Polisïau Pobl

Datganiad am Amrywiaeth

Ein pobol yw ein cryfder mwya ni yn Ogi. Ryn ni i gyd yn unigryw, ac amrywiaeth sgiliau a safbwyntiau yw’r union beth sydd ei angen arnon ni i dyfu yn un o brif gwmnïau band eang Cymru.

Ryn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithlu’n groesawgar ac yn gynhwysol: nid yn unig mae hyn yn bwysig ynddo’i hun, ond mae hefyd yn hanfodol inni allu darparu’r gwasanaeth gorau posib i’n holl gwsmeriaid. Mae rhoi gwerth ar amrywiaeth a bod yn gynrychioladol o gymunedau trwy’r de wrth wraidd ein dull ni o weithio, ac yn ganolog i’n llwyddiant.

Polisi Preifatrwydd ar gyfer Ymgeiswyr

Ryn ni’n ‘rheolwr data’. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gyfrifol am benderfynu sut byddwn ni’n cadw ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanat ti. Diben y nodyn preifatrwydd hwn yw dy wneud di’n ymwybodol o sut a pham y bydd dy ddata personol yn cael eu defnyddio, sef er mwyn recriwtio, ac esbonio am ba mor hir y byddwn ni’n cadw’r data hynny fel arfer. Mae’n rhoi gwybodaeth benodol iti y mae’n rhaid inni ei darparu o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (Yr UE) 2016/679) (GDPR).

Egwyddorion diogelu data

Byddwn ni’n cydymffurfio â chyfraith ac egwyddorion diogelu data. Mae hyn yn golygu y bydd dy ddata di:

  • Yn cael eu defnyddio’n gyfreithlon, yn deg, ac mewn ffordd dryloyw
  • Yn cael eu casglu at ddibenion dilys yn unig, a ninnau wedi egluro hynny’n glir iti. Ni fyddwn yn defnyddio’r data mewn unrhyw ffordd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny
  • Yn berthnasol i’r dibenion ryn ni wedi dweud wrthyt ti amdanyn nhw, ac wedi’u cyfyngu i’r dibenion hynny’n unig
  • Yn gywir ac wedi’u diweddaru
  • Yn cael eu cadw am gyfnod dim hwy nag sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r dibenion ryn ni wedi sôn wrthyt ti amdanyn nhw
  • Yn cael eu cadw’n ddiogel
Sut fath o wybodaeth sydd gennyn ni amdanat ti

O ran dy gais i weithio gyda ni, byddwn ni’n casglu, yn storio ac yn defnyddio’r categorïau canlynol o wybodaeth bersonol amdanat ti:

  • Y wybodaeth rwyt ti wedi’i rhoi inni yn dy CV ac yn dy lythyr cefndir
  • Unrhyw wybodaeth y byddi di’n ei rhoi inni yn ystod cyfweliad, gan gynnwys asesiadau
  • Prawf dy fod di’n gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig

Efallai hefyd y byddwn ni’n casglu, yn storio ac yn defnyddio’r “categorïau arbennig” canlynol o wybodaeth bersonol fwy sensitif:

  • Gwybodaeth am dy hil neu ethnigrwydd, credoau crefyddol, cyfeiriadedd rhywiol a safbwyntiau gwleidyddol
  • Gwybodaeth am dy iechyd, gan gynnwys unrhyw gyflwr meddygol, cofnodion iechyd, a chofnodion salwch
  • Gwybodaeth am euogfarnau troseddol a throseddau
Sut bydd dy wybodaeth bersonol yn cael ei chasglu?

Efallai y byddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol am ymgeiswyr o’r ffynonellau hyn:

  • Ti, yr ymgeisydd
  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o ran euogfarnau troseddol
  • Y canolwyr rwyt ti wedi’u henwi
Sut byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth amdanat ti

Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth bersonol y byddwn ni’n ei chasglu amdanat ti i wneud y canlynol:

  • Asesu dy sgiliau,  dy gymwysterau, a pha mor addas wyt ti ar gyfer y swydd y gwnest ti gais amdani
  • Edrych ar dy gefndir a dy eirdaon, pan fydd hynny’n berthnasol i’r swydd
  • Cyfathrebu â thi am y broses recriwtio
  • Cadw cofnodion sy’n berthnasol i’n proses benodi
  • Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol

Mae penderfynu dy benodi neu beidio i’r swydd y gwnest ti gais amdani yn fuddiant dilys inni, gan y byddai o fudd i’n busnes i benodi rhywun i’r swydd honno.

Mae angen inni hefyd brosesu dy wybodaeth bersonol i benderfynu a fyddwn yn rhoi contract cyflogaeth iti.

Os na fyddi di’n gallu rhoi gwybodaeth bersonol

Os na fyddi di’n gallu rhoi’r wybodaeth pan ofynnwn amdani, a honno’n angenrheidiol inni ystyried dy gais (fel tystiolaeth o gymwysterau neu dy hanes gweithio), fyddwn ni ddim yn gallu prosesu dy gais yn llwyddiannus. Er enghraifft, os bydd angen geirdaon arnon ni ar gyfer y swydd hon ac os na fyddi di’n gallu rhoi’r manylion perthnasol inni, fyddwn ni ddim yn gallu mynd â dy gais ymhellach.

Sut byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth bersonol sy’n arbennig o sensitif

Byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth bersonol sy’n arbennig o sensitif yn y ffyrdd canlynol:

  • Byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth am dy statws anabledd i ystyried a oes angen inni wneud addasiadau yn ystod y broses recriwtio, er enghraifft a oes angen gwneud addasiadau yn ystod prawf neu gyfweliad.
  • Gallwn ddefnyddio gwybodaeth am dy hil neu dy genedl neu dy ethnigrwydd gwreiddiol, dy gredoau crefyddol, athronyddol neu foesol, a dy fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol, i sicrhau ein bod ni’n monitro ac yn adrodd am gyfleoedd cyfartal mewn ffyrdd ystyrlon.
Gwybodaeth am euogfarnau troseddol

Ryn ni’n rhagweld y byddwn ni’n prosesu gwybodaeth am euogfarnau troseddol pan fydd y swydd neu’r prosiect i gwsmer yn galw am gynnal gwiriad o’r fath. Byddwn ni’n cydymffurfio â’n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 wrth wneud hynny.

Yn unol â gofynion y gyfraith, mae gennyn ni ddogfen bolisi addas a chamau diogelu y byddwn ni’n eu dilyn wrth brosesu data o’r fath.

Gwneud penderfyniadau awtomataidd

Ni fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud sy’n cael effaith sylweddol arnat ti a fydd wedi’u seilio’n llwyr ar benderfyniadau awtomataidd.

Rhannu data

Pam allech chi rannu fy ngwybodaeth bersonol â thrydydd partïon?

Dim ond at ddibenion prosesu dy gais y byddwn ni’n rhannu dy wybodaeth bersonol â thrydydd partïon. Mae gofyn i’n holl ddarparwyr gwasanaethau trydydd parti gymryd camau addas i ddiogelu dy wybodaeth bersonol yn unol â’n polisïau ni. Ni fyddwn yn caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau trydydd parti ddefnyddio dy ddata personol at eu dibenion eu hunain. Dim ond at ddibenion penodol, yn unol â’n cyfarwyddiadau ni, y byddwn ni’n caniatáu iddyn nhw brosesu dy ddata personol.

Diogelwch data

Ryn ni wedi cyflwyno camau diogelu addas rhag i dy wybodaeth bersonol fynd ar goll yn ddamweiniol, rhag iddi gael ei gweld neu’i defnyddio mewn ffordd anawdurdodedig, a rhag iddi gael ei haddasu a’i datgelu.  At hynny, byddwn ni’n cyfyngu mynediad i dy wybodaeth bersonol i’r gweithwyr, yr asiantau, y contractwyr a’r trydydd partïon eraill hynny y mae angen iddyn nhw weld y wybodaeth am resymau busnes. Dim ond yn unol â’n cyfarwyddiadau ni y byddan nhw’n prosesu dy wybodaeth bersonol, ac mae’n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â dyletswydd cyfrinachedd.

Ryn ni wedi cyflwyno gweithdrefnau i ddelio ag unrhyw achos o danseilio diogelwch data a byddwn ni’n rhoi gwybod i ti ac i unrhyw reoleiddiwr perthnasol am unrhyw achosion posib o’r fath pan fydd yn ofynnol yn gyfreithiol inni wneud hynny.

Cadw data

Byddwn ni’n cadw dy wybodaeth bersonol am gyfnod o chwe mis ar ôl inni roi gwybod iti am ein penderfyniad ynghylch dy benodi neu beidio. Ryn ni’n cadw dy wybodaeth am y cyfnod hwnnw er mwyn inni allu dangos, os gwneir hawliad cyfreithiol, nad ydyn ni wedi gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr am resymau sydd wedi’u gwahardd, a’n bod wedi cynnal y broses recriwtio mewn ffordd deg a thryloyw. Ar ôl y cyfnod hwn, byddwn ni’n dinistrio dy wybodaeth bersonol yn ddiogel.

Os byddwn am gadw dy wybodaeth bersonol ar ffeil, rhag ofn y gallai cyfle arall godi yn y dyfodol a’n bod ni’n awyddus i dy ystyried ar gyfer hwnnw, byddwn ni’n ysgrifennu atat ar wahân am hynny, gan ofyn am dy ganiatâd penodol i gadw dy wybodaeth bersonol am gyfnod penodol ar y sail honno.

Hawliau i weld, cywiro, dileu a chyfyngu ar wybodaeth

O dan rai amgylchiadau, mae gen ti hawl gyfreithiol i wneud y canlynol:

  • Gofyn am gael gweld dy wybodaeth bersonol (sy’n cael ei alw’n “gais mynediad gwrthrych y data”). Mae hyn yn golygu bod modd iti gael copi o’r wybodaeth bersonol sydd gennyn ni amdanat ti, a sicrhau ein bod ni’n ei phrosesu’n gyfreithlon
  • Gofyn am gywiro’r wybodaeth bersonol sydd gennyn ni amdanat ti. Mae hyn yn dy alluogi di i gywiro unrhyw wybodaeth anghyflawn neu anghywir sydd gennyn ni amdanat ti.
  • Gofyn am ddileu dy wybodaeth bersonol. Mae hyn yn dy alluogi di i ofyn inni ddileu neu gael gwared ar dy wybodaeth bersonol pan nad oes rheswm da gennyn ni dros barhau i’w phrosesu. Mae gen ti hefyd yr hawl i ofyn inni ddileu neu gael gwared ar dy wybodaeth bersonol pan fyddi di wedi defnyddio dy hawl i wrthwynebu ei phrosesu (gweler isod).
  • Gwrthwynebu prosesu dy wybodaeth bersonol pan fyddwn ni’n dibynnu ar fuddiant dilys (neu fuddiant dilys trydydd parti) a bod rhywbeth am dy sefyllfa benodol sy’n golygu dy fod am wrthwynebu prosesu’r wybodaeth am y rheswm hwn. Mae gen ti hefyd yr hawl i wrthwynebu mewn sefyllfa lle byddwn ni’n prosesu dy wybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol
  • Gofyn am gyfyngu ar brosesu dy wybodaeth bersonol. Mae hyn yn dy alluogi di i ofyn inni roi’r gorau i brosesu dy wybodaeth bersonol am y tro, er enghraifft os wyt ti am inni sicrhau ei bod yn gywir, neu am wybod y rheswm dros ei phrosesu
  • Gofyn am drosglwyddo dy wybodaeth bersonol i barti arall
Cwynion

Os wyt ti am wneud cwyn am sut ryn ni wedi prosesu dy wybodaeth bersonol, fe elli di gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion isod.

Fe elli di hefyd gwyno’n uniongyrchol i awdurdod goruchwylio’r Deyrnas Unedig (ICO)

Os hoffet ti adolygu, gwirio, cywiro neu ofyn am ddileu dy wybodaeth bersonol, gwrthwynebu prosesu dy ddata personol neu wneud cais inni drosglwyddo copi o dy wybodaeth bersonol i barti arall, cysyllta â’r swyddog diogelu data yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r manylion isod.

Yr hawl i dynnu dy ganiatâd yn ôl

Pan wnest ti gais am y swydd hon, fe roist ti ganiatâd inni brosesu dy wybodaeth bersonol at ddibenion y broses recriwtio. Mae gen ti’r hawl ar unrhyw adeg i dynnu yn ôl dy ganiatâd inni brosesu’r wybodaeth at y diben hwnnw. I dynnu dy ganiatâd yn ôl, cysyllta â Chyfarwyddwr Pobol y cwmni. Pan fyddwn ni wedi clywed dy fod ti wedi tynnu dy ganiatâd yn ôl, fyddwn ni ddim yn prosesu dy gais rhagor, ac yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth, byddwn ni’n cael gwared ar dy ddata personol yn ddiogel.

Cysyllta

E-bost: peopleexperience@ogi.wales
Ffôn: 029 2002 2370
Drwy’r post: Profiad Pobol Ogi, Tŷ Ogi, Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY.