Llais Ogi

Mae gen i wasanaeth Llais Ogi, ond dydw i ddim yn cofio beth sy’n rhan o hwnnw

Mae dy wasanaeth Llais Ogi misol yn cynnwys y pecyn galwadau rwyt ti wedi’i ddewis: 

Llais Ogi Gyda’r Nos ac ar Benwythnosau 
(hynny yw, galwadau rhad ac am ddim i linellau tir yn y Deyrnas Unedig, 7pm-7am rhwng dydd Llun a dydd Gwener ac ar ddyddiau Sadwrn a Sul) 

Llais Ogi Unrhyw Bryd
(galwadau ar unrhyw adeg i linellau tir a rhifau symudol yn y Deyrnas Unedig) 

Bydd galwadau i ddefnyddwyr eraill Llais Ogi a galwadau dros y rhyngrwyd yn rhad ac am ddim bob amser; bydd yr holl alwadau eraill yn cael eu bilio yn unol â’r prisiau ryn ni wedi’u hysbysebu. Os hoffet ti ychwanegu negeseuon llais, galwadau rhyngwladol neu’r gallu i ddefnyddio gwasanaethau cyfraddau premiwm, gofynna i ni ychwanegu’r rhain at dy becyn.  

Cofia, mae terfyn o 60 munud ar bob galwad ac eithrio galwadau rhadffôn, fel na fyddi di’n cael bil anferth yn ddamweiniol. Mae modd rhoi’r ffôn i lawr a galw yn ôl er mwyn parhau i gloncan! 

Sut mae cysylltu fy ffôn ’da gwasanaeth Llais Ogi?

Ar ôl i ni gadarnhau bod dy rif wedi’i symud i Ogi, fe alli di gysylltu dy ffôn â’r bocs cysylltu ar y wal, ac mae popeth yn barod. 

Os oes gen i wasanaeth Llais Ogi, ydw i’n gallu cadw fy hen rif ffôn?

Os wyt ti wedi dewis cael gwasanaeth Llais Ogi, fe gei di gadw dy rif ffôn. Rho wybod i ni ac fe wnawn ni drefnu iddo gael ei symud i ti. Does dim cost ychwanegol, ond fe all gymryd diwrnod neu ddau (gan amlaf tua 7-10 diwrnod). Felly os bydd oedi, fe wnawn ni roi rhif ffôn dros dro i dy gadw mewn cysylltiad ’da phobl. Os gweli di’n dda, paid â gofyn i dy ddarparwr blaenorol ddatgysylltu dy ffôn tan y bydd dy rif wedi cael ei drosglwyddo.