Cyflymder dy wasanaeth
Sut mae profi cyflymder y gwasanaeth?
Cymer Brawf Cyflymder Ogi.
Er mwyn profi dy gyflymder, cysyllta dy ddyfais yn uniongyrchol at dy lwybrydd gyda chebl ethernet, a diffodda unrhyw ddyfais arall rwyt ti’n ei defnyddio. Dyma sut i gael y syniad gorau o’r gwir gyflymder sy’n dod mewn i dy gartref.
Dwi ddim yn cael y cyflymder ron i’n ei ddisgwyl – be sy’n digwydd?
Mae’r cyflymder mae cwsmeriaid yn ei dderbyn yn gallu amrywio am lot o resymau, yn cynnwys pa mor brysur yw’r rhwydwaith yn lleol a phroblemau gyda’r rhyngrwyd yn gyffredinol ym Mhrydain a thu hwnt.
Mae o leiaf 50% o’n cwsmeriaid yn gallu derbyn cyflymderau lanlwytho a lawrlwytho pecynnau Ogi yn ystod oriau brîg (sef 8pm-10pm bob dydd). Gan mai cyflymderau cyfartaloeg yw’r rhain, does dim modd eu gwarantu. Isafswm y cyflymder y dylet ddisgwyl ei dderbyn yn ystod cyfnodau brîg yw tua hanner cyflymder ‘pennawd’ y pecyn. Dyn ni ddim yn gallu gwarantu cyflymder lanlwytho i gwsmeriaid cartre Ogi 250, Ogi 500 a Ogi1Gig.
Ryn ni’n gwirio rhwydwaith Ogi’n barhaus ond gelli brofi dy gyflymder hefyd ar ein gwefan.
Os yw dy gyflymder yn gyson is na’r digwyl ffonia 029 2002 3200 neu ebostia [email protected] ac os nad yw pethau’n gwella o fewn 30 diwrnod rwyt ti’n rhydd i ddirwyn pethau i ben gyda ni.