Gyda’r galw am wasanaethau band eang gwell ar gynnydd, mae darpariaeth ffeibr llawn – sef ffeibr i’r drws (FTTP) – bellach ar gael i oddeutu 55% o gartrefi a busnesau yng Nghymru (i fyny o 19% ychydig flynyddoedd yn ôl). Nid yn unig diolch i Ogi wrth gwrs – ond ryn ni wedi chwarae ein rhan.
Gan ddechrau’r flwyddyn [2024] yn darparu gwasanaeth gofal cwsmeriaid newydd 7 diwrnod, mae Ogi hefyd wedi rhoi hwb i’r gwasanaeth hunangymorth ar-lein, gan gynnig mwy o ffyrdd i gwsmeriaid ddod o hyd i gymorth, pan fydd ei angen arnynt.
Mewn cam beiddgar, mae Ogi – yr unig ddarparwr band eang ffeibr llawn sy’n ymroddedig i Gymru – bellach wedi cyflwyno tri phecyn cyflymder newydd, gyda phrisiau lefel mynediad yn is na chost rhai gwasanaethau rhwydwaith traddodiadol copr (FTTC).
O £15 y mis, mae’r pecyn Ogi 200 newydd yn cynnig cyflymderau tua phedair gwaith yn gyflymach na’r cyfartaledd yng Nghymru, a gyda gwasanaeth 1Gigabit newydd ar gael i cartrefi technolegol, mae Ogi yn gobeithio denu mwy o gwsmeriaid i’w rwydwaith ffeibr llawn Cymreig wrth i’r galw am well gwasanaeth a chyflymder gynyddu.
Yn cyflwyno’r cyflymderau newydd, dywedodd Prif Swyddog Refeniw, Sally-Anne Skinner: “Gyda’r cyflymderau newydd a phrisiau cystadleuol iawn yma, ryn ni’n gobeithio unwaith eto ysgogi cystadleuaeth yn y farchnad yma yng Nghymru. Ers gormod o amser mae cymunedau wedi gorfod dioddef cyflymderau gwael a phrisiau uchel dros ben. Ryn ni wastad wedi dweud ein bod ni yma i newid hynny – ac unwaith eto ryn ni’n adlewyrchu hynny yn ein cynnig i gwsmeriaid.
“Ryn ni wedi dysgu llawer o’n cynnig gwreiddiol – pan oedd 6 mis am ddim yn fargen dda i gymaint o bobl. Ond heddiw, mae pobl eisiau cysondeb, ac mae talu pris safonol is o’r dechrau deg yn ffordd wych o agor mynediad i wasanaethau band eang ffeibr llawn o’r diwrnod cyntaf.”
Mae Ogi bellach wedi cofrestru dros 10,000 o gwsmeriaid i’w rwydwaith ffeibr llawn, gan osod cysylltiadau newydd yn rhai o leoliadau mwyaf gwledig Cymru, yn aml heb fawr ddim seilwaith cyn i’r cwmni cyrraedd. Mae’r ffocws newydd hwn ar brisio cystadleuol, heb leihau ansawdd cyflymder – yn hytrach ei gynyddu – yn rhan o ffocws cychwynnol Ogi yn 2024 ar ei frand ISP cartref.
Byw yn un o’n cymunedau ffeibr llawn neu eisiau bod yn un o’r rhai cyntaf i wybod pryd mae Ogi ar gael. Cofrestra i’n rhestr aros a byddwn yn rhoi gwybod pan fydd ein ffeibr llawn gyflym a dibynadwy iawn wedi cyrraedd dy stepen ddrws.