Y newid i ddigidol: beth sydd angen gwybod

18 Mai 2022
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Y newid i ddigidol: beth sydd angen gwybod

Mae’r rhan fwyaf o Gymru yn dal i ddibynnu ar seilwaith copr Oes Fictoria – technoleg a gafodd ei chynllunio i gario signalau llais yn hytrach na band eang. Yn 2025 mae Openreach yn bwriadu diffodd y gwasanaeth ffôn analog yma fel rhagflaenydd i ymddeol rhwydwaith copr y DU erbyn (amcangyfrifir) 2030.

Mae llawer ohonom yn defnyddio’r gwasanaeth analog hwn i gael mynediad i’n ffonau llinell dir neu fand eang gartref – dyma’r dechnoleg y mae’r rhan fwyaf ohonom wedi tyfu i fyny gyda; sy’n cario ein llais o un lle i’r llall.

Mae’r llinellau hyn hefyd yn cefnogi rhai o’r cynhyrchion llai adnabyddus yn ein cartrefi a’n busnesau, fel larymau diogelwch, larymau personol a larymau tân sy’n cael eu pweru gan y prif gyflenwad – gan eu gwneud yn holl bwysig i lawer ohonom.

Gyda’r cynllun i ddiffodd y rhwydwaith yn y blynyddoedd i ddod, mae darparwyr gwasanaethau eisoes yn edrych ar ffyrdd o symud cwsmeriaid draw i dechnoleg newydd fel ffeibr llawn yn ddiogel. Ond daw hyn â’i heriau ei hun, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig neu leoedd sydd wedi colli allan o gyflwyniad y dechnoleg symudol ddiweddaraf.

Yn ôl adroddiad diweddaraf Connected Nations 2022, a gyhoeddwyd gan Ofcom, mae gan tua 90% o Gymru ddarpariaeth symudol dda gan y pedwar prif weithredwr, tra bod tua 15,000 o gartrefi a busnesau yn dal i fethu â chael gwasanaeth band eang ‘gweddus’ o gyflymder lawrlwytho o 10Mbit yr eiliad.

Yn amlwg felly, mae llawer i’w wneud cyn y gallwn roi’r gorau i’r dechnoleg gyfredol yn llwyr, hyd yn oed os yw’n glynu ymlaen yn hirach na’r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol.

Y newyddion da yw bod gweithredwyr eisoes yn gosod y sylfeini ar gyfer cysylltiadau ffeibr optig cyflym iawn newydd sy’n barod ar gyfer y dyfodol a all ddarparu cyflymderau cyflym ac sy’n lanach, yn fwy cyfeillgar i’r blaned. Bydd y rhwydwaith newydd yn defnyddio 80% yn llai o bŵer a charbon. A gall y miliynau o filltiroedd o hen gebl copr yn cael eu hadennill a’u hailgylchu.

Daw Ogi ac Age Cymru at ei gilydd yn ddiweddar i helpu i roi gwybod i bobl am y newid digidol systemau ffôn sydd ar ddod. Yma fe weler ein hawgrymiadau gorau ar gyfer trin y newid nawr, neu pan ddaw’r amser.

Trosiad Digidol yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr gwasanaethau i esbonio’r symudiad o linellau ffôn gwifren copr i wasanaethau digidol fel band eang ffeibr llawn. Ynghyd ag Age Cymru, ryn ni wedi llunio’r rhestr hon o gwestiynau cyffredin i helpu pawb i ddeall beth sy’n digwydd a sut y gall cartrefi paratoi.

Bydd rhaid i mi wneud unrhyw beth?

Nid oes angen i ti wneud unrhyw beth nes bydd dy ddarparwr ffôn yn cysylltu i drafod dy anghenion. I lawer o bobl, bydd y newid mor syml â chysylltu’r ffôn i mewn i lwybrydd y cyflenwr i gysylltu â’u system. Yn y rhan fwyaf o achosion, gallet gadw dy rhif ffôn cyfredol hefyd.

Beth sy'n cael eu heffeithio?

Os yw dy ffôn yn hen iawn, efallai y bydd angen ei newid. Efallai y bydd pethau sy’n defnyddio’r rhwydwaith llinell dir ar hyn o bryd fel teleofal, larymau personol, larymau diogelwch a pheiriannau ffacs hefyd cael eu heffeithio gan y newid. Os yw’r dyfeisiau yn gymharol fodern, dylent barhau i weithio’n iawn ond efallai y bydd angen ail-gyflunio neu amnewid rhai hŷn. Bydd dy ddarparwr ffôn yn gallu cynghori ar yr holl faterion hyn.

Bydd rhaid i mi dalu mwy?

Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr wedi ymrwymo i beidio â chodi prisiau sy’n uwch na chwyddiant i gwsmeriaid sydd ond yn defnyddio eu llinell dir ar gyfer gwneud galwadau ffôn am y 5 mlynedd nesaf. Fodd bynnag, gall pethau fod yn wahanol i’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau band eang ar gyfer eu cyfrifiadur neu liniadur ac ati. Dylet bob amser wirio gyda’r darparwr presennol am y wybodaeth ddiweddaraf am brisio.

Bydda'n ymwybodol o sgamiau

Gan fod y newid yn effeithio ar filiynau o gartrefi, gall hyn greu cyfleoedd i droseddwyr geisio twyllo pobl. Gallai’r rhain fod dros y ffôn, drwy e-bost, neu wrth y drws. Bydd y newid digidol yn rhad ac am ddim, ac ni ddylai unrhyw un ofyn i ti am unrhyw daliadau – os gwnânt, rho wybod i’r Heddlu gan ddefnyddio 101 neu i Action Fraud ar 0300 123 2040. Os defnyddiwyd dy gyfrif banc mewn sgâm, cysyllta â’r banc cyn gynted â phosibl.

Efallai y bydd pobl ddiegwyddor hefyd yn ceisio gwerthu offer neu ofyn i ti i gofrestru i gontractau drud nad oes eu hangen. Paid â rhuthro i unrhyw benderfyniadau, ceisia ail farn, a siarada a dy gwmni ffôn cyfredol a fydd yn cynghori am yr hyn sydd ei angen arnat.

Pa fath o gefnogaeth wrth gefn fydd ar gael os oes toriad pŵer?

Pan fydd toriad pŵer efallai y byddet yn colli mynediad at rai neu’r cyfan o dy wasanaethau. Felly, bydd dy ddarparwr gwasanaeth presennol yn gweithio gyda thi i sicrhau bod gennyt ddyfais wrth gefn addas ar waith fel ffôn symudol, pŵer batri neu rywbeth arall.

Yma i helpu

Dylai dy ddarparwr ffôn presennol fod mewn cysylltiad i roi gwybod pryd y disgwylir i dy wasanaethau newid a beth, os o gwbl, y mae angen i ti wneud. Gallet bob amser gysylltu â nhw hefyd – ar unrhyw adeg – gan ddefnyddio manylion y gwasanaeth cwsmeriaid ar unrhyw ddogfennau ganddynt fel dy bil. Gallet hefyd ymweld â gwefan Age Cymru neu ffonio gwasanaeth cynghori’r elusen ar 0300 303 44 98.

Previous Icon Blaenorol
Rhannu Erthygl
Nesaf Next Icon

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb