Ogi yn cysylltu Gŵyl Fwyd y Fenni

16 Medi 2022
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Ogi yn cysylltu Gŵyl Fwyd y Fenni

Mae Ogi, darparwr band eang Cymru, wedi ymuno â Chyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru i ddod â chysylltedd ffeibr sy’n gallu Gigabit i Ŵyl Fwyd y Fenni eleni.

Gan ddychwelyd am flwyddyn arall fel prif noddwr ‘The Dome at the Castle’, mae Ogi hefyd yn darparu wifi cyhoeddus am ddim i ymwelwyr a chysylltedd pwrpasol i fasnachwyr ac arddangoswyr yn y digwyddiad.

Mae’r ŵyl, a sefydlwyd i drawsnewid y ffordd mae pobl yn meddwl am fwyd, wedi dod yn ddyddiad allweddol yn y dyddiadur i lawer dros y blynyddoedd diwethaf – gan ddenu mwy na 30,000 o ymwelwyr a chyflogi dros 120 o bobl ifanc lleol dros y penwythnos.

Eleni bydd Ogi hefyd yn gadael gwaddol, ar ôl gosod rhwydwaith wifi cyhoeddus yn Neuadd Farchnad eiconig y dref.

Dywedodd Pennaeth Brand ac Ymgysylltu, Sarah Vining: “Ar ôl bron cwblhau ein gwaith yn Y Fenni, mae’n bleser gwirioneddol bod yn ôl yn cefnogi’r ŵyl fwyd ac – drwy osod rhwydwaith wifi cyhoeddus newydd yn Neuadd y Farchnad – cael i gyfle i adael cysylltedd parhaol yn y dref.

“Ryn ni wedi treulio llawer o amser yn Y Fenni fel tîm dros y ddwy flynedd ddiwethaf, felly mae cefnogi digwyddiadau fel yr Ŵyl Fwyd yn ein helpu ni i roi nôl i gymunedau sydd wedi bod yn amyneddgar gyda ni wrth i ni ddod â chyflymderau cyflym ffeibr llawn sy’n barod at y dyfodol i strydoedd a mannau cyhoeddus ar draws yr ardal.”

Mae Gŵyl Fwyd y Fenni yn rhedeg o 17-18 Medi ar draws y dref. Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch i www.abergavennyfoodfestival.com.

Hoffai Ogi ddweud ‘diolch’ mawr i Gyngor Sir Fynwy, Llywodraeth Cymru, Telecom Cymru, Openreach, Neuadd Farchnad y Fenni, Priordy Santes Fair ac, wrth gwrs, trefnwyr yr Ŵyl Fwyd, am eu cefnogaeth.

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb