Telerau ac Amodau Cynnig Cyflwyno Ffrind

Dylid darllen y telerau ac amodau hyn gyda Thelerau ac Amodau Cyffredinol Ogi.

Rheolir dy ddefnydd o’r Gwasanaeth gan y Telerau ac Amodau hyn yn ogystal â’n Telerau ac Amodau Cyffredinol: Gwasanaethau Ogi i’r Cartref a’n Polisi Defnydd Derbyniol.

Mae’r telerau a’r amodau hyn yn egluro’r rheolau a’r canllawiau sy’n berthnasol wrth i chi gymryd rhan yng nghynllun Sôn wrth Ffrind Ogi, cynllun sy’n cael ei reoli gan Buyapowa Limited. Nod y cynllun yw eich gwobrwyo am wahodd ffrindiau i brofi cynigion gwych Ogi.

Drwy gymryd rhan yn y cynllun hwn, rydych chi’n cytuno i gydymffurfio â’r telerau sydd ynddo. Mae’r rheini’n rhoi manylion y meini prawf ar gyfer bod yn gymwys, y broses ar gyfer sôn wrth ffrind, y system wobrwyo, a phob elfen arall sy’n gysylltiedig â’r cynllun hyrwyddo hwn.

Ein nod ni yw rhoi profiad tryloyw a braf i bawb, gan greu ymdeimlad o gymuned. Ar yr un pryd, byddwn ni’n rhoi cyfle i chi elwa drwy rannu gwybodaeth am ein gwasanaethau â ffrindiau ac aelodau o’ch teulu.

Rydyn ni’n eich annog i ddarllen y telerau hyn yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn deall yn llwyr eich hawliau a’ch cyfrifoldebau o dan y cynllun.

1. Diffiniadau

Mae “Polisi Defnydd Derbyniol” neu “AUP” yn golygu polisi defnydd derbyniol Ogi sy’n ymwneud â defnyddio Gwasanaethau fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae “Cytundeb” yn golygu’r telerau ac amodau hyn, ein Telerau ac Amodau Cyffredinol, y Polisi Defnydd Derbyniol, a Pholisi Preifatrwydd Ogi adeg y’u cymerir gyda’i gilydd, sydd, yn achos gwrthdaro, yn nhrefn y flaenoriaeth a restrir uchod.

Ystyr “Tymor y Contract” yw’r cyfnod gwasanaeth sylfaenol a nodir yn y Ffurflen Archebu ac sy’n dechrau ar y Dyddiad Gwasanaeth Gweithredol.

Ystyr “Offer” yw cyfarpar ar y Ffurflen Archebu neu a roddir ar safle Cwsmeriaid gan Ogi ar gyfer darparu’r Gwasanaethau.

Mae “Ogi” yn golygu unrhyw un neu bob un o’r endidau canlynol:

  • Spectrum Fibre Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 12883320, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 377 9433 45.
  • Spectrum Internet Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 07849485, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 126873689.
  • Ogi Networks Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 03625793, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 713629048.

Ystyr “Gwasanaeth” yw’r Gwasanaethau neu’r Gwasanaeth fel y’u diffinnir yn y Ffurflen Archebu.

Ystyr “Cyfnod Treial Tri Mis” yw’r tri mis cyntaf ar ôl i’th wasanaeth fynd yn weithredol pryd y byddi yn gallu canslo’r gwasanaeth heb gael dy ddal at weddill cyfnod y Contract.

Ystyr “Ni” yw Ogi a dylid dehongli cyfeiriadau at “ein” yn unol â hynny.

Ystyr “Ti” yw’r Darpar Gwsmer / Treialwr a dylid dehongli cyfeiriadau at ‘dy’ yn unol â hynny.

2. Manylion

1. Yr Hyrwyddwr

1.1 Hyrwyddwr y cynllun Sôn wrth Ffrind hwn (y “Cynllun”) yw Ogi (Spectrum Fibre), sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 12883320, gyda swyddfa gofrestredig yn Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY (“Ogi”).

2. Y Broses Gyfranogi

2.1 Gall unigolion cymwys (gweler “Cymhwysedd” isod) gymryd rhan drwy gofrestru eu henwau a’u cyfeiriadau e-bost ar ein gwefan https://ogi.wales/refer/. Ar ôl cofrestru’n llwyddiannus, bydd yr unigolyn yn dod yn Sawl sy’n Sôn ac yn cael dolen unigryw ar y we (“Dolen Sôn wrth Ffrind”) i’w rhannu â ffrindiau ac aelodau o’r teulu nad ydyn nhw’n gwsmeriaid Ogi ar hyn o bryd (“Ffrindiau”) ac sy’n cydsynio i gael y ddolen.

2.2 Er mwyn elwa o’r Cynllun, rhaid i Ffrindiau ddefnyddio’r Ddolen Sôn wrth Ffrind i gofrestru eu manylion ac i wneud Pryniant Cymwys (fel y disgrifir isod).

3. Cymhwysedd

3.1 Nid oes angen i unigolyn fod yn un o gwsmeriaid Ogi i sôn wrth ffrind ac i gael gwobr.

3.2 Nid oes hawl gan weithwyr a theuluoedd Ogi i gymryd rhan yn y Cynllun hwn. At hynny, nid yw’r Cynllun yn berthnasol os yw’r Ffrind yn un o gwsmeriaid Ogi neu os yw wedi bod yn un o gwsmeriaid Ogi o’r blaen.

4. Pryniannau Cymwys

4.1 Y diffiniad o “Bryniant Cymwys” yw archeb sydd wedi’i chyflwyno am un o becynnau gwasanaeth preswyl cyfnod penodol Ogi.

4.2 Nid yw pryniannau a wneir drwy werthwyr trydydd parti’n gymwys.

4.3 Ni fydd archebion sy’n cael eu canslo neu eu datgysylltu yn ystod y Cyfnod Bodlonrwydd yn cael eu hystyried yn Bryniannau Cymwys chwaith.

 5. Y Wobr

5.1 Bydd cyfranogwyr cymwys (naill ai’r Sawl sy’n Sôn neu’r Ffrind) yn cael Gwobr drwy e-bost noreply@reward.ogi.wales (yr “E-bost Gwobrwyo”) a hwnnw wedi’i anfon gan Buyapowa Limited (“Buyapowa”).

5.2 Darllenwch Delerau ac Amodau Buyapowa i gael rhagor o fanylion

5.3 Bydd yr E-bost Gwobrwyo yn rhoi manylion am sut i ddewis a hawlio’r Wobr. Bydd yr e-bost hwn yn cael ei anfon ar ôl i gyfrif Ogi’r Ffrind fod ar agor am o leiaf 30 diwrnod.

5.4 Bydd archebion sy’n cael eu rhoi drwy gydol cyfnod y Cynllun yn cynnwys

  • Taleb Amazon gwerth £40 i’r Sawl sy’n Sôn i’w wario yn amazon.co.uk
  • Taleb Amazon gwerth £40 i’r Ffrind i’w wario yn amazon.co.uk

(“y Wobr”)

5.5 O fewn 30 i 90 diwrnod ar ôl i Ffrind gwblhau Pryniant Cymwys, bydd y Sawl sy’n Sôn a’r Ffrind yn cael yr E-bost Gwobrwyo a hwnnw’n cynnwys dolen i hawlio’r Wobr. Bydd y neges e-bost hon yn cael ei hanfon 31 o ddiwrnodau ar ôl cwblhau proses osod y Ffrind, a bydd y Telerau a’r Amodau hyn yn berthnasol. Bydd y neges e-bost yn cael ei hanfon i’r cyfeiriadau a ddefnyddiwyd i gofrestru i fod yn rhan o’r Cynllun Hyrwyddo.

5.6 Gallai’r Wobr fod yn amodol ar y nifer sydd ar gael, ac efallai mai dim ond am gyfnod cyfyngedig y bydd y dolenni i’r Wobr yn gweithio, yn unol â’r hyn a ddywedir yn yr E-bost Gwobrwyo. Cyfrifoldeb y cyfranogwr yw hawlio’r Wobr gan ddefnyddio’r ddolen a ddarparwyd yn yr E-bost Gwobrwyo a hynny o fewn y cyfnod a nodwyd.

5.7 Dylai cyfranogwyr ddarllen y telerau a’r amodau sy’n gysylltiedig â’r Wobr yn ofalus, gan gynnwys y dyddiad y bydd yn dod i ben, gan y bydd y wybodaeth hon wedi’i chynnwys gyda’r Wobr. Dylid cadw’r E-bost Gwobrwyo’n ofalus; nid oes yn rhaid i Ogi anfon neges e-bost arall os caiff honno ei dileu neu ei cholli.

5.8 O ran sôn wrth ffrind, ni chaniateir i bobl sôn amdanyn nhw’u hunain nac am unigolion sy’n byw yn yr un cyfeiriad â nhw.

5.9 Y nifer uchaf o ffrindiau y ceir sôn amdanyn nhw yw 10 bob blwyddyn galendr ym mhob aelwyd. I sôn wrth fwy o bobl, cyflwynwch y manylion drwy e-bost i referafriend@ogi.wales

5.9.1 Nid oes modd cyfuno’r Cynllun hwn ag unrhyw gynigion eraill oni bai bod hynny wedi’i ddatgan yn benodol mewn cynigion o’r fath.

6. Preifatrwydd Data

6.1 Bydd data personol a roddir yn ystod y cyfnod hyrwyddo yn cael eu prosesu’n unol â Pholisi Preifatrwydd Ogi, sydd ar gael yn [Polisi Preifatrwydd – Ogi]. Bydd Ogi yn rhannu eich enw a’ch cyfeiriad e-bost â Buyapowa er mwyn gallu anfon yr E-bost Gwobrwyo.

6.2 Darllenwch bolisi preifatrwydd Buyapowa i ddeall sut y bydd yn prosesu eich data yn ystod y cyfnod hyrwyddo.

7. Addasiadau i’r Cynllun

7.1 Mae gan Ogi’r hawl i addasu, i ohirio neu i derfynu’r Cynllun hwn a/neu i ddiwygio’r Telerau hyn unrhyw bryd heb roi hysbysiad ymlaen llaw. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Ogi.

7.2 Gellir peidio â rhoi’r Gwobrau os amheuir bod twyllo’n digwydd. Mae holl benderfyniadau Ogi yn derfynol. Mae gan Ogi’r hawl i wrthod rhoi’r Cynllun hwn ar waith a/neu i wrthod rhoi Gwobr i unrhyw un sy’n torri’r Telerau hyn neu sydd â dyled ar eu cyfrif Ogi.

8. Cyfyngiadau ar Atebolrwydd

8.1 Nid yw’r Cynllun hwn yn cael ei noddi, ei gymeradwyo na’i weinyddu gan Gmail, WhatsApp, Twitter, Facebook nac unrhyw wasanaeth arall ar y cyfryngau cymdeithasol, ac nid yw’n gysylltiedig â’r gwasanaethau hyn. Drwy gymryd rhan yn y Cynllun, rydych chi’n rhoi eich gwybodaeth i Ogi ac nid i’r gwasanaethau hyn, ac rydych chi’n cytuno i’w rhyddhau o unrhyw atebolrwydd sy’n gysylltiedig â’r Cynllun.

8.2 Ni fydd Ogi yn atebol am y canlynol:-

8.2.1 Unrhyw brosesu data a wneir gan Buyapowa neu

8.2.1 Unrhyw achos lle bydd y Sawl sy’n Sôn neu’r Ffrind yn torri telerau ac amodau Buyapowa.

8.3 Mae’r Sawl sy’n Sôn a’r Ffrind yn cydnabod, wrth gymryd rhan ar blatfform Buyapowo, fod polisïau Buyapowa yn berthnasol ac mai cyfrifoldeb y Sawl sy’n Sôn neu’r Ffrind yw unrhyw broblemau sy’n deillio o ymwneud â’r platfform yn y fath fodd.

8.4 Nid yw Ogi’n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw hawliadau, colledion neu ddifrod sy’n deillio o weithredoedd Buyapowa nac am sut y bydd y Sawl sy’n Sôn neu’r Ffrind yn cydymffurfio â thelerau Buyapowa.

 9. Argaeledd y Rhwydwaith

9.1 1 Dim ond yn yr ardaloedd y mae rhwydwaith Ogi yn eu gwasanaethu y mae gwasanaethau Ogi ar gael, boed o dan y Cynllun hwn neu fel arall.

10. Y Gyfraith Berthnasol

10.1 Cyfraith Cymru a Lloegr sy’n llywodraethu’r Telerau hyn, ac rydych chi’n cytuno y bydd awdurdodaeth y llysoedd yng Nghymru a Lloegr yn berthnasol.