Mae dod a rhwydwaith ffeibr llawn i’r gymuned yn cymryd amser i gynllunio, bach o gloddio ambell waith a tamed o osod – byddwn yn y gymuned am gryn dipyn o amser… ond, peidia â phoeni, os oes angen i ni gloddio yn dy stryd, dim ond ychydig wythnosau y dylai hynny gymryd; ac unwaith y bydd y seilwaith i mewn, bydd y rhwydwaith ffeibr llawn yn gallu cael ei ddiweddaru’n barhaus, felly ni weler ein cloddio eto am amser hir iawn, oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth yn gyflym, wrth gwrs.
Shwmae. Oi. Helô.
Ni yw prif ddarparwr rhwydwaith amgen Cymru – ac yn browd ohoni; yn gosod rhwydwaith digidol newydd sbon yn y trefi a’r pentrefi sy’n gartref i ni gyd. Mae’n stwff y dyfodol, gan roi gwerth mawr i deuluoedd a busnesau lleol gyda gwasanaethau tra-cyflym a dibynadwy iawn, gan dîm talentog wedi lleoli rownd y gornel.
Felly bydda’n barod i fynd yn gyflymach nag erioed – tra’n chwarae ar iPhone Mam wrth fwrdd y gegin, gwylio Netflix ar y soffa neu serennu’r cyflwyniad gwaith yn bell o’r ‘stafell fwrdd.
Band eang gwell i Gymru
Mae ein seilwaith ffeibr llawn newydd yn osgoi’r hen gysylltiadau copr ac yn rhoi mantais ar-lein go iawn i bobl, cymunedau a busnesau ledled de Cymru.
Bydd ein cysylltiad ffeibr llawn (FTTP ne ‘Fibre To The Premises’ mae lot yn eu galw) yn cyrraedd stepen dy ddrws – yn golygu gwasanaeth gwell nag erioid i ti ar blaned.
Mae’n gysylltiad rhyngrwyd uniongyrchol at dy ddrws ffrynt, sy’n galluogi ti i fynd i unman.