Dere o hyd i’r lle gorau i dy offer
Mae dy lwybrydd yn anfon signalau i bob cyfeiriad. Felly’n ddelfrydol, rwyt ti ’moyn iddo fod yn rhywle sy’n weddol ganolog, agored, ac oddi ar y llawr, fel nad yw’n gwastraffu signal drwy ei anfon mas i’r stryd neu lawr i’r ddaear. Po uchaf yw’r llwybrydd ar y llawr gwaelod, y mwya tebygol wyt ti o gael signal gwell lan staer.
Gyda llaw, paid â thybio bod yn rhaid i lwybrydd newydd Ogi fynd i ble mae’r prif soced – fe alli di wastad ddefnyddio ceblau hirach os bydd angen hynny.
Mae canolfan gymorth eero hefyd yn rhoi canllaw da ar gyfer gosod llwybryddion eero.
Pan fyddi di ’moyn y signal rhyngrwyd gorau posib, ceisia ddefnyddio cebl Ethernet. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r rhain ar gyfer teledu clyfar a blychau ffrydio ac i chwarae gemau ar gyfrifiaduron.
Nid yn unig y bydd cael cyfrinair ar dy rwydwaith yn rhwystro hacwyr, mae hyn hefyd yn rhwystro pawb arall yn yr ardal rhag manteisio (a gallai hynny arafu dy rwydwaith yn arw).
Er bod ailddefnyddio offer yn beth da, os na fydd dy hen lwybrydd yn gallu cadw lan ’da chyflymder y rhyngrwyd heddiw (er enghraifft, os mai dim ond ’da wifi 4 y mae’n gweithio), yna efallai ei bod hi’n bryd i ti gael llwybrydd newydd.
Os nad wyt ti ’da Ogi ar hyn o bryd, ond yn bwriadu ymuno, fe fyddi di’n falch o glywed y byddwn ni’n rhoi llwybryddion sy’n cyrraedd safon wifi 6 (802.11ax WLAN), er mwyn i bawb fanteisio i’r eitha ar ein gwasanaeth ffeibr llawn.
Os nad wyt ti’n defnyddio’r wifi ar unrhyw ddyfeisiau ‘clyfar’ (peiriant golchi, sugnwr llwch robot, bylb golau rhyfeddol…) cofia droi’r cysylltiad bant. Cofia hefyd ei bod hi’n bosib y bydd dyfeisiau sydd wedi gweld dyddiau gwell yn cysylltu’n arafach.
Ryn ni i gyd yn mynd yn gynt na’r gwynt ’da ffeibr llawn! Felly, os gweli di bod pethau’n arafu ar adegau prysur, mae’n werth edrych i weld beth mae pawb arall yn y tŷ yn ei wneud ar y rhwydwaith, a sawl dyfais sy’n defnyddio’r wifi ar yr un pryd (fe allai fod yn fwy na’r disgwyl!). Mae’r holl ddyfeisiau sy’n cael eu defnyddio ar yr un pryd yn rhannu’r cyflymder. Felly os oes gen ti wasanaeth 150Mbps a phum dyfais wedi’u cysylltu, bydd y pum dyfais yn lawrlwytho ar gyfartaledd o 30Mbps yr un.
Dyna pam ein bod ni’n cynnig gwahanol becynnau, Ogi 150, Ogi 300 ac Ogi 900, er mwyn i’r aelwydydd mwya prysur gael gwibgysylltiad, hyd yn oed.
Fe all cyflymder y rhwydwaith amrywio am nifer o resymau, ac er na allwn ni warantu ffigur penodol, ryn ni’n gwybod o’r ffigurau cyfartalog y dylet ti fod yn cael o leiaf hanner y cyflymder lawrlwytho sydd wedi’i hysbysebu, a hynny yn ystod yr oriau brig. Hyd yn oed ’da Ogi 150, dyna lawer mwy o hyd na’r cyfartaledd cenedlaethol o 54.9Mbs (Ofcom, 2022), felly mae hynny’n beth da.
Os wyt ti’n teimlo bod rhyngrwyd Ogi braidd yn araf, rho gynnig ar brofi dy gyflymder ar wahanol adegau dros ddiwrnod neu ddau. I gael y canlyniadau cywiraf, fe ddylet ti gysylltu dy ddyfais yn uniongyrchol â’r llwybrydd gan ddefnyddio cebl Ethernet, a diffodd unrhyw ddyfeisiau eraill rwyt ti’n eu defnyddio. Drwy brofi’r cyflymder ’da dim ond un ddyfais wedi’i chysylltu, bydd modd gweld cyflymder cyffredinol dy wasanaeth.
Os bydd y canlyniadau yn wahanol i’r disgwyl, rho wybod i ni drwy cysylltu â ni, ac fe wnawn ni’n gorau glas i helpu.