Telerau ac Amodau Cyffredinol: Gwasanaethau Busnes Ogi
Mae’r telerau a’r amodau hyn yn cyflwyno’r cytundeb rhyngot ti a ni ar gyfer darparu dy Wasanaethau Busnes Ogi. Cyhoeddwyd y telerau a’r amodau newydd ar 20.06.22. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn berthnasol i’r modd y byddi di’n defnyddio’r Gwasanaethau. Darllena drwy’r telerau a’r amodau hyn yn ofalus gan fod gwybodaeth bwysig ynddyn nhw.
1. Deiffiniadau
“Canllaw Prisiau” – ystyr hyn yw’r prisiau sy’n berthnasol i’r Gwasanaethau ac a nodir ar ein gwefan, fel y’u diwygir o dro i dro.
“Cwmnïau Grŵp Spectrum Fibre” – ystyr hyn yw un o is-gwmnïau neu gwmnïau daliannol Spectrum Fibre Ltd, neu un o is-gwmnïau’r cwmnïau daliannol hynny, yn unol â diffiniad adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
“Cwsmer” – ystyr hyn yw’r unigolyn, y grŵp o unigolion neu’r endid arall y mae ei enw a’i gyfeiriad ar y Ffurflen Archebu.
“Cyfarpar” – ystyr hyn yw’r cyfarpar a enwir yn Atodiad 1 os wyt ti’n cael Gwasanaeth Band Eang Ogi neu’r cyfarpar a enwir yn Atodiad 2 os wyt ti’n cael Gwasanaeth Band Eang Alt Ogi, a phan fyddi di wedi dewis cael Gwasanaethau Llais Ogi, y cyfarpar hefyd a enwir yn Atodiad 3, a’r cyfarpar hwnnw’n cael ei roi gennyn ni i ti er mwyn darparu’r Gwasanaethau.
“Cytundeb” – ystyr hyn yw’r telerau a’r amodau hyn, y Ffurflen Archebu, Polisi Defnydd Derbyniol Ogi, a Pholisi Preifatrwydd Ogi o’u cymryd ynghyd, ac os byddan nhw’n groes i’w gilydd, maen nhw i’w dilyn yn ôl y drefn flaenoriaeth uchod.
“Diwrnod Busnes” – ystyr hyn yw 08:00-18:00 o ddydd Llun tan ddydd Gwener heb gynnwys gwyliau cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr.
“Dyddiad Cychwyn” – ystyr hyn yw’r dyddiad y byddwn ni’n derbyn dy Ffurflen Archebu.
“Dyddiad Gweithredol y Gwasanaeth” – ystyr hyn yw’r dyddiad pan fydd Gwasanaeth ar gael am y tro cyntaf i’r Cwsmer ei ddefnyddio.
“Ffurflen Archebu” – ystyr hyn yw’r ffurflen ar gyfer cyflenwi Gwasanaethau gennyn ni, a honno wedi’i llenwi gennyt ti, neu’n unol â ffurflen archebu gennyt ti.
“Gwasanaeth Band Eang Alt Ogi” – ystyr hyn yw gwasanaeth band eang a ddarperir gennyn ni i ti drwy’r rhwydwaith Openreach, fel a ddisgrifir yn Atodiad 2.
“Gwasanaeth Band Eang Ogi” – ystyr hyn yw gwasanaeth band eang a ddarperir gennyn ni i ti gan ddefnyddio ein rhwydwaith ffeibr llawn, fel a ddisgrifir yn Atodiad 1.
“Gwasanaethau Llais Ogi” – ystyr hyn yw darparu gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd gennyn ni i ti, fel a ddisgrifir yn Atodiad 3.
“Gwasanaethau” – ystyr hyn yw Gwasanaethau Band Eang Ogi neu Wasanaethau Band Eang Alt Ogi, a phan fydd hynny’n berthnasol, Gwasanaethau Llais Ogi, fel yr amlinellir ar y Ffurflen Archebu.
“Gwybodaeth Gyfrinachol” – ystyr hyn yw’r holl wybodaeth y byddwn ni neu y byddi di’n ei datgelu i’r parti arall, boed cyn neu ar ôl y Diwrnod Cychwyn, ac y dylai’r derbynnydd ddeall yn rhesymol ei bod yn gyfrinachol, gan gynnwys: (i) yn dy achos di, yr holl wybodaeth a drosglwyddir i’r Gwasanaethau neu o’r Gwasanaethau (gan gynnwys meddalwedd a chyfarwyddiadau), (ii) yn ein hachos ni, prisiau heb eu cyhoeddi a thelerau eraill gwasanaethau, adroddiadau archwilio a diogelwch, cynlluniau datblygu cynnyrch, diagramau datrys, dyluniadau canolfannau data, a gwybodaeth neu dechnoleg arall sy’n ymwneud ag eiddo, a (iii) yn achos y naill barti a’r llall, gwybodaeth sydd wedi’i marcio fel gwybodaeth gyfrinachol, neu sydd wedi’i dynodi’n amlwg mewn modd arall fel gwybodaeth gyfrinachol.
Ni fydd gwybodaeth a ddatblygir yn annibynnol gan y naill barti neu’r llall, heb gyfeiriad at Wybodaeth Gyfrinachol y parti arall, na gwybodaeth a ddaw ar gael i’r naill barti neu’r llall mewn modd nad yw’n groes i’r Cytundeb neu’r gyfraith berthnasol, yn “Wybodaeth Gyfrinachol” i’r parti arall.
“Gwybodaeth y Cwsmer” – ystyr hyn yw data, gwybodaeth, fideos, graffeg, sain, cerddoriaeth, ffotograffau, meddalwedd ac unrhyw ddeunyddiau eraill (ym mha bynnag ffurfiau) a gyhoeddir neu a ddaw ar gael mewn modd arall (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i’r Cwsmer, neu ar ran y Cwsmer, drwy ddefnyddio’r Gwasanaethau.
“Meddalwedd” – ystyr hyn yw unrhyw feddalwedd a ddarperir gennyn ni i dy alluogi i ddefnyddio’r Gwasanaethau.
“y Mynegai Prisiau Defnyddwyr” – ystyr hyn yw cyfradd y mynegai prisiau defnyddwyr, sy’n mesur chwyddiant prisiau defnyddwyr yn unol â safonau rhyngwladol a’r rheoliadau Ewropeaidd.
“Ni” – ystyr hyn yw Ogi a dylai cyfeiriadau at y gair ‘ein’ gael eu deall yn yr un modd.
“Ogi” – ystyr hyn yw unrhyw un neu bob un o’r endidau canlynol:
Spectrum Fibre Limited yn masnachu fel Ogi, wedi’i ymgorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 12883320 a’i swyddfa gofrestredig yn Hodge House, 114-116, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif cofrestru TAW 377 9433 45.
Spectrum Internet Limited yn masnachu fel Ogi, wedi’i ymgorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 07849485 a’i swyddfa gofrestredig yn Hodge House, 114-116, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif cofrestru TAW 126873689.
Ogi Networks Limited yn masnachu fel Ogi, wedi’i ymgorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 03625793 a’i swyddfa gofrestredig yn Hodge House, 114-116, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif cofrestru TAW 713629048.
“Polisi Defnydd Derbyniol” – ystyr hyn polisi defnydd derbyniol Ogi sy’n ymwneud â defnyddio’r Gwasanaethau fel y byddan nhw’n cael eu haddasu o dro i dro.
“Polisi Preifatrwydd Ogi” – ystyr hyn yw polisi preifatrwydd Ogi, sydd ar gael wedi’i addasu o dro i dro.
“Ti” – ystyr hyn yw’r Cwsmer a dylai cyfeiriadau at y gair ‘dy’ gael eu deall yn yr un modd.
“Tymor y Contract” – ystyr hyn yw isafswm hyd y gwasanaeth, sef 12 neu 24 mis, a geir ar y Ffurflen Archebu ac sy’n dechrau ar Ddyddiad Gweithredol y Gwasanaeth.
2. Cychwyn
2.1 Mae’r Cytundeb hwn yn pennu’r telerau a’r amodau cyflenwi cyffredinol y byddwn ni’n eu defnyddio’n sail ar gyfer cyflenwi Gwasanaethau i ti.
2.2 Bydd y Cytundeb hwn yn dod i rym ar y dyddiad y bydd Ogi’n derbyn y Ffurflen Archebu neu ar y dyddiad cyntaf y byddi di’n defnyddio’r Gwasanaethau, pa bynnag un o’r rhain sydd gynharaf, a bydd yn parhau mewn grym oni bai a than y caiff ei derfynu’n unol â’i delerau.
2.3 Rwyt ti’n cadarnhau dy fod wedi dy sefydlu’n gyfreithiol fel busnes, ac wedi dy awdurdodi i ymrwymo i’r Cytundeb hwn ac i gyflawni dy gyfrifoldebau oddi tano. Rwyt ti’n cadarnhau dy fod wedi gosod dy Archeb at ddibenion sy’n gysylltiedig â dy fasnach, dy fusnes neu dy broffesiwn, ac mai trafodyn rhwng busnes a busnes yw hwn.
3. Cyfnod y gwasanaeth
3.1 Ar wahân i lle dynodir hynny’n wahanol ar y Ffurflen Archebu [neu yn y Telerau sy’n Benodol i’r Gwasanaeth], bydd y Gwasanaethau’n cael eu darparu am Dymor y Contract.
3.2 Byddwn ni’n cysylltu â thi o leiaf fis cyn diwedd Tymor y Contract i roi gwybod i ti bod Tymor y Contract ar fin dod i ben. Os na fyddi di’n tanysgrifio i gytundeb newydd gyda ni nac yn terfynu’r Cytundeb, bydd y Gwasanaethau’n parhau i gael eu darparu o dan delerau’r Cytundeb hwn. Byddwn ni wedyn yn cysylltu â thi o leiaf unwaith y flwyddyn i roi gwybod i ti am brisiau gorau Ogi sydd ar gael iti.
4. Ein rhwymedigaethau ni
4.1 Byddwn ni’n darparu’r Gwasanaethau yn unol â’r Disgrifiadau o’r Gwasanaeth perthnasol, y Cytundebau Lefel Gwasanaeth perthnasol, ac unrhyw fanylebau eraill a geir yn ysgrifenedig yn y Cytundeb hwn, gyda’r gofal a’r medr rhesymol y byddid yn ei ddisgwyl yn rhesymol.
4.2 Byddwn ni’n gwneud ymdrech resymol i ddarparu’r Gwasanaethau o fewn yr amserlen a roddwyd i ti. Amcangyfrifon yw’r holl ddyddiadau a byddwn ni’n gwneud ymdrech resymol i dy ddiweddaru ynghylch unrhyw newidiadau i ddyddiad gweithredol disgwyliedig y Gwasanaethau. Nid oes gennyn ni unrhyw rwymedigaeth i gyflawni erbyn unrhyw ddyddiad nac atebolrwydd am unrhyw fethiant i gyflawni erbyn unrhyw ddyddiad, oni bai bod y Ffurflen Archebu’n dynodi’n wahanol.
4.3 Ein nod yw darparu gwasanaeth di-dor ond o dro i dro gall rhywbeth fynd o’i le. Byddwn ni’n gwneud ymdrechion rhesymol i gywiro unrhyw ddiffygion yn unol â’r Disgrifiad o’r Gwasanaeth ac unrhyw Gytundebau Lefel Gwasanaeth perthnasol.
4.4 Byddwn ni’n darparu’r holl Wasanaethau’n unol â’r gyfraith berthnasol.
5. Dy rhwymedigaethau di
5.1 Rhaid i ti gymryd rhagofalon diogelwch rhesymol wrth ddefnyddio’r Gwasanaethau.
5.2 Ni fyddi di ar unrhyw adeg yn ceisio ochrgamu unrhyw elfennau diogelwch yn y system nac yn ceisio cael mynediad heb awdurdod i unrhyw elfen yn y Gwasanaethau.
5.3 Rhaid iti roi unrhyw wybodaeth i ni y bydd arnon ni ei hangen yn rhesymol, heb oedi afresymol, gan gynnwys mewn perthynas ag iechyd a diogelwch a’r amgylchedd, a rhaid i ti gwblhau unrhyw weithgareddau paratoadol y gallwn wneud cais rhesymol i ti’u cwblhau er mwyn dy alluogi i gael y Gwasanaethau.
5.4 Rwyt ti’n gwarantu bod Gwybodaeth y Cwsmer yn gywir, ac y bydd yn parhau’n gywir, ac na fydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth na deunydd lle byddai gweld neu ddefnyddio unrhyw ran o’r rheini yn drosedd neu fel arall yn anghyfreithlon. Yn benodol, rwyt ti’n gwarantu bod yr holl drwyddedau a chydsyniadau angenrheidiol wedi’u sicrhau (yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r rheini sydd gan berchnogion hawlfreintiau neu’r rheini sy’n ymwneud â hawliau perfformio). At hynny, rwyt ti’n cadarnhau bod perchennog neu landlord yr eiddo lle mae’r Gwasanaethau i’w darparu wedi rhoi caniatâd i ni ac i’n partneriaid gosod fynd ati i osod, gweithredu a chynnal a chadw’r Cyfarpar yn yr eiddo hwnnw.
5.5 Rhaid i ti gydymffurfio â’r holl gyfreithiau perthnasol mewn perthynas â chael a defnyddio’r Gwasanaethau. Ni ddylet ddefnyddio’r Gwasanaethau na chaniatáu i’r Gwasanaethau gael eu defnyddio mewn ffordd nad yw’n cydymffurfio â thelerau unrhyw ddeddfwriaeth, cyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddir gan yr awdurdodau rheoleiddiol, neu unrhyw drwydded sy’n berthnasol i ti neu sydd mewn unrhyw ffordd yn anghyfreithlon.
5.6 Byddi di’n cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a gei gennyn ni mewn perthynas â’r Gwasanaethau neu’r Cyfarpar pan fyddwn wedi rhoi’r rheini am resymau iechyd a diogelwch neu i warchod ansawdd y Gwasanaethau a ddarperir i ti neu i unrhyw gwsmer arall.
5.7 Ni chei ailwerthu’r Gwasanaethau i drydydd parti heb ein cymeradwyaeth ysgrifenedig ni ymlaen llaw.
5.8 Byddi di’n cymryd gofal rhesymol o’r Cyfarpar ac yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau i’w gynnal a’i gadw a’i ddefnyddio a geir yn y Disgrifiadau o’r Gwasanaeth neu rai y byddwn ni’n dy hysbysu ohonyn nhw fel arall yn ysgrifenedig. Byddi di’n rhoi ad-daliad i ni am golli neu ddifrodi unrhyw Gyfarpar pan achosir hynny gan dy fethiant i gydymffurfio â gofynion y cymal hwn, sef cymal 5.6, neu’r Disgrifiadau o’r Gwasanaeth perthnasol.
5.9 Rhaid i ti gydweithredu â ni a chydymffurfio ag unrhyw geisiadau rhesymol y byddwn ni’n eu gwneud i’n helpu i ddarparu’r Gwasanaeth i ti.
5.10Yn amodol ar gymal 12.2, ni fyddwn ni’n atebol i ti o gwbl os byddwn ni’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’n rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn os bydd unrhyw fethiant o’r fath yn sgil dy fethiant di i gydymffurfio ag unrhyw rai o dy rwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn, neu yn sgil y ffaith dy fod wedi cydymffurfio â hwy yn hwyr, ac mewn achos o’r fath byddi di’n atebol i ni am unrhyw gostau rhesymol y byddwn ni’n eu hysgwyddo o ganlyniad i dy fethiant.
6. Marerion allforio
6.1 Ni fyddi di’n meddiannu, yn defnyddio, yn mewnforio, yn allforio nac yn ailwerthu (ac ni wnei di ganiatáu i neb feddiannu, defnyddio, mewnforio, allforio nac ailwerthu) y Gwasanaethau nac unrhyw wybodaeth neu ddata technegol a ddarperir gennyn ni o dan y Cytundeb hwn mewn unrhyw fodd a fyddai’n achosi i ni neu i’n Cwmnïau Cyswllt dorri unrhyw gyfreithiau, rheolau neu reoliadau rheoli allforio perthnasol sy’n rhan o gyfraith y Deyrnas Unedig. Heb gyfyngiadau, rwyt ti’n gwarantu ac yn ymrwymo na fyddi di’n defnyddio’r Gwasanaethau i ddatblygu, dylunio, gweithgynhyrchu, cynhyrchu, storio na defnyddio arfau niwclear, arfau cemegol nac arfau biolegol, arfau distryw mawr, na thaflegrau; ac na fydd yn defnyddio’r Gwasanaethau at ddibenion gamblo anghyfreithlon, terfysgaeth, masnachu cyffuriau neu arfau; ac ni fyddi di chwaith yn darparu mynediad gweinyddol i’r Gwasanaethau nac yn caniatáu i unrhyw bersonau (gan gynnwys unrhyw berson naturiol, llywodraeth, neu endid preifat neu ffurf arall o gorff corfforedig) ddefnyddio’r Gwasanaethau pan fo’r personau hynny wedi’u lleoli mewn gwlad neu’n wladolion gwlad sy’n destun embargo neu gyfyngiadau sylweddol o dan gyfreithiau, rheolau neu reoliadau allforio’r Deyrnas Unedig.
7. Newidiadau i’r cytundeb hwn ac i’r gwasanaethau
7.1 O ran Cynhyrchion Band Eang, gallwn ni addasu’r swm rwyt ti’n ei dalu bob mis am dy gynllun yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr +3.9%. Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y costau i gynnal a buddsoddi yn y rhwydwaith a’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu. Caiff cyfradd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ei chyhoeddi ym mis Ionawr bob blwyddyn ac rydyn ni’n cadw’r hawl i addasu dy daliadau yn unol â’r swm hwn (y Mynegai Prisiau Defnyddwyr +3.9%) o 1 Ebrill yn yr un flwyddyn.
7.2 Gallwn ni gynyddu’r swm sy’n daladwy gennyt ti am unrhyw Wasanaethau drwy roi 30 niwrnod o rybudd yn ysgrifenedig i ti, gyda chyfnod rhybudd o’r fath i ddod i ben pan ddaw Tymor y Contract i ben neu ar ôl iddo ddod i ben. Os byddi di’n gwrthwynebu i gynnydd o’r fath, mae gennyt hawl i derfynu’r Cytundeb hwn yn unol â chymal 11.5. Os byddi di’n rhoi gwybod i ni yn ysgrifenedig dy fod yn terfynu’r Cytundeb cyn i’r cyfnod 30 niwrnod o rybudd rydyn ni wedi’i roi i ti ddod i ben, ni fyddwn yn cynyddu’r swm sy’n daladwy cyn terfynu’r Cytundeb.
7.3 Ni fyddwn yn cynyddu’r taliadau yn ystod Cyfnod Isafswm Hyd y Gwasanaeth oni bai:
(a) ein bod yn gallu dangos yn rhesymol bod y gost o ddarparu’r Gwasanaethau wedi codi oherwydd newid gan gyflenwr trydydd parti. Ni fydd unrhyw gynnydd o’r fath yn y taliadau yn fwy na’r cynnydd yn y gost y bydd yn rhaid i ni ei thalu wrth ddarparu’r Gwasanaeth. Byddwn ni’n rhoi rhybudd o 30 niwrnod o newid o’r fath; neu
(b)bod y gost o ddarparu’r gwasanaeth yn cynyddu i gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth, penderfyniad neu gais cyfreithiol neu reoleiddiol. Byddwn ni’n rhoi rhybudd o 30 niwrnod o unrhyw newid o’r fath, ac eithrio pan fydd cydymffurfio â’r rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol honno yn gofyn am gyfnod rhybudd byrrach neu ddim rhybudd.
7.4 Os byddwn ni’n rhoi rhybudd i ti o newid yn unol â chymal 7.3, a thithau’n gwrthwynebu’r newid hwnnw, o fewn 30 niwrnod i ddyddiad ein rhybudd, galli roi rhybudd ysgrifenedig o 30 niwrnod i ni i derfynu’r Cytundeb hwn. Ni fyddwn yn cynyddu’r taliadau rwyt ti’n eu talu yn ystod unrhyw gyfnod rhybudd o fath. Os na fyddi’n gwrthwynebu’r newid yn ysgrifenedig o fewn 30 niwrnod i ddyddiad ein rhybudd, bernir dy fod wedi derbyn y newid a bydd y taliadau uwch yn berthnasol o ddiwedd cyfnod y rhybudd.
7.5 Rydyn ni’n cadw’r hawl i addasu telerau ac amodau’r Cytundeb hwn. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn ni’n rhoi gwybod i ti ymlaen llaw cyn i’r newidiadau i’r telerau a’r amodau ddod i rym. Gallwn wneud newidiadau am y rhesymau canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain:
(a) cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth, penderfyniad neu gais cyfreithiol neu reoleiddiol;
(b) newid yr amodau sy’n ymwneud â Gwasanaeth er mwyn adlewyrchu newidiadau i gontractau a orfodir arnon ni gan ein Cyflenwyr;
(c) cyflwyno cynhyrchion newydd, nodweddion Gwasanaeth gwell, amrywiadau sy’n angenrheidiol o ganlyniad i unrhyw gyfraith neu reoliad newydd neu sy’n ofynnol gan unrhyw reoleiddiwr neu awdurdod cymwys arall;
(d) cyflwyno newidiadau i brosesau (gan gynnwys newidiadau i’r Polisi Defnydd Derbyniol), a bwrw nad yw hynny’n dy roi dan anfantais;
(e) cynnal cyfanrwydd neu ddiogelwch y Gwasanaeth neu unrhyw rwydwaith;
(f) gwella eglurder, neu gywiro camgymeriadau argraffu;
(g) newid y prosesau a’r gweithdrefnau a bennir mewn unrhyw Ddisgrifiad o’r Gwasanaeth.
7.6 Rydyn ni’n cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r Gwasanaethau cyn belled nad yw hynny’n effeithio’n niweidiol o ran sylwedd ar berfformiad y Gwasanaeth. Gall y rhesymau dros y newidiadau i’r Gwasanaethau gynnwys y canlynol (ond ni fyddan nhw’n gyfyngedig i’r rheini):
(a) cyflwyno nodweddion i’r Gwasanaeth neu gael gwared ar nodweddion neu
(b) disodli’r Gwasanaeth â Gwasanaeth sy’n gyfatebol o ran sylwedd.
7.7 Byddwn ni’n ceisio rhoi rhybudd i ti ynghylch unrhyw newid o leiaf 30 niwrnod cyn iddo ddigwydd, ac eithrio lle bydd cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol yn golygu bod angen cyfnod byrrach o rybudd neu ddim rhybudd.
7.8 Yn achos newidiadau i’r Cytundeb hwn a wneir o dan gymal 7.5 neu 7.6, ni fydd newidiadau o’r fath yn golygu bod angen i ti a ni lofnodi Cytundeb newydd, a bydd y newidiadau’n dod i rym pan ddaw unrhyw rybudd a ddarperir o dan gymal 7.7 i ben, neu ar unwaith os na rhoddir rhybudd.
7.9 O dro i dro gallwn roi cynigion i ti ar gyfer gwasanaethau profi a threialu a/neu gynigion hyrwyddo (“Cynigion”). Gall telerau ac amodau penodol fod yn gysylltiedig â Chynigion o’r fath (“Telerau ac Amodau Hyrwyddo”). Gall fod angen amrywio’r Cytundeb hwn o dan Delerau ac Amodau Hyrwyddo ac mewn achos o’r fath ystyrir dy fod wedi derbyn amrywiad o’r fath wrth dderbyn y Cynnig. Oni bai y datgenir hynny’n wahanol yn y Telerau ac Amodau Hyrwyddo, gallwn ni ddiwygio neu dynnu unrhyw gynnig yn ôl ar unrhyw adeg a heb rybudd. I osgoi amheuaeth, nid oes rhwymedigaeth arnon ni i dy gynnwys di mewn unrhyw Gynnig a wneir i gwsmeriaid eraill. Oni bai y caniateir hynny’n benodol o dan delerau cynnig hyrwyddo penodol, nid yw cwsmeriaid presennol a chyn-gwsmeriaid, o dan yr un enwau neu enwau gwahanol, yn gymwys ar gyfer unrhyw gynnig hyrwyddo sy’n benodol ar gyfer cwsmeriaid newydd.
8. Taliadau a bilio
8.1 Ac eithrio lle pennir hynny’n wahanol yn y Cytundeb hwn, bydd pob taliad a swm arall sy’n ddyledus gennyt mewn perthynas â’r Gwasanaethau wedi’u nodi ar y Ffurflen Archebu a/neu’r Canllaw Prisiau a/neu’r anfoneb sy’n berthnasol i Wasanaethau o’r fath. Byddwn ni’n dy filio, a byddi di’n dy dalu, mewn punnoedd sterling. Bydd Treth ar Werth yn cael ei hychwanegu at ein hanfonebau fel sy’n briodol.
8.2 Bydd y cyfnod codi tâl yn dechrau ar Ddyddiad Gweithredol y Gwasanaeth neu fel y pennir fel arall ar y Ffurflen Archebu neu’r Disgrifiad o’r Gwasanaeth.
8.3 Bydd dy fil yn cael ei anfon i dy gyfeiriad e-bost (oni bai dy fod wedi gofyn am fil papur am gost ychwanegol) naill ai ar sail fisol, chwarterol neu flynyddol (y Cyfnod Bilio) fel y nodir ar y Ffurflen Archebu, y Canllaw Prisiau neu’r anfoneb. Bydd pob bil ar gyfer un Cyfnod Bilio, ar wahân i dy fil cyntaf, a fydd ar gyfer y cyfnod o’r dyddiad pan fydd y gwasanaeth yn dechrau tan ddiwedd y Cyfnod Bilio cyntaf.
8.4 Rhaid i ti dalu’r taliadau (heb ddim wedi’i osod yn eu herbyn na didyniad o unrhyw fath) a nodir ym mhob bil o fewn 30 niwrnod i ddyddiad y bil. Pan na wneir taliad yn unol â’r telerau hyn, gallwn godi llog dyddiol am unrhyw symiau sydd heb eu talu, wedi’i gyfrifo ar gyfradd o 8% ar ben cyfradd sylfaenol Banc Lloegr o dro i dro ar gyfer trafodion rhwng busnesau.
8.5 Pa na fyddi di’n cytuno â rhywbeth mewn anfoneb y byddwn ni’n ei hanfon atat, rhaid i ti roi gwybod i ni’n ysgrifenedig o fewn 30 niwrnod i ddyddiad yr anfoneb. Rhaid i ti dalu unrhyw gyfran o anfoneb nad oes anghydfod yn ei chylch yn unol â chymal 8.4. Ar ôl setlo unrhyw anghydfod o’r fath, byddi di’n talu unrhyw swm y byddi di a ni’n cytuno sy’n ddyledus o fewn saith niwrnod i setliad o’r fath.
9. Cansol
9.1 Galli di ganslo’r Gwasanaethau unrhyw adeg cyn Dyddiad Gweithredol y Gwasanaeth. Os byddi di’n canslo’r Gwasanaethau cyn Dyddiad Gweithredol y Gwasanaeth, rhaid i ti ein talu am unrhyw waith a wnaed neu unrhyw arian a wariwyd yn paratoi i ddarparu’r Gwasanaethau. Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i sicrhau bod costau o’r fath mor isel â phosibl.
10. Atal y gwasanaethau
10.1 Gallwn atal y Gwasanaethau heb atebolrwydd i ti yn y sefyllfaoedd hyn:
(a) os byddwn ni’n credu’n rhesymol bod y Gwasanaethau’n cael eu defnyddio’n groes i’r Cytundeb hwn;
(b) os na fyddi di’n cydymffurfio ag ymchwiliad rhesymol gennyn ni i achos posibl o dorri’r Cytundeb hwn;
(c) os bydd ymosodiad ar y Gwasanaethau, neu os bydd trydydd parti yn defnyddio neu’n trin y Gwasanaethau heb dy gydsyniad di;
(d) os na fyddwn yn cael taliadau gennyt ti’n unol â’r Cytundeb hwn;
(e) os bydd gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol neu ofyniad gan gorff llywodraethu arnon ni i atal y Gwasanaethau;
(f) os byddi’n gweithredu’n groes i’n Polisi Defnydd Derbyniol; neu
(g) os bydd digwyddiad arall y credwn yn rhesymol bod atal y Gwasanaethau yn angenrheidiol i ddiogelu rhwydwaith Ogi neu ein cwsmeriaid eraill.
10.2 Byddwn ni’n rhoi rhybudd ymlaen llaw o unrhyw gamau i atal y Gwasanaethau o dan y cymal hwn, sef rhybudd fan lleiaf o ddeuddeg (12) Diwrnod Busnes oni bai ein bod yn penderfynu yn ein barn fasnachol resymol bod angen atal y Gwasanaethau gyda rhybudd byrrach neu rybudd yn y fan a’r lle i ddiogelu ein systemau neu ein cwsmeriaid eraill rhag risg weithredol, risg gyfreithiol neu risg ddiogelwch sy’n sylweddol ac ar fin digwydd.
10.3 Yn ystod unrhyw gyfnod lle caiff y Gwasanaethau eu hatal, byddi di’n cytuno i barhau i dalu ac i fod yn atebol am yr holl daliadau yn unol â’r Cytundeb hwn. Dim ond drwy roi rhybudd i derfynu yn unol â thelerau’r Cytundeb hwn a thrwy dalu unrhyw ffioedd terfynu perthnasol y gellir osgoi unrhyw daliadau o’r fath pan fydd y Gwasanaethau wedi’u hatal.
10.4 Os byddwn ni’n atal y Gwasanaethau oherwydd dy fod wedi gweithredu’n groes i’r Polisi Defnydd Derbyniol, oherwydd nad yw taliad wedi dod i law, neu oherwydd bod y Gwasanaethau wedi’u peryglu yn sgil y modd rwyt ti wedi defnyddio’r Gwasanaeth, rydyn ni’n cadw’r hawl i godi tâl ailgysylltu yn unol â’n Canllaw Prisiau a rhaid talu hwn yn llawn cyn i’r Gwasanaethau gael eu hadfer. Mae swm taliadau o’r fath yn amrywio yn dibynnu ar y Gwasanaeth a lle bydd hynny’n bosibl byddwn ni’n eu darparu i ti ymlaen llaw cyn mynd ati i atal Gwasanaethau.
10.5 Os byddwn ni’n atal y Gwasanaethau gan fod y Gwasanaethau wedi’u peryglu o ganlyniad i systemau sy’n eiddo i ti neu’n cael eu rheoli gennyt ti, neu o ganlyniad i dy ddefnydd o’r Gwasanaethau, rhaid i ti gael gwared ar y perygl hwn cyn i ni roi’r gorau i gymryd unrhyw gamau atal o’r fath. Ar dy gais di, efallai y gallwn gyflawni’r gwaith hwn ar dy ran, gan godi ein cyfraddau safonol fesul awr.
11. Terfynu
11.1 Pan fydd wedi dechrau, bydd y Cytundeb yn parhau tan y bydd yn cael ei derfynu gennyt ti neu gennyn ni yn unol â’i dermau.
11.2 Galli derfynu’r Cytundeb hwn am achos o weithredu’n groes iddo gennyn ni os byddwn;
(a) methu’n sylweddol â darparu’r Gwasanaethau fel y cytunwyd ac os nad yw’n datrys y methiant hwnnw o fewn deg (10) niwrnod gwaith i dderbyn rhybudd ysgrifenedig gennyt yn disgrifio’r methiant;
(b) yn methu’n sylweddol â bodloni unrhyw rwymedigaeth arall sydd wedi’i datgan yn y cytundeb ac os nad yw’n datrys y methiant hwnnw o fewn deg niwrnod gwaith ar hugain (30) i dderbyn rhybudd ysgrifenedig gennyt yn disgrifio’r methiant;
11.3 Gallwn derfynu’r Cytundeb am weithredu’n groes iddo yn y sefyllfaoedd hyn:
(a) os bydd y wybodaeth a ddarperir gennyt at ddibenion sefydlu’r Gwasanaethau yn sylweddol anghywir neu anghyflawn;
(b) os nad oedd gan yr unigolyn a lofnododd y Cytundeb neu’r Ffurflen Archebu yr awdurdod cyfreithiol i ymrwymo i’r Cytundeb ar dy ran;
(c) os bydd y taliad am unrhyw swm yr anfonebwyd amdano sy’n ymwneud â’r Gwasanaethau yn hwyr ac nad wyt ti’n talu’r swm dyledus o fewn pedwar (4) Diwrnod Busnes i rybudd ysgrifenedig gennyn ni i ti;
(d) os na fyddi di’n cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth arall a ddatgenir yn y Cytundeb ac os nad wyt ti’n gwneud iawn am y methiant hwn o fewn deg niwrnod ar hugain (30) i gael rhybudd ysgrifenedig gennyn ni’n disgrifio’r methiant hwnnw;
(e) os byddi di’n gweithredu’n groes i adran 6.0 o’r telerau hyn mewn perthynas â materion allforio neu’n gweithredu’n groes i unrhyw adran o’r Polisi Defnydd Derbyniol mewn perthynas â rheoli allforio;
(f) gydag eithriad unrhyw ddarpariaethau sy’n ymwneud â rheoli allforio, os byddi di’n gweithredu’n groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Polisi Defnydd Derbyniol fwy nag unwaith hyd yn oed os gwneir iawn am hynny; neu
(g) os bydd unrhyw gytundeb arall sydd gennyt ti â ni am wasanaethau eraill yn cael ei derfynu am weithredu’n groes i’r polisi defnydd derbyniol sy’n berthnasol i’r gwasanaeth hwnnw.
11.4 Gall y naill barti neu’r llall derfynu’r Cytundeb hwn yn y fan a’r lle drwy roi rhybudd ysgrifenedig os na fydd y parti arall (neu os credir yn rhesymol nad yw’r parti arall) yn gallu talu ei ddyledion neu os bydd yn cael ei ddiddymu’n orfodol neu’n wirfoddol neu os bydd yn cyfamodi neu’n gweithredu’n groes i gyfarfod o’i gredydwyr neu os penodir derbynnydd neu reolwr neu weinyddwr (neu os gwneir cais i’r llys i wneud hynny) neu os bydd am unrhyw reswm yn rhoi’r gorau i gynnal ei fusnes neu’n cymryd camau tebyg neu’n dioddef o gamau tebyg sy’n golygu y gall fod mewn sefyllfa lle na all dalu ei ddyledion.
11.5 Galli di neu fe allwn ni derfynu’r Cytundeb drwy roi 30 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i’r parti arall. Os byddi di am derfynu’r Gwasanaethau, anfona e-bost i sales@ogi.wales neu ysgrifenna aton ni i Ogi, Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY.
11.6 Os byddi di’n terfynu’r Cytundeb o dan gymal 11.5 yn ystod Tymor y Contract, rhaid i ti dalu taliad terfynu i ni sy’n cyfateb i 100% o’r taliadau a fyddai wedi bod yn daladwy yn ystod gweddill Tymor y Contract.
11.7 Os bydd Digwyddiad Force Majeure yn golygu nad yw’r Gwasanaethau ar gael yn llwyr ac yn barhaus am gyfnod o fwy na 30 niwrnod, gall y naill na’r llall ohonon ni derfynu’r Cytundeb hwn yn y fan a’r lle drwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r llall. Ni fydd terfynu yn sgil Digwyddiad Force Majeure yn effeithio ar dy rwymedigaeth i dalu unrhyw daliadau a fydd yn cronni ar ddyddiad y terfynu.
11.8 Rhaid i ti ddychwelyd i ni unrhyw gyfarpar sy’n eiddo i ni pan derfynir y Cytundeb hwn am unrhyw reswm.
12. Cyfyngiadau ar atebolrwydd
12.1 Nid ydyn ni’n atebol o dan gontract, cyfraith camweddau (gan gynnwys esgeulustod) nac fel arall am golledion, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol mewn perthynas â busnes, am refeniw neu elw, am arbedion disgwyliedig neu wariant a wastraffwyd, am golled, am lygru neu ddinistrio data, am niweidio enw da, nac am unrhyw golledion anuniongyrchol neu ganlyniadol sy’n deillio o dy ddefnydd o’r Gwasanaethau neu o dy anallu i ddefnyddio’r Gwasanaethau.
12.2 Ni fydd dim yn y Cytundeb hwn yn eithrio dy atebolrwydd di na’n hatebolrwydd ni am:
(a) anaf personol neu farwolaeth a achosir gan esgeulustod; neu
(b) unrhyw dwyll neu gamliwio twyllodrus.
12.3 Y credydau gwasanaeth a ddatgenir mewn unrhyw Gytundeb Lefel Gwasanaeth yw’r unig rwymedi ar gyfer ein methiant i fodloni’r gwarantau hynny y mae’r credydau gwasanaeth yn berthnasol iddyn nhw.
12.4 Rwyt ti’n cydnabod nad yw unrhyw Wasanaethau y byddwn ni’n eu cyflenwi wedi’u dylunio, eu gweithgynhyrchu, eu hawdurdodi na’u gwarantu i fod yn addas mewn unrhyw system lle gallai methiant system o’r fath arwain at sefyllfa sy’n bygwth diogelwch bywydau pobl, gan gynnwys heb gyfyngiadau unrhyw raglenni yn y meysydd meddygol, cynnal bywyd, hedfanaeth neu niwclear. Ti sy’n llwyr gyfrifol am unrhyw ddefnydd ac atebolrwydd dilynol sy’n deillio o ddefnydd o’r fath, ac mae pob atebolrwydd ar ein rhan ni, boed o dan gontract, cyfraith camweddau neu fel arall mewn perthynas â hynny, wedi’i eithrio, yn amodol ar Gymal 12.2.
12.5 O dro i dro gallwn argymell meddalwedd trydydd parti neu gynhyrchion a gwasanaethau eraill i ti eu hystyried. Nid ydyn ni’n cyflwyno unrhyw achos nac yn gwneud gwarantau o unrhyw fath ynghylch y cynhyrchion a’r gwasanaethau hynny. Os byddi di’n defnyddio unrhyw gynhyrchion a gwasanaethau na ddarperir gennyn ni, bydd telerau unrhyw gytundeb gyda darparwr y cynhyrchion a’r gwasanaethau hyn yn llywodraethu hynny, a dy risg di yn llwyr yw hyn. Nid ydyn ni’n gyfrifol mewn unrhyw ffordd am berfformiad, nodweddion neu fethiannau cynnyrch y trydydd parti.
13. Indemniad
13.1 Byddwn ni’n dy indemnio yn erbyn hawliadau neu achosion cyfreithiol a gaiff eu dwyn yn dy erbyn gan drydydd parti, sy’n deillio o esgeulustod neu dor-cyfraith gwirioneddol neu honedig neu ar ein rhan ni. Byddi di’n rhoi rhybudd i ni ynghylch unrhyw hawliadau o’r fath ac yn rhoi gwybod i ni am ddatblygiad unrhyw hawliadau neu achosion o’r fath.
13.2 Mae ein hatebolrwydd o dan yr indemniad hwn yn amodol ar dy fod yn cyflawni’r rhwymedigaethau canlynol:
13.2.1 Os bydd unrhyw drydydd parti yn gwneud hawliad, neu’n rhoi gwybod o’i fwriad i wneud hawliad, yn dy erbyn ac y gellid yn rhesymol ystyried y byddai hynny’n debygol o arwain at atebolrwydd o dan yr indemniad hwn (Hawliad), byddi di’n gwneud y canlynol:
(a) cyn gynted ag y mae hynny’n rhesymol ymarferol, rhoi rhybudd ysgrifenedig i ni ynghylch yr Hawliad, gan roi manylion rhesymol am yr Hawliad;
(b) peidio â derbyn unrhyw atebolrwydd na gwneud unrhyw gytundeb na chyfaddawd mewn perthynas â’r Hawliad heb ein cydsyniad ysgrifenedig ni ymlaen llaw (ni fydd unrhyw amodau afresymol yn berthnasol i gydsyniad o’r fath, ni fydd yn cael ei ddal yn ôl yn afresymol, ac ni fydd oedi afresymol wrth ei roi);
(c) rhoi i ni a’n cynghorwyr proffesiynol fynediad ar adegau rhesymol i unrhyw asedau, cyfrifon, dogfennau a chofnodion perthnasol sydd o fewn dy reolaeth neu dy rym, er mwyn i ni a’n cynghorwyr proffesiynol eu harchwilio a gwneud copïau (byddwn ni’n talu’r gost) at ddibenion asesu’r Hawliad;
(d) cymryd unrhyw gamau y gallwn wneud cais rhesymol i ti eu cymryd er mwyn osgoi’r Hawliad, dadlau yn ei erbyn, neu ei amddiffyn.
13.1 Byddi di’n ein hindemnio, gan gynnwys ein gweithwyr, ein hasiantau a’n contractwyr, yn erbyn unrhyw hawliadau neu achosion cyfreithiol a gaiff eu dwyn yn ein herbyn ni gan drydydd parti, sy’n deillio o esgeulustod, tor-cyfraith, neu achos o weithredu’n groes i’r Polisi Defnydd Derbyniol, yn wirioneddol neu’n honedig, ar dy ran di. Byddwn ni’n rhoi rhybudd i ti ynghylch unrhyw hawliadau o’r fath ac yn rhoi gwybod i ti am ddatblygiad unrhyw hawliadau neu achosion o’r fath.
14. Eiddo deallusol
14.1 Rwyt ti’n cytuno y bydd yr holl gyfreithiau perthnasol yn cael eu dilyn wrth i ti gymryd unrhyw gamau (neu os bydd camau’n cael eu cymryd ar dy ran) i gopïo, ailddosbarthu neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd neu wybodaeth sy’n ddarostyngedig i unrhyw hawliau trydydd parti (gan gynnwys hawliau eiddo deallusol).
14.2 Os byddwn ni neu unrhyw rai o’n cwsmeriaid yn wynebu hawliad credadwy bod y Gwasanaethau’n tresmasu ar eiddo deallusol trydydd parti, ac nad oes modd i ni’n rhesymol gael gafael ar yr hawl i ddefnyddio’r elfen sy’n tresmasu neu addasu’r Gwasanaethau fel nad ydyn nhw’n tresmasu, yna gallwn derfynu’r Gwasanaethau drwy roi rhybudd rhesymol o naw deg (90) niwrnod fan lleiaf ac ni fydd gennyn ni unrhyw atebolrwydd wrth derfynu’r Gwasanaethau yn y fath fodd ac eithrio atebolrwydd i roi ad-daliad am y Gwasanaethau na ddefnyddiwyd pan fyddan nhw’n cael eu terfynu.
14.3 Byddi di a byddwn ni’n cadw pob hawl, teitl a buddiant mewn cyfrinachau masnachol, dyfeisiau, hawlfreintiau ac eiddo deallusol eraill, ac mewn perthynas â’r rheini. Bydd unrhyw eiddo deallusol a ddatblygir gennyn ni wrth i’r Gwasanaethau gael eu rhoi yn eiddo i ni, oni bai ein bod wedi cytuno â thi ymlaen llaw yn ysgrifenedig y bydd gennyt fuddiant yn yr eiddo deallusol.
15. Gwybodaeth gyfrinachol
15.1 Yn amodol ar gymal 15.2, byddi di a byddwn ni’n cadw’n gyfrinachol unrhyw Wybodaeth Gyfrinachol (boed yn ysgrifenedig neu ar lafar) a geir gan y llall o dan y Cytundeb hwn neu mewn perthynas â’r Cytundeb hwn ac ni fydd y naill na’r llall yn datgelu’r Wybodaeth Gyfrinachol honno i unrhyw berson (yn ein achos ni, nid yw hyn yn cynnwys gweithwyr Cwmnïau Grŵp Spectrum Fibre y mae angen iddyn nhw gael y wybodaeth) heb gydsyniad ysgrifenedig y parti arall.
15.2 Ni fydd cymal 15.1 yn berthnasol i’r canlynol:
(a) unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi a hynny heb dorri’r Cytundeb hwn;
(b) gwybodaeth a fu’n gyfreithlon ym meddiant y derbynnydd cyn iddi gael ei datgelu o dan y Cytundeb hwn;
(c) gwybodaeth a gafwyd gan drydydd parti y mae ganddo hawl i’w datgelu;
(d) gwybodaeth y mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i barti ei datgelu. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd y parti sy’n datgelu yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r llall o unrhyw ddatgeliad o’r fath.
(e) gwybodaeth sy’n ymateb i orchymyn llys neu broses gyfreithiol orfodol arall, a bwrw bod y naill a’r llall ohonon ni’n cytuno i roi rhybudd ysgrifenedig o saith niwrnod fan lleiaf cyn datgelu gwybodaeth gyfrinachol o dan y cymal hwn (neu rybudd prydlon cyn datgelu os nad yw rhybudd o saith niwrnod yn rhesymol bosibl), oni bai bod y gyfraith yn gwahardd rhoi’r fath rybudd. Pan fydd gwybodaeth wedi’i datgelu heb roi rhybudd ymlaen llaw, rhaid i’r parti sy’n datgelu roi gwybod i’r parti arall cyn gynted ag sy’n bosibl wedi hynny (i’r graddau y caniateir hynny gan y gyfraith).
16. Materion y tu hwnt i’n rheolaeth resymol
16.1 Ni fyddi di ac ni fyddwn ni’n torri’r Cytundeb os bydd unrhyw fethiant i gyflawni rhwymedigaeth yn deillio o ddigwyddiad sydd y tu hwnt i reolaeth y parti dan sylw, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, methiant sylweddol ar ran y grid pŵer, methiant sylweddol y rhyngrwyd, digwyddiadau seiberddiogelwch, trychineb naturiol, rhyfel, terfysg, gwrthryfel, epidemig, streiciau neu weithredu diwydiannol arall a drefnwyd, terfysgaeth, neu ddigwyddiadau eraill o faint neu o fath nad yw’r diwydiant yn gyffredinol yn cymryd rhagofalon mewn perthynas â nhw (“Digwyddiad Force Majeure”).
16.2 Os bydd Digwyddiad Force Majeure, bydd y parti y mae’r Digwyddiad Force Majeure yn effeithio arno yn gwneud y canlynol:
(a) cymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i ateb ar gyfer perfformio’r Cytundeb er gwaethaf parhad y Digwyddiad Force Majeure;
(b) rhoi gwybod i’r parti arall cyn gynted ag y gall yn rhesymol am natur a maint y Digwyddiad Force Majeure sy’n effeithio ar y Gwasanaeth a’r camau rhesymol sy’n cael eu cymryd i ddod o hyd i ateb ar gyfer perfformio’r Cytundeb er gwaethaf parhad y Digwyddiad Force Majeure;
(c) peidio â bod yn atebol am fethu â gwneud rhywbeth y dylai fod wedi’i wneud, neu am beidio â’i wneud yn llwyr neu ar amser i’r graddau y mae’r Digwyddiad Force Majeure yn achosi hynny; a
(d) cael amser rhesymol ychwanegol i berfformio’r rhwymedigaeth y mae’r Digwyddiad Force Majeure yn effeithio arni.
16.3 Nid oes dim yn y cymal hwn, sef Cymal 16, sy’n effeithio ar dy rwymedigaeth i dalu unrhyw symiau i ni sy’n ddyledus o dan y Cytundeb ar amser ac yn unol â Chymal 8.
17. Rhybuddion
17.1 Rhaid i rybuddion a ddarperir o dan y Cytundeb hwn fod yn ysgrifenedig, yn Gymraeg neu’n Saesneg, a rhaid eu danfon â llaw, neu drwy wasanaeth cludo, neu eu hanfon drwy bost y talwyd amdano ymlaen llaw neu bost electronig fel a ganlyn:
(a) aton ni i’r cyfeiriad a ddangosir ar dy fil diwethaf neu i unrhyw gyfeiriad gwahanol y byddwn ni’n dy hysbysu yn ei gylch;
(b) atat ti i’r cyfeiriad y gwnest ofyn i ni anfon biliau iddo, neu i gyfeiriad dy eiddo.
17.2 Bernir bod y derbynnydd wedi cael rhybudd ar y dyddiad (neu os nad yw’r diwrnod yn Ddiwrnod Busnes, yna ar y Diwrnod Busnes nesaf):
(a) y caiff y rhybudd ei drosglwyddo, os yw’n e-bost;
(b) y caiff ei adael yn y cyfeiriad neu y bydd rhywun yn llofnodi amdano ar ran y sawl y cyfeiriwyd y rhybudd ato, os yw’n cael ei ddanfon â llaw neu drwy wasanaeth cludo; neu
(c) sydd dri diwrnod ar ôl ei bostio, os yw’r rhybudd yn cael ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf neu gludiant sydd wedi’i gofnodi.
18. Aseinio
18.1 Ni chei di ac ni chawn ni aseinio na throsglwyddo unrhyw rai o’n hawliau na’n rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn heb gydsyniad ysgrifenedig y parti arall, ac eithrio y gallwn aseinio ein hawliau neu’n rhwymedigaethau (neu ein hawliau a’n rhwymedigaethau ill dau) i un o Gwmnïau Grŵp Spectrum Fibre heb dy gydsyniad di.
18.2 Gallwn ddefnyddio darparwyr gwasanaethau trydydd parti i roi’r holl Wasanaethau neu rannau ohonyn nhw, ond rydyn ni’n parhau’n atebol i ti o dan y Cytundeb hwn am Wasanaethau a roddir gan ein darparwyr trydydd parti i’r un graddau â phe baen ni wedi rhoi’r gwasanaethau hynny ein hunain.
19. Cyffredinol
19.1 Ni fydd methiant neu oedi gennyt ti neu gennyn ni wrth arfer unrhyw hawliau o dan y Cytundeb hwn yn gyfystyr ag ildio unrhyw hawl o’r fath, nac yn gweithredu fel modd o rwystro arfer neu orfodi unrhyw hawl o’r fath unrhyw bryd yn y dyfodol.
19.2 Os pennir gan lys sydd ag awdurdodaeth gymwys bod unrhyw ddarpariaeth yn y Cytundeb hwn yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy am unrhyw reswm, caiff y ddarpariaeth honno’i thorri ymaith a bydd gweddill y darpariaethau’n parhau mewn grym llawn ac yn cael effaith lawn fel pe bai’r Cytundeb hwn wedi’i gyflawni gyda’r ddarpariaeth annilys, anghyfreithlon neu anorfodadwy wedi’i hepgor.
19.3 Ni fydd gan berson nad yw’n barti i’r Cytundeb hwn unrhyw hawliau o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i orfodi unrhyw un o’i delerau, hyd yn oed pan ymddengys bod un o’r telerau yn rhoi budd penodol i’r parti.
19.4 Nid oes dim yn y Cytundeb hwn a fydd yn sefydlu unrhyw bartneriaeth, trefniant arbennig na menter ar y cyd rhyngon ni; yn gwneud un ohonon ni’n asiant i’r llall; nac yn awdurdodi’r naill neu’r llall ohonon ni i wneud unrhyw ymrwymiadau ar gyfer neu ar ran y llall.
19.5 Mae’r Cytundeb hwn yn pennu’r holl gytundeb rhyngon ni o ran y pwnc sydd dan sylw ac mae’n disodli unrhyw gyfathrebiadau neu gytundebau blaenorol rhyngon ni. Nid yw dy delerau safonol di’n ffurfio unrhyw ran o’r Cytundeb, hyd yn oed os gwnest ti eu darparu nhw i ni cyn llofnodi’r Cytundeb, neu os byddi di’n eu hanfon aton ni neu’n cyfeirio atyn nhw mewn Archeb.
19.6 Mae’r naill a’r llall ohonon ni’n cydnabod nad yw wedi dibynnu ar unrhyw gynrychiolaeth, gwarant, contract cyfochrog na sicrwydd arall (a wnaed yn esgeulus neu’n ddiniwed) ac eithrio’r rhai yn y Cytundeb hwn. Mae’r naill a’r llall ohonon ni hefyd yn ildio’r holl hawliau a’r holl rwymedïau cyfreithiol a allai fod gennyn ni heblaw am hyn.
19.7 Gellir llofnodi’r Cytundeb hwn ar un copi neu ragor. Bydd un wrthran, neu gyfres o wrthrannau, a lofnodir, yn y naill achos neu’r llall, gan y naill a’r llall ohonon ni yn ffurfio fersiwn wreiddiol lawn o’r Cytundeb hwn at bob diben.
20. Y gyfraith ac awdurdodaeth
20.1 Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn llywodraethu’r Cytundeb hwn ac rwyt ti ac rydyn ni’n ymostwng i awdurdodaeth neilltuedig Llysoedd Cymru a Lloegr.
Dogfennau pwysig
Lawrlwytha gopi o’r telerau ac amodau llawn. Sylwch fod y dogfennau hyn ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth busnes yn unig. I weld fersiynau cyfredol ac archif o’n dogfennau ar gyfer cwsmeriaid cartref, cer i’n tudalennau telerau ac amodau cwsmeriaid cartref.