Shwmae, bobl Bro Morgannwg!

Mae band eang ffeibr llawn Ogi ar y ffordd i Ddinas Powys, Llanilltud Fawr, Y Rhws a Sain Tathan– ac mae’n bryd gwibgysylltu!
Bounce Arrow

Mae’n bryd paratoi am fand eang ffeibr llawn

Ni yw Ogi – y cwmni band eang o Gymru – yma i bweru cymunedau fel y Dinas Powys, Llanilltud Fawr, Y Rhws a Sain Tathan drwy wibgysylltiad band eang ffeibr llawn. Dyma fand eang i’r genhedlaeth nesa, gyda gwibgysylltiad sy’n barod i dy gysylltu, dy ddifyrru, a dy gadw’n gweithio yn dy gymuned di. Yn dechrau gyda chyflymder lawrlwytho o 250Mbps, mae gwasanaeth Ogi yn rhoi gwibgysylltiad hynod o ddibynadwy.

Mantais ffeibr llawn

Ryn ni’n dod â phŵer ffeibr at garreg y drws – gan anwybyddu’r hen gysylltiadau araf drwy osod rhwydwaith band eang newydd sbon sy’n barod am yr holl ffrydio yn y byd, heddiw ac ymhell i’r dyfodol. 

 Mae creu rhwydwaith ffeibr llawn yn gofyn am lawer o waith cynllunio, rhywfaint o gloddio, ac o bryd i’w gilydd, ychydig o darfu ar bethau. Ond paid â phoeni. Os bydd angen i ni weithio yn dy stryd di, dim ond ychydig wythnosau ddylai hynny’i gymryd. Pan fydd y cyfan wedi’i osod, bydd dy rwydwaith ffeibr llawn yn gallu cael ei ddiweddaru o hyd, felly fydd dim golwg o’n cloddwyr am amser go hir eto (oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth ar frys, wrth gwrs). 

Ry'n ni'n caru ein cymunedau

Ryn ni’n dymuno wreiddio ein hunain ymhlith y bobl a’r cymunedau ryn ni’n eu gwasanaethu. Wrth cyflogi pobl leol a dod â thua £5 miliwn o fuddsoddiad i bob tre ryn ei gysylltu, gan helpu ein cymunedau i baratoi ar gyfer y dyfodol digidol. Ryn ni hefyd yn cefnogi sefydliadau llawr gwlad ein hardaloedd, trwy noddi a chyfrannu at waith grwpiau lleol o bob math a maint: elusennau mawr cenedlaethol; clybiau a sefydliadau rhanbarthol neu drefol; a grwpiau llai, cymunedol, sy’n gwneud gwir wahaniaeth.

Mor unigryw ac maen nhw’n dod…

Oeddet ti’n gwybod bod Bro Morgannwg yn ymestyn dros 33,097 hectar (130 milltir sgwâr) ac mae ganddi 53 km (33 mi) o arfordir? Mae’r clogwyni melyn-llwyd ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg (sy’n ymestyn rhwng Gileston ac Ogwr) yn unigryw ar arfordir y Môr Celtaidd (h.y.. Cernyw, Cymru, Iwerddon a Llydaw) wrth iddynt gael eu ffurfio o gyfuniad o galchfaen llesg, siâl a thywodfaen carbonifferaidd/calchfaen. 

 Mae’n anhygoel beth allwch chi ei ddarganfod ar y we, on dyw hi?

*Ffynhonnell: Archifau Morgannwg