Sut i ddefnyddio ap eero

8 Tachwedd 2024
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Sut i ddefnyddio ap eero

Croeso i’r byd wifi didrafferth. Fu cysylltu erioed mor hawdd. Yn syml, lawrlwythwch yr ap, plygiwch eich dyfais eero i mewn i’ch modem, a gadewch i’r ap eich tywys drwy’r broses osod mewn dim o dro.

Oes angen ychydig bach o help arnoch chi? Efallai fod y pethau hyn yn newydd i chi, neu eich bod chi eisiau cael eich atgoffa o ambell beth. Mae’r canllaw hwn yn trafod y nodweddion sylfaenol er mwyn eich helpu i osod a rheoli eich eero yn ddiffwdan. Bant â ni felly – mae’n bryd mynd ar-lein.

Creu cyfrif

Ar ddiwrnod gosod Ogi, bydd ein peirianwyr cyfeillgar wrth law i ddangos i ti sut i osod dy gyfrif a chysylltu â’n rhwydwaith. Ond i ddangos i ti pa mor hawdd yw gosod y cyfrif, dyma gip sydyn!

Cam 1

Agora ap symudol eero a thapiwch ar y botwm Defnyddiwr eero newydd?

Cam 2

Mewngofnodwch gyda’ch cyfrif Amazon presennol neu ewch ati i greu cyfrif eero newydd gyda’ch cyfeiriad e-bost neu’ch rhif ffôn.

Cam 3

Os ydych chi’n creu cyfrif newydd, rhowch y cod dilysu i mewn. Byddwch chi wedi cael hwn drwy neges destun neu e-bost.

Ychwanegu dyfais

Bydd ein peiriannydd yn gofalu bod eich dyfais neu’ch dyfeisiau eero wedi’u gosod ar y diwrnod, ond mae hyn os byddwch chi’n ychwanegu mwy yn nes ymlaen.

Cam 1

O’r tab Home, tapiwch ar + yn y gornel dde uchaf.

Cam 2

Tapiwch Ychwanegu neu newid dyfeisiau eero

Cam 3

Tapiwch Ychwanegu eero dan do.

Cam 4

Plygiwch eich dyfais eero newydd i mewn i allfa a tapiwch ar y saeth.

Cam 5

Ar ôl i’ch dyfais eero newydd gael ei chydnabod, dewiswch leoliad i’ch dyfais.

Cam 6

Go dda. Mae’r ddyfais nawr wedi cael ei hychwanegu. Tapiwch ar Gorffen gosod, neu dewiswch Ychwanegu dyfais eero arall i ychwanegu rhagor o ddyfeisiau.

Creu proffiliau

Mae pethau’n mynd yn ddiddorol nawr! Gyda’r nodwedd Proffiliau sy’n rhan o eero, mae modd creu’ch amserlenni eich hun, rheoli mynediad i’r we, ac ychwanegu hidlwyr cynnwys ar gyfer gwahanol ddyfeisiau yn y cartre. A’r cyfan yn rhoi mwy o dawelwch meddwl i chi.

Cam 1

Tapiwch ar + yn y gornel dde uchaf.

Cam 2

Dewiswch Add a Profile o’r ddewislen naid.

Cam 3

Rhowch enw i’r proffil.

Cam 4

Dewiswch pa ddyfeisiau i’w hychwanegu at y proffil. Tapiwch Wedi gorffen.

Rhwydwaith i westeion

Hoffech chi wneud pethau’n hynod o ddiogel? Pam na chrëwch chi rwydwaith i westeion yn eich cartref?

Cam 1

Tapiwch tab Gosodiadau

Cam 2

O'r ddewislen, dewiswch Rhwydwaith i westeion.

Cam 3

I alluogi eich rhwydwaith i westeion, toglwch Galluogi rhwydwaith i westeion i’w droi ymlaen.

Seibiant i ddyfeisiau wifi

Weithiau, mae pawb angen hoe. Mae’n hawdd iawn rhoi seibiant i’ch wifi ar gyfer proffiliau neu ddyfeisiau penodol. Gallwch chi hyd yn oed osod amserlenni ar gyfer hyn – pan fydd hi’n amser gwely ar y plant, er enghraifft?

O’r tab Hafan, tapiwch y proffil neu ddyfais rydych chi am osod amserlen.

Cam 2

DewiswchYchwanegu Saib wedi'i Drenfu.

Cam 3

Diweddarwch enw’r amserlen, yr amser dechrau a gorffen, a pha mor aml y byddwch chi am i’r seibiant ddigwydd, yna tapiwch ar Cadw.

Defnyddio data

Cadwch lygad ar y data y bydd eich holl rwydwaith wifi yn ei ddefnyddio. Mae modd edrych yn fanylach ar ddyfeisiau a phroffiliau.

Cam 1

O'r tab Gweithgarwch, tapiwch Data wedi'i lwytho i lawr i weld y defnydd cyffredinol o ddata wifi.

Cam 2

Tapiwch ar Dangos Mwy o Weithgarwch i weld faint o ddata sydd wedi cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Cam 3

Tapiwch ar yr X yn y gornel chwith uchaf i fynd yn ôl.

Prawf cyflymder

Awydd profi’r cyflymder yn sydyn? Hawdd! Gallwch chi wneud hynny yn eich ap eero heb ffwdan.

Cam 1

O’r tab Gweithgarwch, tapiwch ar un o’r teils yn yr adran Rhyngrwyd.

Cam 2

Tapiwch ar Cynnal prawf cyflymder.

Diweddaru cyfrinair

Mae’n hawdd diweddaru a newid cyfrinair eich rhwydwaith wifi.

Cam 1

O'r tab Gosodiadau, dewiswch Enw a chyfrinair y wi-fi.

Cam 2

Tapiwch ar Cyfrinair y rhwydwaith wi-fi a teipiwch cyfrinair newydd.

Cam 3

Teipiwch eich cyfrinair newydd, a thapio ar Cadw.

Hysbysiadau

Cofiwch fod modd cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy hysbysiadau ar ap eero – mae modd rheoli’r rhain yn eich ap.

Cam 1

O'r tab Gosodiadau, dewiswch Hysbysiadau

Cam 2

Mae modd cael hysbysiadau mewn ffordd sy’n gyfleus i chi.

Mae popeth yn barod yn eich ap. Ond daliwch eich dŵr – mae rhagor! Ewch i’n canllaw eero Secure i weld sut i wneud eich wifi yn y cartre’n fwy diogel fyth. Gyda nodweddion fel amddiffynfeydd datblygedig rhag bygythiadau, a chamau rheoli i rieni, mae eero Secure yn gadael i chi reoli eich amgylchfyd digidol heb ffwdan.

Previous Icon Blaenorol
Rhannu Erthygl
Nesaf Next Icon

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb