Fy offer Ogi

Be fyddai’n ei gael?

Os wyt ti’n gwsmer Ogi 150, Ogi 300 neu Ogi 900 fe fyddi di’n cael ONT Nokia (dyna’r bocs bach ar y wal, lle mae’r ffeibr yn dod mewn i’r cartref…)

Fe fyddi di hefyd yn cael:

  • 1x llwybrydd wifi Zyxel EX3301 os wyt ti’n gwsmer Ogi 150
  • 2x lwbrydd wifi mesh eero 6 os wyt ti ar becyn Ogi 300
  • 2x lwybrydd wifi mesh eero 6 Pro gyda’r gwasanaeth Ogi 900.

Mae cwsmeriaid Ogi Alt yn cael llwybrydd/ion Zyxel mewn pryd ar gyfer gosod y gwasanaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am dy wifi ar y dudalen Ein gwasanaethau.

Dwi’n hapus gyda fy offer presennol – alla’i eu defnyddio nhw?

Wrth gwrs. A diolch i ti am wneud hynny – mae’n well i’r amgylchedd.

Gan fod ein offer wifi yn rhan o’n pecynnau cyffredinol, dyw gwneud hyn ddim yn newid cost dy ffi misol i Ogi, ond mi wnawn ni roi Taleb Eco Ogi i ti i ddiolch i ti am helpu’r blaned.

Dwi wedi difrodi’r offer ar ddamwain, be dwi’n neud?

Rho wybod ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru.

Byddwn ni’n gyrru pecyn postio i ti i ddychwelyd yr offer atom ni, ac yn gyrru offer newydd atat.

Os wyt ti wedi difrodi’r offer, yna bydd angen i ni godi arnat ti am gost yr offer newydd.

Beth os oes problem da’r offer?

Cysyllta ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru ac mi wnawn ni weld be sy’n mynd mlaen.

Os oes angen gyrru Peiriannydd Ogi mas i weld yr offer, yna mi wnawn ni drefnu bod hynny’n digwydd. Yn anffodus, os yn nhw’n taro draw a bod dim problem amlwg, yna falle bydd angen i ni godi ffi arnat ti am yr ymweliad.

Os oes angen cyfnewid dy offer heb ymwelid yna byddwn ni’n gyrru pecyn postio i ti i yrru dy hen offer atom ni, a byddwn ni’n gyrru offer newydd yn y post mas i dy gyfeiriad. Os wyt ti ddim mewn cytundeb cyfnod-benodol yna efallai y bydd cost bychan am y gwaith o drefnu hynny a’r costau postio.

Defnyddio ap eero

Fe alli di ddefnyddio dy ap eero mobile yn gyflym ac yn rhwydd i reoli dy ddyfeisiau eero. Mae adran wych ar wefan eero hefyd i ddatrys problemau a chael cymorth, ac os na alli di ddod o hyd yn syth i’r hyn rwyt ti’n chwilio amdano, rho gynnig ar y botwm chwilio (ar dop y dudalen). 

Defnyddio panel rheoli ar-lein Zyxel EX3301 (Web GUI)

Rho’r cyfeiriad http://192.168.1.1 yn dy borwr (mae i’w weld ar gefn dy lwybrydd i dy atgoffa), yna mewngofnoda gan ddefnyddio dy enw defnyddiwr a dy gyfrinair diweddaraf. Os dyma’r tro cyntaf i ti fewngofnodi ac nad wyt ti wedi gosod y rhain o’r blaen, admin fydd yr enw defnyddiwr a’r cyfrinair fydd hwnnw sydd i’w weld ar gyfer mewngofnodi ar gefn y llwybrydd. Bydd gofyn i ti wedyn greu dy gyfrinair dy hun ar gyfer rheoli ar-lein. 

Y dyfeisiau’n gwrthod cysylltu? Ceisia rannu dy sianeli

Mae dy gysylltiad wifi yn gyfuniad o ddwy sianel: 2.4GHz a 5GHz. Dim ond â’r sianel 2.4Ghz y bydd rhai dyfeisiau (technoleg hŷn gan amlaf) yn gallu cysylltu, sy’n arafach na’r sianel 5Ghz. Wrth eu rhannu yn ddwy sianel ar wahân, bydd dy ddyfeisiau 2.4Ghz wedyn yn defnyddio eu sianel arafach eu hunain, tra bydd modd i dy ddyfeisiau cyflym yn unig ddefnyddio dy sianel 5Ghz. ‘Rhannu’r SSID’ yw’r enw ar hyn, ac fe ddylai wella’r gwasanaeth ar ddyfeisiau cyflym ac araf. 

Pan fyddi di’n rhannu’r SSID, mae modd cuddio neu ddiffodd dy sianel 5Ghz fel mai dim ond dyfeisiau 2.4Ghz sy’n cysylltu. Yna mae modd troi’r 5Ghz yn ôl ymlaen (neu ei ddatguddio) er mwyn i dy dyfeisiau cyflymach gysylltu. 

  • Os oes gen ti lwybrydd Zyxel, mae modd rhannu dy SSID drwy newid y gosodiadau ar banel rheoli ar-lein Zyxel (Web GUI). 
  • Os oes gen ti lwybrydd eero, mae modd rhannu’r sianeli gan ddefnyddio’r ap. Mae modd datrys problemau wrth geisio cysylltu dyfeisiau (a phroblemau eraill) drwy fynd i ‘Settings’ ac yna ‘Troubleshooting’.  
Beth yw ystyr y goleuadau ar y Zyxel E3301?
Golau  LLIW  STATWS  DISGRIFIAD 
Grym  Gwyrdd  Ymlaen  Yn barod i’w ddefnyddio 
    Fflachio  Yn profi a yw’n gweithio 
  Coch  Ymlaen  Gwall neu ddiffyg  
    Fflachio  Mae’r ddyfais yn diweddaru’r cadarnwedd 
DSL/Ethernet WAN  Gwyrdd  Ymlaen  Yn barod i’w ddefnyddio 
    Fflachio’n araf  Yn chwilio am gysylltiad 
    Fflachio’n gyflym  Yn cychwyn creu’r cysylltiad 
Rhyngrwyd  Gwyrdd  Ymlaen  Wedi cysylltu, ond dim traffig 
    Fflachio  Yn anfon neu’n derbyn 
    I ffwrdd  Dim cysylltiad rhyngrwyd neu mewn modd pontio 
  Coch  Ymlaen  Y cysylltiad wedi methu 
LAN 1-4  Gwyrdd  Ymlaen  Wedi cysylltu, ond dim traffig 
    Fflachio  Yn anfon neu’n derbyn  
    I ffwrdd  Dim cysylltiad Ethernet 
2.4G WLAN/WPS  Gwyrdd  Ymlaen  Mae’r rhwydwaith di-wifr 2.4GHz ymlaen 
    Fflachio  Yn cyfathrebu â chleient wifi 2.4GHz 
  Oren  Fflachio  Yn cysylltu â chleient wifi 2.4GHz 
    I ffwrdd  Mae’r cysylltiad wedi methu neu wedi’i ddiffodd 
5G WLAN/WPS  Gwyrdd  Ymlaen  Mae’r rhwydwaith di-wifr 5GHz ymlaen 
    Fflachio  Yn cyfathrebu â chleient wifi 5GHz 
  Oren  Fflachio  Yn cysylltu â chleient wifi 5GHz 
    I ffwrdd  Mae’r cysylltiad wedi methu neu wedi’i ddiffodd 
Phone1, Phone2  Gwyrdd  Ymlaen  Y gwasanaeth ymlaen, dim negeseuon llais 
    Fflachio  Ffôn sydd wedi’i gysylltu yn cael ei ddefnyddio, dim negeseuon llais  
  Oren  Ymlaen  Mae neges lais wedi’i gadael 
    Fflachio  Ffôn sydd wedi’i gysylltu yn cael ei ddefnyddio ac mae neges lais 
Beth yw ystyr y goleuadau ar lwybrydd eero
Lliw’r golau Ei ystyr
Dim golau Dim pŵer yn yr eero
Gwyn yn fflachio Mae meddalwedd eero yn cychwyn/yn cysylltu â’r Rhyngrwyd
Glas yn fflachio Yn darlledu Bluetooth
Glas solet Mae ap eero wedi’i gysylltu â’r eero ac yn ei osod
Gwyrdd yn fflachio Nifer o eeros wedi’u canfod
Melyn yn fflachio  Unapproved USB-C power source used Ffynhonnell USB-C heb ei chymeradwyo
Gwyn solet Mae’r eero wedi’i gysylltu â’r Rhyngrwyd
Coch solet Nid yw’r eero wedi’i gysylltu â’r Rhyngrwyd
Beth os nad oes un o dy lwybryddion eero yn gweithio

Os na fydd un o dy lwybryddion eero eilaidd ar-lein (un sydd heb ei gysylltu’n uniongyrchol â’r bocs cysylltu), rho gynnig ar ei ddiffodd ac yna’i droi yn ôl ymlaen. Os na fydd hynny’n gweithio, ceisia’i symud i’r un ystafell â dy brif lwybrydd. Tro’r llwybrydd ymlaen eto, ac aros 2-3 munud i weld a fydd yn dod yn ôl ar-lein. Ac os na fydd hynny’n gweithio, cysyllta’r llwybrydd â dy brif lwybrydd gan ddefnyddio cebl Ethernet a rhoi cynnig arall arni.

Beth os yw’r ddyfais yn dangos fy lleoliad fel rhywle y tu fas i’r Deyrnas Unedig (heb sôn am Gymru)?

Bydd gan dy gysylltiad gyfeiriad IP unigryw, ac mae holl gyfeiriadau IP Ogi wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig. Dylai gwefannau adnabod hyn a dy arwain yn awtomatig i’r fersiwn yn y Deyrnas Unedig. Os na fydd hynny’n digwydd, dyma rai pethau i roi cynnig arnyn nhw.  

  • Diffodda’r bocs cysylltu du ar dy wal (yr ONT) am 30 munud. Pan fyddi di’n ei roi yn ôl ymlaen, mae’n debygol o roi cyfeiriad IP gwahanol i ti, gan ddatrys y broblem. 
  • Cliria’r storfa ar unrhyw ddyfeisiau sy’n cael y broblem ’da’r lleoliad, i sicrhau nad yw’r wybodaeth anghywir wedi’i storio.  

Os nad fydd y broblem yn cael ei datrys, cymera sgrinlun o’r wefan/ap/gwasanaeth sy’n achosi’r broblem, a defnyddia’r ffurflen hon i anfon y llun at ein tîm Gofal Cwsmeriaid.   

Rheol gyntaf y clwb technoleg:

Diffodda’r switsh, cyfra i funud, ac yna tro’r switsh ymlaen eto!

Os cei di neges yn dweud bod gwall, yn aml iawn, bydd ailgychwyn dy ddyfais yn datrys y broblem. Mae’n ffordd gyflym a rhwydd sy’n gweithio’n amlach na heb. Dyna pam fydd desgiau cymorth technegol yn ei argymell o hyd.

Er mwyn gwella dy siawns o ddatrys y broblem, datgysyllta’r trydan yn y prif gyflenwad drwy dynnu’r plwg sy’n pweru dy focs cysylltu (y bocs du ar y wal sydd â’r golau gwyrdd arno – neu’r ‘ONT’ fel mae’n cael ei alw gan rai). Hefyd, datgysyllta blwg y llwybrydd, sydd wedi’i gysylltu â’r bocs.

Gofala fod y golau i ffwrdd ar y ddwy ddyfais, yna arhosa am 10-15 eiliad cyn eu plygio ill dau yn ôl i mewn a throi’r switsh yn ôl ymlaen. Bydd hi’n cymryd rhyw 5 munud iddyn nhw ailgychwyn yn iawn, felly dyma gyfle gwych am baned!

Cofia: Mae dy ap Eero neu banel rheoli ar-lein Zyxel hefyd yn ddefnyddiol i ddatrys problemau cyffredin.