ni – ry’n ni wrthi yn adeiladu rhwydwaith ar draws de Cymru, felly mae mapio rhwydweithiau cymhleth yn ein DNA.

Yr her gyntaf oedd cael cysylltiad ffibr 10 Gigabit at Blas eiconig Roald Dahl ym Mae Caerdydd, sgwâr cyhoeddus dafliad carreg o ymyl y dŵr. Ry’n ni’n galw hyn yn rhwydwaith wrth gefn – meddylia amdano fel y pibellau tanddaearol sy’n dod â’r dŵr i’r tap cegin gartref; nid oes angen eu gweld i wybod eu bod yna.

Yn ffodus, mae gan Ogi gysylltiad eisoes wrth ymyl y sgwâr, ar Stryd Bute, tua 250m oddi ar y man. Drwy bartneriaethau, mae gan ddarparwyr fel Ogi fynediad i sianeli tanddaearol, sy’n helpu ein ffeibr i symud yn ddi-dor o dan ac weithiau uwchben. Mae mynediad i seilwaith goddefol (PIA) ar gael ledled y wlad ac mae’n helpu darparwyr i rannu adnoddau i osgoi cloddio ffyrdd a phalmentydd yn ddiangen. Er bod argaeledd PIA yn yr ardal, byddai mynd i mewn i’r sgwâr ei hun yn cynnwys naw tirfeddiannwr gwahanol – sgwrs am ganiatâd a fyddai wedi mwy na’r wythnosau roedd gennym i osod y rhwydwaith yma.

Felly roedd angen Cynllun B.

Unwaith eto, nid oedd ail gynllunio yn ddim byd newydd i ni, gan fod cynllunio ar gyfer senarios gwahanol yn rhan o’n gwaith o ddydd i ddydd. Felly, cyn gynted a bu Cynllun A yn amhosib, symudwyd ymlaen, gan weithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru i fwydo ein ffeibr drwy’r adeilad – gan weithredu fel siambr ar gyfer ein rhwydwaith cyflym iawn. Mae’n debyg mai dyma fyddai’r Gyfnewidfa Band Eang mwyaf golygus, wel, erioed! Yn anffodus, nid oedd hyn yn hawdd a chan fod amser yn ein herbyn roedd angen cynllun arall arnom.

Felly yn ôl i’r bwrdd cynllunio amdani, a dechrau ar Gynllun C. Y bwriad nawr oedd sicrhau’r cysylltiad gorau y galle’n i ochr y ffordd gyferbyn â’r sgwâr, cyn taflunio signal ar draws y ffordd gan ddefnyddio cyswllt radio.

Gyda’r cynllun mewn llaw, aethom o biler i bost yn ceisio darganfod pwy oedd yn berchen ar y tir wrth ochr y ffordd ac – yn bwysicach efallai – pe bai’r dechnoleg yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer y digwyddiad. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, a chawsom ganiatâd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r tir ar ochr y ffordd, a chadarnhaodd ein cyflenwyr fod yr holl offer yr oedd ei angen arnom i wneud y gwaith ar gael. Diolch byth – Cynllun C Amdani!

Gan dynnu ein ffeibr at ymyl Stryd Bute, gwnaed ein gwaith paratoi, a thri diwrnod cyn y digwyddiad gallem ddechrau adeiladu ein rhwydwaith. Nid oes dim byd tebyg i amserlen dynn i brofi amynedd neu, yn wir, amynedd y tîm.

Datblygodd ein tîm Adeiladu Rhwydwaith ddyluniad lefel isel – fel glasbrint ar gyfer ein rhwydwaith – ddyddiau cyn i’r tîm Gwasanaethau Busnes ddechrau gosod mastiau dros dro a throsglwyddyddion radio Siklu Etherhaul. Roedd yr unedau hyn, sy’n gallu darparu capasiti 10Gbps, yn gweithredu fel y cyswllt olaf rhwng ein ffeibr wrth ochr y ffordd a’r sgwâr lle bu’r digwyddiad. Bu’n rhaid i’r cysylltiad WiFi yma, sy’n gallu gigabit ar gyfer cynlluniau, pweru ffrwd fyw uchelgeisiol, darparu cysylltedd am ddim i ymwelwyr a galluogi busnes ar y maes i fasnachu. Ddim mor bwysig â hynny te, na?!

Mae cysylltiadau radio bob amser yn peri risg o fethu. Gallai lori sy’n gyrru heibio, neu golomennod sy’n hedfan trwy lwybr y signal achosi gostyngiad mewn cysywllt ar unrhyw adeg. Felly fe wnaethom godi’r trosglwyddyddion mor uchel â phosibl, gan sicrhau bod ganddynt linell welediad clir i’w gilydd cystal ag y gallem.

Gyda’n cyswllt yn ei le, aethom ati i geisio cysylltu’r safle cyfan – dros 1280m o hyd – â’n rhwydwaith Gigabit posib. Mae Ogi yn darparu atebion WiFi wedi’u rheoli i gwsmeriaid busnes yn barod, felly ry’n ni’n weddol hyderus yn y dechnoleg roedd gennym. Defnyddiwyd y system Ruckus T750 – un o arweinwyr y farchnad mewn rhwydweithiau WiFi, gam mowntio unedau ar draws y safle i ‘bownsio’ y rhwydwaith i bob rhan o’r maes awyr agored.

Gyda’r digwyddiad ar fin croesawu cannoedd o bobl, roedd dyletswydd gofal arnom i arddangos y rhyngrwyd ar ei orau hefyd yn hollbwysig. Fel rhan o’r rhwydwaith dros dro hwn, amgaewyd cysylltiad y sgwâr â Mur Cadarn Fortinet a sefydlu hidlo, i rwystro ymosodiadau ac atal mynediad at gynnwys amhriodol.

Rwy’n falch i ddweud ei fod wedi mynd heb ergyd. Roedd gennym y gallu i gysylltu mwy na 1,500 o bobl bob dydd – cyflawniad enfawr i dîm a oedd, ddyddiau cyn hynny, wedi wynebu heriau caniatâd, perchnogaeth tir ac eraill i hyd yn oed gael y cysylltiad i’r maes yn y lle cyntaf.

Cofnododd cyflymder lawrlwytho dros 700Mbps yn ystod yr amseroedd prysuraf yn y digwyddiad – tua wyth gwaith y cyflymder WiFi cyfartalog sydd ar gael yn rheolaidd yn yr ardal.

Nid yw adeiladu rhwydwaith o’r dechrau yn hawdd. Gwnaethom oresgyn rhwystrau a heriau i ddarparu’r rhwydwaith dros dro hwn; mis yn cynllunio, cymerodd dri diwrnod i ni sefydlu a rhyw dair awr i ddatgymalu.

Bellach mae gennym lasbrint ar gyfer cysylltedd digwyddiadau, gyda chyflymder cyfartalog WiFi tua wyth gwaith yn gyflymach nag unrhyw gysylltiad awyr agored am ddim y byddwch yn dod o hyd iddo ar strydoedd Cymru heddiw.

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb