Newid Un Cam ar y ffordd!

Bounce Arrow

Mae’r broses newydd hon – o’r enw Newid Un Cam – yn ei gwneud hi’n symlach cael pecyn cyflymach, bargen ratach, a gwell gwasanaeth cwsmeriaid gan ddarparwyr band eang. Mae’r peth yn syfrdanol o wych!

O dan y broses newydd sydd wedi’i chyflwyno gan Ofcom, os wyt ti’n dymuno newid dy wasanaeth band eang a ffôn, gall darparwr newydd drefnu’r newid hwnnw ar dy ran. Y cyfan sy’n rhaid i ti ei wneud felly yw dweud hwyl fawr heb orfod torri gair â dy ddarparwr presennol. Does neb yn hoffi pan fydd perthynas yn dod i ben, felly mae’r holl broses wedi’i chreu gyda thi mewn golwg.

 

Rydyn ni yma i gyflymu pethau i ti, nid i dy arafu

Dydy pethau ‘gweinyddol’ bywyd yn fawr o hwyl, ac mae’r broses hon yn datrys y prif gwynion sydd gan bobl wrth geisio newid eu gwasanaeth band eang neu ffôn…

👎Gorfod cysylltu â’r ddau ddarparwr

👎 Aros oes i’r newid ddigwydd

👎 Cael dy blagio i aros

 

Mae’r cyfan bellach mor rhwydd ag un, dau, tri.

Cam 1. Yn syml, ffonia ni ar 029 2002 0232 ac fe wnawn ni’r gweddill.

Y cyfan sydd ei angen arnon ni yw:

👉 Enw’r darparwr presennol

👉 Yr enw ar y cyfrif

👉 Rhif dy gyfrif

Mae tîm cyfeillgar Ogi wedi’i leoli fan hyn yn ne Cymru. Byddan nhw’n sicrhau dy fod ti’n yn cael y pecyn mwyaf addas i ti, ac yn sgwrsio â ti am sut i newid dy gyflenwr.

 

Sut mae’r peth yn gweithio?

Ar ôl i ti siarad â ni, byddi di’n cael unrhyw wybodaeth bwysig am newid cyflenwr yn awtomatig gan dy ddarparwr presennol. Gallai hyn gynnwys unrhyw ffioedd terfynu cynnar a dy fil olaf. Byddi di wedyn yn cael contract newydd a bydd angen i ti gadarnhau’r newid cyn i ni gychwyn arni. Bydd modd i ti wneud hyn ar-lein yn y dyfodol hefyd, felly cadwa lygad mas.

 

Dau berson o’r tîm Ogi. Mae'r ddau yn gwenu, chwifio a dal clipfwrdd.

Ffonia ein tîm gwerthu cyfeillgar yng Nghaerdydd.

029 2002 0232
Llaw gyda'u bodiau i fyny, yn gwisgo oriawr ddigidol, gyda chalon a'i wyneb.

Byddi di’n cael gwybodaeth am newid cyflenwr yn awtomatig gan dy ddarparwr newydd, ac yn cael contract newydd gan Ogi.

Llaw sy'n dal ffôn symudol sy'n dangos prawf gyflymder band eang. Gyda'r gair

Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ar ddyddiad y cytunwyd arno, a bydd yr hen wasanaeth yn dod i ben. Go, go, go!

Newid Un Cam – cwestiynau cyffredin

Beth yw Newid Un Cam?

Newid Un Cam yw’r broses newydd ar gyfer newid darparwyr band eang a llinellau tir. Y rheoleiddiwr cyfathrebu, Ofcom, sydd wedi cyflwyno’r broses hon er mwyn i bobl allu symud i wasanaeth arall yn rhwydd ac yn gyflym. Mae’n golygu mai dim ond cysylltu â’u darparwyr band eang neu linell tir presennol y bydd angen i’r rhan fwyaf o bobl ei wneud, yn hytrach na gorfod canslo’r hen wasanaeth.

Pam cyflwyno Newid Un Cam?

Mae Newid Un Cam yn cael ei gyflwyno drwy’r holl ddiwydiant ar 12 Medi 2024, ac mae’n gwneud y broses o symud o un darparwr i un arall yn haws i ti. Mae ymchwil Ofcom wedi dangos bod tua 41% o bobl yn amharod i newid oherwydd y drafferth o orfod cysylltu â mwy nag un darparwr. Mae nifer tebyg (43%) yn credu y bydd y broses yn cymryd gormod o amser.

Beth os ydw i eisiau newid nawr?

Defnyddia ein gwiriwr cod post i weld a alli di ymuno ag Ogi heddiw. Neu galli di gofrestru dy fanylion ymlaen llaw, er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad. Galli di hefyd ffonio ein tîm cyfeillgar ar 029 2002 0520, neu anfon e-bost aton ni i sales@ogi.wales, a gallwn ni drafod y broses.

Ond mae gen i gontract yn barod?

Dim problem. Paid â bodloni ar gysylltiad araf. Ffonia ni ac fe gawn ni weld beth allwn ni ei wneud – 029 2002 0520.

Os wyt ti am newid dy ddarparwr cyn diwedd cyfnod gofynnol dy gontract, efallai y bydd yn rhaid i ti dalu ffioedd terfynu cynnar. Mae rheolau Ofcom hefyd yn dweud y cei di adael dy ddarparwr presennol heb unrhyw ffioedd terfynu cynnar os nad wyt ti wedi cael y cyflymder a gafodd ei addo pan wnest ti lofnodi dy gontract.

Pa wybodaeth mae’n rhaid i mi ei rhoi ar gyfer Newid Un Cam?

I ddechrau’r broses baru, bydd angen i ti rannu rhywfaint o fanylion ag Ogi er mwyn i ni ganfod pwy wyt ti a phwy yw dy ddarparwr presennol. Po fwyaf o fanylion fydd gen ti, bydd y broses baru’n haws. Byddwn ni’n gofyn am y canlynol:

👉 Enw’r darparwr presennol
👉 Yr enw ar y cyfrif
👉 Rhif dy gyfrif a’r cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â dy gyfrif

Os mai dim ond dy enw a dy gyfeiriad sydd gen ti, efallai y byddwn ni’n cael ein paru â nifer o enwau. Ond drwy roi rhif dy gyfrif presennol neu dy rif ffôn, dylen ni allu paru’n iawn. Os bydd y data’n cael ei roi’n anghywir neu os oes gan dy ddarparwr presennol wybodaeth anghywir, fel y cyfeiriad e-bost anghywir neu enw sydd wedi’i sillafu’n wahanol, efallai na fyddwn ni’n gallu paru’n iawn yn syth. Byddwn ni’n cysylltu os bydd angen ychydig yn rhagor o wybodaeth arnon ni.

Pryd na fydd Newid Un Cam yn bosibl?

Dim ond wrth newid o un darparwr preswyl i un arall y mae modd defnyddio Newid Un Cam. Efallai na fydd modd ei ddefnyddio os yw’r newid yn rhy gymhleth neu os oes problemau wrth dy “baru” â dy ddarparwr presennol. Gallai hyn fod oherwydd bod manylion y contract gyda dy ddarparwr presennol yn wahanol.

Beth yw Ofcom?

Ofcom yw rheoleiddiwr gwasanaethau cyfathrebu’r Deyrnas Unedig. Mae Ofcom wedi ymrwymo i greu sector telathrebu llewyrchus, lle gall cwmnïau gystadlu’n deg, a lle bydd cwsmeriaid yn elwa o wasanaethau amrywiol, gan gynnwys band eang.

Beth yw TOTSCo?

A hwnnw wedi’i sefydlu gan y diwydiant ym mis Mehefin 2022, TOTSCo sy’n rheoli’r broses Newid Un Cam ar ran y diwydiant.

Gad i ni gael pip...

Gwell gen ti ganslo dy contract presennol dy hun? Dere i ni weld os allet ti gael band eang tra-cyflym heddi.