Martin, o Hwlffordd

2 Tachwedd 2022
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Martin, o Hwlffordd

Mae tua 15,000 o siopau coffi ym Mhrydain, yn ôl yr amcangyfrif. Dyma stori Martin.

Fe ddechreuodd Martin, a oedd a’i fryd ar fod yn entrepreneur, hel syniadau wrth weld cornel wag yn ei ganolfan gymunedol leol, HaverHub. Dyna fan cychwyn y syniad i agor siop goffi yn Hwlffordd, ei dref enedigol.

“Rwy’ wedi bod yn gwneud coffi ers tua deng mlynedd bellach; fe welais i’r gofod gwag yn y cyntedd a fyddai’n ddelfrydol i gaffi – felly fe benderfynais agor un! Dyma’r gofod perffaith i bobl ddod ynghyd, a mwynhau paned werth chweil ar yr un pryd.”

Mae’r ganolfan yn rhan o hen swyddfa bost y dref. Mae’r rhaglen fywiog sydd yno o gigs, ynghyd â’r theatr a’r sinema, yn denu’r torfeydd sy’n golygu bod llif cyson o gwsmeriaid yn pasio siop goffi ragorol Martin ar y gornel.

Prin – os o gwbl – oedd gan Martin brofiad busnes cyn agor y siop. Ond fe wyddai un peth – sut i wneud paned dda o goffi. Heb betruso dim, fe fwriodd iddi, gan ddod un o’r 7,000 o Faristas drwy Brydain sy’n rhedeg eu siopau coffi annibynnol eu hunain.

Mewn dim o dro, trodd y cariad hwn at goffi yn swydd amser llawn, gyda Martin yn aml yn parhau i weithio gartre’ ar ôl diffodd y peiriant ewynnu llaeth.

“Dydy’r gwaith ddim yn dod i ben pan fydda’ i’n gadael y siop. Fe fydda’ i’n mynd adre’ ac fe fydd yn rhaid gwneud popeth fy hun – o gyfrifyddu i ddylunio graffeg. Rwy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn ddi-baid, felly mae cysylltiad gwirioneddol dda yn bwysig iawn.”

Ac yntau’n rhedeg ei fusnes ei hun, mae Martin bellach yn rheoli’r cyfan o’i gartre’, gan gynnwys cadw golwg ar sefyllfa ariannol y siop goffi, rheoli’r stoc a chynllunio’i holl ddeunydd marchnata gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau ar-lein. I wneud y cyfan yn llawer haws, mae ganddo wibgysylltiad band eang dibynadwy Ogi.

“Pan ddechreuais i, doedd gen i ddim syniad sut i redeg yr ochr fusnes, dim ond sut i ddefnyddio’r peiriant coffi. Mae cael gwibgysylltiad gartre’ yn rhoi’r hyder imi barhau i weithio am sbel ar ôl diffodd hwnnw.”

Fe wnaeth Martin gofrestru i gael Ogi 150, sy’n cynnig cyflymderau lawrlwytho o 150Mbps, bron i deirgwaith y cyflymder lawrlwytho cyfartalog o 52Mbps roedd wedi arfer ei gael. Ers hynny, fu pethau fyth yr un fath.

“Mae’n hynod o bwysig i mi a fy musnes – yn debyg i gic ddigidol o gaffein ar ddiwedd y dydd.”

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb