Pan mae popeth yn cwympo i’w le!

1 Chwefror 2023
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Pan mae popeth yn cwympo i’w le!

Credir bod tua 2.5% o oedolion y DU yn byw gydag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), ac mae llawer o’r rheini sy’n cael diagnosis yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu rhoi i’r naill ochr. Mae Polly, sy’n fyfyrwraig hŷn o Gaerdydd, yn un o’r oedolion hynny – ond mae hi’n gweld y cyflwr fel rhywbeth sy’n ei hannog i ddilyn yr hyn sy’n rhoi pleser iddi.   

Os nad yw astudio gradd mewn marchnata yn ddigon, mae Polly hefyd yn gwirfoddoli ar gyfer Grŵp Sgowts ac yn 2022 ymunodd â thîm Marchnata Ogi ar leoliad gwaith am fis fel rhan o’i hastudiaethau.  

Dechreuodd angerdd Polly at y Sgowts pan oedd hi’n wyth oed, ac aeth ati i symud ymlaen drwy’u rhaglenni yn ystod ei harddegau, ac erbyn hyn mae’n Is Arweinydd Gwirffoddoli yr 22fed aelwyd yng Nghaerdydd. Mae bod yn Sgowt wedi bod yn bwysig iawn i Polly yn ystod y blynyddoedd, ac mae wedi’i galluogi i feithrin cysylltiadau cymdeithasol gwirioneddol – rhywbeth y mae pobl sy’n byw ag ADHD yn aml yn colli allan arno.   

“Mae’n ofod diogel lle alla i jyst fod yn Polly. Mae wedi fy helpu trwy adegau anodd. Mae gwybod bod y Sgowts yna yn hwb mawr i mi.” 

Fel y rhan fwyaf o bobl ifanc 18 oed, dechreuodd yn y brifysgol ar ôl gadael yr ysgol, ond gafodd ei hiechyd a’i ADHD – a oedd heb ei ddiagnosio eto – effaith heriol ar y profiad, a gadawodd y cwrs cyn iddi gael cyfle i orffen.  

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl cael diagnosis pendant o’r diwedd, mae Polly, yn 26 oed, wedi troi yn ôl at ei hastudiaethau addysg uwch, gan wneud Addewid y Sgowt i’w hun i fod yn garedig, yn gymwynasgar ac i geisio’i gorau bob tro. 

Yn awyddus i ehangu’i sgiliau a rhoi ei theori farchnata ar waith, cysylltodd Polly ag Ogi i gael profiad gwaith, ac ymunodd â’r tîm Marchnata am gyfnod o chwe wythnos, ac yno y daeth ei natur weithgar i’r amlwg.  

“Moto’r Sgowtiaid yw i fod yn barod bob amser, ond wrth fynd i mewn i fyd gwaith, do’n i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Roedd natur hyblyg y gweithle, a meddwl agored y tîm yn Ogi wedi gwneud y profiad yn un hyfryd iawn. Yn debyg iawn i’r Sgowts, roedd yn hwb mawr i’m hyder. Dysgais fod unrhyw beth yn bosibl os ydych chi’n ymroi iddo.”  

Yn ystod ei chyfnod ar leoliad, dysgodd Polly am gronfa gymunedol Ogi, ‘Cefnogi’, a thrwy hynny, daeth ei hangerdd dros y gymuned a’i gwaith ynghyd.  

“Mae’r Sgowts yn rhoi cyfleoedd sy’n newid bywydau pobl ifanc, ond fel popeth arall, mae arian yn bwysig iawn i helpu’r prosiectau yma. Pan ddes i wybod am gronfa gymunedol Ogi, ro’n i’n gwybod y gallai helpu. Felly pan wnes i ddarganfod bod fy nghais wedi bod yn llwyddiannus, ro’n i mor falch.”  

Gan gefnogi mwy na 40 o bobl ac arweinwyr y Sgowtiaid, mae cronfa Cefnogi wedi cyfrannu at daith i Wlad yr Iâ ym mis Awst 2023.  

“Mae’n golygu y bydd gan y grŵp bopeth sydd ei angen arnyn nhw i allu cysgu rhywfaint yn ystod y daith [gobeithio]. Yr adeg yna o’r flwyddyn, mae’n olau dydd am 24 awr yno felly bydd talu am fasgiau cysgu a dillad cynnes, yn llythrennol, yn achub eu bywyd.”  

“Dwi’n caru’r ffaith bod cwmnïau fel Ogi yn bodoli i gefnogi cymunedau. Maen nhw wir yn creu tegwch yn ein cymunedau, nid yn unig yn cysylltu’r genhedlaeth nesaf, ond maen nhw hefyd yn rhoi cymunedau wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud.”  

Mae Polly yn dal i gydbwyso’i hastudiaethau â gwirfoddoli gyda’r Sgowtiaid ac yn ymdopi â’r da a’r drwg gyda’i gwen heintus a’i hagwedd weithgar.   

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb