Pam Gwasanaeth Llais Ogi Pro?
Sgwrsio yw hanfod busnes da. Os oes angen un llinell arnat ti, neu ganolfan alwadau o’r iawn ryw, dyma system ffôn hyblyg a fydd yn galluogi ffonau desg, ffonau symudol, gliniaduron a chyfrifiaduron i gyd i wneud galwadau wifi. Ac fe allwn ni gyfuno hyn â Microsoft Teams, ’fyd.
Gyda’r Rhwydwaith Ffôn Cyhoeddus Analog (PSTN) yn diffodd cyn hir, bydd angen i fusnesau symud o’r hen linellau tir copr i systemau ffôn digidol Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd (VoIP) er mwyn cadw mewn cyswllt â’u cwsmeriaid.
Beth yw ystyr y Rhwydwaith Ffôn Cyhoeddus Analog i dy fusnes di?
Yn y ddwy flynedd nesa, bydd y rhwydwaith ceblau copr y gallet ti fod yn ei ddefnyddio i ffonio pobl o dy fusnes yn cael ei ddiffodd. Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd (VoIP) fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud pob galwad lais yn y dyfodol. Mae sawl mantais i hyn
Dere i ni gychwyn arni...
Os wyt ti am gael darparwr VoIP sydd hefyd yn gallu cynnig gwibgysylltiad yn y gweithle, a hwnnw’n barod am y dyfodol, ynghyd â gwasanaeth penigamp i gwsmeriaid, fe all Ogi dy helpu di. O un llinell ffôn i ganolfan gyswllt gyfan, fe allwn ni dy gysylltu gan ddefnyddio technoleg VoiP (llinellau ffôn dros y rhyngrwyd). Technoleg yw hon sy’n addas i’r genhedlaeth nesa ac yn cynnwys popeth y bydd ei angen arnat ti. Y cyfan sydd ei angen arnon ni yw mymryn o wybodaeth i gychwyn arni. Rho dy fanylion i mewn a gad y gweddill i ni.
Cofrestra am fwy o wybodaeth
"*" indicates required fields