Telerau ac amodau: cynnig Ogi Max (i’r cartref)

Dylid darllen y telerau ac amodau hyn gyda Thelerau ac amodau cyffredinol Ogi.

Dyddiad: 01.07.2022

Mae’r telerau ac amodau hyn yn nodi’r Cytundeb rhyngot a ni ar gyfer darparu Gwasanaeth gyda Chyfnod Treial Tri Mis ar ein Gwasanaethau safonol.

Rheolir dy ddefnydd o’r Gwasanaeth gan y Telerau ac Amodau hyn yn ogystal â’n Telerau ac Amodau Cyffredinol: Gwasanaethau Ogi i’r Cartref a’n Polisi Defnydd Derbyniol. Dylid darllen y telerau ac amodau hyn yn ofalus gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth bwysig.

1. Diffiniadau

Mae “Polisi Defnydd Derbyniol” neu “AUP” yn golygu polisi defnydd derbyniol Ogi sy’n ymwneud â defnyddio Gwasanaethau fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae “Cytundeb” yn golygu’r telerau ac amodau hyn, ein Telerau ac Amodau Cyffredinol, y Polisi Defnydd Derbyniol, a Pholisi Preifatrwydd Ogi adeg y’u cymerir gyda’i gilydd, sydd, yn achos gwrthdaro, yn nhrefn y flaenoriaeth a restrir uchod.

Ystyr “Tymor y Contract” yw’r cyfnod gwasanaeth sylfaenol a nodir yn y Ffurflen Archebu ac sy’n dechrau ar y Dyddiad Gwasanaeth Gweithredol.

Ystyr “Offer” yw cyfarpar ar y Ffurflen Archebu neu a roddir ar safle Cwsmeriaid gan Ogi ar gyfer darparu’r Gwasanaethau.

Mae “Ogi” yn golygu unrhyw un neu bob un o’r endidau canlynol:

  • Spectrum Fibre Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 12883320, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 377 9433 45.
  • Spectrum Internet Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 07849485, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 126873689.
  • Ogi Networks Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 03625793, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 713629048.

Ystyr “Gwasanaeth” yw’r Gwasanaethau neu’r Gwasanaeth fel y’u diffinnir yn y Ffurflen Archebu.

Ystyr “Cyfnod Treial Tri Mis” yw’r tri mis cyntaf ar ôl i’th wasanaeth fynd yn weithredol pryd y byddi yn gallu canslo’r gwasanaeth heb gael dy ddal at weddill cyfnod y Contract.

Ystyr “Ni” yw Ogi a dylid dehongli cyfeiriadau at “ein” yn unol â hynny.

Ystyr “Ti” yw’r Darpar Gwsmer / Treialwr a dylid dehongli cyfeiriadau at ‘dy’ yn unol â hynny.

2. Manylion cyfnod y treial

2.1 Mae’r opsiwn o Gyfnod Treial Tri Mis yn golygu gelli ganslo dy wasanaeth heb unrhyw ymrwymiad pellach ar wahân i ddychwelyd yr Offer a ddarperir.

3. Cymorth a gwarant

3.1 Bydd dy wasanaeth yn cael ei ddarparu yn yr un modd â’r Gwasanaeth safonol, cyfeiria at ein telerau ac amodau safonol. Yr unig wahaniaeth yw’r opsiwn ychwanegol o ganslo dy Wasanaeth cyn i’r cyfnod cychwynnol o dri mis ddod i ben.

4. Canslo dy wasanaeth yn ystod cyfnod y treial

4.1 Hyd at dri mis ar ôl i’ch Gwasanaeth ddod yn weithredol, gelli ganslo dy Wasanaeth. Mae’n rhaid i ti roi gwybod i ni, drwy ffonio 029 2002 0550 neu ddanfon e-bost at cymraeg@ogi.cymru cyn i’r cyfnod o dri mis ddod i ben. Fel arall bydd yn rhaid i ti ddal at weddill Tymor y Contract 24 mis y bu i ti gytuno iddo wrth ymrwymo i’n Gwasanaeth.

4.2 Bydd angen i ti roi’r Offer Eiddo Cwsmeriaid (CPE), gan gynnwys y llwybrydd, yn ôl. Byddwn yn trefnu i’r rhain gael eu casglu.