Ogi ac eero
yn cynnig cymorth wifi yn y Gymraeg

14 Hydref 2024
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Ogi ac eero yn cynnig cymorth wifi yn y Gymraeg

Gan weithio’n agos gyda chwmni Amazon, mae Ogi yn helpu i lansio gwasanaeth iaith unigryw sy’n rhan o feddalwedd wifi ddiweddaraf eero. Bydd hyn yn gwella profiad siaradwyr Cymraeg ym mhobman wrth ddefnyddio band eang.

Mae’r bartneriaeth arloesol yn dangos ymrwymiad y ddau gwmni i gynhwysiant digidol hynod leol, ac mae’n hwb i ymdrechion Ogi i greu Cymru fwy clyfar a chysylltiedig.

Gan ddechrau heddiw, bydd system wifi eero – sydd ag enw da am roi cysylltiad cyflym a dibynadwy mewn cartrefi o bob maint – bellach yn helpu pobl i ddefnyddio’r system yn hwylus drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r garreg filltir hon yn golygu mai eero yw un o’r unig systemau cartrefi clyfar i gynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg yn ei ap symudol.

Mae Ogi wedi bod yn flaenllaw yn gweddnewid seilwaith digidol Cymru ers dros dair blynedd bellach, ac mae’r cydweithio hwn ag eero yn dangos bod yr ymrwymiad yn parhau i roi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. Mae peirianwyr eero wedi addasu’r ap symudol, gan gynnwys ynddo dermau Cymraeg cyfarwydd i wella’r profiad i bob defnyddiwr.

Gan drafod y nodwedd newydd, meddai Sarah Vining, Cyfarwyddwr Marchnata Brand Ogi: “Nod Ogi erioed fu rhoi gwasanaethau o’r radd flaenaf, a’r rheini’n gwbl Gymreig. Gan weithio gyda’r tîm yn eero, nid yn unig rydyn ni’n dod â’r dechnoleg newyddaf i gartrefi Cymru, ond rydyn ni hefyd yn gwneud y dechnoleg honno’n fwy hygyrch i gwsmeriaid, ac i ddefnyddwyr ym mhob rhan o Gymru hefyd. Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchiad o’n gweledigaeth gyffredin i wneud y rhyngrwyd yn fwy hygyrch i bawb.”

Mae cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg bellach ar gael i holl ddefnyddwyr eero drwy lawrlwytho’r diweddariad newyddaf i’r feddalwedd [DIWEDDARIAD 00.00.00].

“Ein nod ni yw dod â wifi cyflym, dibynadwy a diogel i gwsmeriaid ym mhedwar ban byd,” meddai Is-lywydd Gweithredol, Meddalwedd a Gwasanaethau eero, Mark Sieglock. “Rydyn ni wrth ein boddau’n creu partneriaeth ag Ogi i gynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg, gan wneud ap eero yn fwy hwylus i siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.”

Mae Amazon eero yn rhoi wifi cyflym a dibynadwy i bob cornel o’r cartref. Gan ddefnyddio’r dechnoleg mesh ddiweddaraf, mae eero’n rhoi gwasanaeth di-dor, boed chi’n ffrydio, yn chwarae gemau, neu’n gweithio gartref. Mae cynhyrchion Amazon eero ar gael drwy bob un o becynnau Ogi 400, Ogi 500 ac Ogi 1Gig.

Previous Icon Blaenorol
Rhannu Erthygl
Nesaf Next Icon

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb