Shwmae, bobl sir Sir Benfro!

Mae band eang ffeibr llawn Ogi ar y ffordd i’r Aberdaugleddau, Hwlffordd, Johnston, Neyland, Penfro, Doc Penfro a Dinbych y Pysgod
Bounce Arrow

Mae’n bryd paratoi am fand eang ffeibr llawn

Ni yw Ogi – y cwmni band eang o Gymru – yma i bweru cymunedau fel Aberdaugleddau, Hwlffordd, Johnston, Neyland, Penfro, Doc Penfro a Dinbych y Pysgod drwy wibgysylltiad band eang ffeibr llawn. Dyma fand eang i’r genhedlaeth nesa, gyda gwibgysylltiad sy’n barod i dy gysylltu, dy ddifyrru, a dy gadw’n gweithio yn dy gymuned di. Yn dechrau gyda chyflymder lawrlwytho o 150Mbps, mae gwasanaeth Ogi yn rhoi gwibgysylltiad hynod o ddibynadwy.

Mantais ffeibr llawn

Ryn ni’n dod â phŵer ffeibr at garreg y drws – gan anwybyddu’r hen gysylltiadau araf drwy osod rhwydwaith band eang newydd sbon sy’n barod am yr holl ffrydio yn y byd, heddiw ac ymhell i’r dyfodol. 

Mae creu rhwydwaith ffeibr llawn yn gofyn am lawer o waith cynllunio, rhywfaint o gloddio, ac o bryd i’w gilydd, ychydig o darfu ar bethau. Ond paid â phoeni. Os bydd angen i ni weithio yn dy stryd di, dim ond ychydig wythnosau ddylai hynny’i gymryd. Pan fydd y cyfan wedi’i osod, bydd dy rwydwaith ffeibr llawn yn gallu cael ei ddiweddaru o hyd, felly fydd dim golwg o’n cloddwyr am amser go hir eto (oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth ar frys, wrth gwrs). 

Map wedi darlunio yn dangos trefi a phentrefi yn Sir Benfro

Ry'n ni'n caru ein cymunedau

Ryn ni’n dymuno wreiddio ein hunain ymhlith y bobl a’r cymunedau ryn ni’n eu gwasanaethu. Wrth cyflogi pobl leol a dod â thua £5 miliwn o fuddsoddiad i bob tre ryn ei gysylltu, gan helpu ein cymunedau i baratoi ar gyfer y dyfodol digidol. Ryn ni hefyd yn cefnogi sefydliadau llawr gwlad ein hardaloedd, trwy noddi a chyfrannu at waith grwpiau lleol o bob math a maint: elusennau mawr cenedlaethol; clybiau a sefydliadau rhanbarthol neu drefol; a grwpiau llai, cymunedol, sy’n gwneud gwir wahaniaeth.

Hop, sgip a naid…

Wedi’i adnabod am y ddinas leiaf ym Mhrydain ac, wrth gwrs, cartref y Millennium Falcon – ond oeddet ti’n gwybod cafodd Coasteering eu dyfeisio yn Sir Benfro yn y 1980au? Mae’r gamp antur sy’n cael ei thanio gan adrenalin yn cynnwys sgrialu a dringo o amgylch yr arfordir creigiog yna neidio oddi ar glogwyni i’r môr – y lle perffaith i’w ddyfeisio, byddem yn dweud! 

Mae’n anhygoel beth allwch chi ei ddarganfod ar y we, on dyw hi? *Ffynhonnell: 4 Adventurers