Gwibffyrdd digidol i Gymru

Seilwaith ffeibr newydd, er lles Cymru gyfan.
Bounce Arrow

'sdim tagfeydd fan hyn…

Mewn cytundeb nodedig gyda Llywodraeth Cymru, mae’r Consesiwn Cefnffyrdd yn ein helpu i adeiladu gwibffyrdd digidol rhwng trefi a phentrefi, canolfannau data a chyfnewidiadau ledled de Cymru – gan wella sut mae gwybodaeth yn teithio i mewn ac allan o’r ardaloedd ryn ni’n galw’n gartref.

Mae’n rhwydwaith newydd y gall pob math o bartneriaid lleol a gweithredwyr byd-eang ei ddefnyddio – yn darparu buddion i Gymru a’r bobl yn ein cymunedau hefyd.

Volunteers in a group standing for a picture next to a fence. Rolling fields are visible in the background.

Yn gynaliadwy o gymunedol

Bydd gwella cysylltiadau digidol yn helpu i wneud Cymru’n fwy cynaliadwy – yn helpu pobol i gymudo llai, a gwneud mwy ar-lein, ble bynnag maen nhw. Ond mae manteision yn y tymor byr i’r consesiwn hefyd. Mae hi wastad yn syniad da peidio â tharfu’n ddiangen. Mae’n well osgoi gwaith adeiladu os oes modd; ac mae defnyddio’r seilwaith sydd yno’n barod yn well o lawer i’r amgylchedd a’r gymuned leol.

Mwy o gapasiti i gartrefi, busnesau a sefydliadau...

Yn y dyfodol, bydd y rhwydwaith yn cysylltu Cymru drefol a gwledig – gan gryfhau gwytnwch ein dinasoedd; a dod â chysylltedd ffeibr llawn, gwell darpariaeth symudol a mwy o gystadleuaeth i drefi a phentrefi ledled y wlad.

Bydd y rhwydwaith yn cysylltu’n uniongyrchol â rhai o ganolfannau data pwysica’r de – LINX Wales yng Nghaerdydd a chanolfan ddata mwya Ewrop – Vantage CWL1 – yng Nghasnewydd. Dyma ein canolfannau telathrebu pwysicaf ni – maen nhw’n delio â llif anferth o ddata bob dydd.

Yn gweithio gyda'n gilydd