Y cysylltiad perffaith
Rho’r cyflymder y mae ei angen ar dy fusnes di i fod yn anorchfygol.
Ogi Pro 300
Cyflymder lan a lawr
300Mbps
O
£46
y mis *
Ar gyfer pwerdy
bach ond nerthol
Ffonia 029 2002 0535 am help
Ogi Pro 500
Cyflymder lan a lawr
500Mbps
O
£58
y mis*
Perffaith ar gyfer busnesau canolig eu maint ag uchelgeisiau mawr
Ffonia 029 2002 0535 am help
Ogi Pro 1Gig
Cyflymder lan a lawr
900Mbps
O
£75
y mis*
Gallu band eang enfawr ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol
Ffonia 029 2002 0535 am help
Ogi Pro 8Gig
Cyflymder i lawr
8Gbps
Unigryw
PAG
y mis*
Pecyn pwrpasol ar gyfer eich busnes unigryw
Ffonia 029 2002 0535 am help
Math gwell o gysylltiad
Cyflymder aruthrol – dere i ni wefru perfformiad dy fusnes di drwy gysylltiad sy’n addas i’r genhedlaeth nesa’. Pa mor gyflym hoffet ti fynd?
Ryn ni yr un mor gyflym lan a lawr: yn cynnig cyflymder lawrlwytho ac uwchlwytho cymesur i fusnesau ar ein rhwydwaith, sy’n hollbwysig i ddyfodol llawn fideogynadledda.
Galwadau llais am ddim: Trosglwydda dy alwadau i’n gwibgysylltiad band eang. Wedi’i ddylunio’n benodol i ddisodli llinellau tir traddodiadol, mae’r gwasanaeth yn fforddiadwy ac yn rhwydd i’w ddefnyddio. Ac fe gei di gadw dy rifau presennol.
Fe gei di weithio ym mhobman: Cysylltu mwy, cymudo llai. Gyda gwibffordd ddigidol yn syth at stepen dy ddrws, does dim rhaid rhoi’r allweddi yn y car bellach – fe gei di gwrdd â phawb ym mhobman, gan leihau dy allyriadau carbon ar yr un pryd
Partner technoleg i fusnesau smart
Ryn ni ’ma i helpu
I fusnesau Cymru – Ryn ni’n barod i helpu. Gobeithio mai dim ond dechrau’r berthynas fydd dy wasanaeth rhyngrwyd, er mwyn i dy fusnes allu tyfu a ffynnu. Mae ein hatebion unigryw yn rhoi hyblygrwydd i ti gynyddu neu leihau maint dy fusnes – beth bynnag sy’n galw.
Ac ar ôl gosod popeth, mae tîm cyfeillgar ein Desg Wasanaeth i Fusnesau yng Nghaerdydd wastad ar gael i roi help llaw.
Wyt ti’n barod i roi tro ar Pro?
Rho dy god post i mewn i weld a allwn ni ddod â gwibgysylltiad band eang y genhedlaeth nesa’ at stepen dy ddrws.