Dechra ’da Ogi

Sut mae sicrhau gwasanaeth wrth Ogi?

Defnyddia’r chwiliwr i weld os yw Ogi’n gallu dy wasanaethu di nawr; neu cyn-gofrestra fel bod modd inni gadw mewn cysylltiad.

Gelli hefyd ffonio ein criw cyfeillgar ar 029 2002 0520 neuebostia sales@ogi.wales.

Os hoffet gysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg mae gennym Linell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru.

Pryd fydd y gwasanaeth yn cael ei osod?

Os wyt ti’n gwsmer Ogi 150, Ogi 300 neu Ogi 900 byddwn yn trefnu gosod dy wasanaeth wrth gymryd dy archeb. Gelli ddewis y slot sydd fwya cyfleus i ti.

Byddwn ni’n gyrru ebyst a negeseuon testun i ti i gadarnahu pethe. Os ydyn ni angen newid y trefniadau am unrhyw reswm, yna byddwn ni’n cysylltu i ail-drefnu’r slot. Os wyt ti’n dymuno newid y trefniant am unrhyw reswm, ebostia sales@ogi.wales neu ffonia 029 2002 0520.

Os wyt ti’n gwsmer Ogi Alt, byddwn ni’n cysylltu i drefnu gosod dy ffeibr.

Os hoffet gysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg cofia am ein Linell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru.

Beth yw cost gosod fy ffeibr?

£60 yw ein ffi gosod arferol, ond ryn ni’n cynnig gostyngiad ar y pris hwn – ac yn ei ddarparu am ddim – i bob un sy’n arwyddo cytundeb Ogi i’r cartref am cyfnod o 12 neu 24 mis.

Mae’r ffi ar gyfer gwaith manylach arnat – yna bydd hyn yn costio £80 a byddwn yn trafod a chytuno hyn gyda ti cyn bwrw ati.

Cost gosod gwasanaeth Ogi Alt yw £99.

Be sy’n digwydd pan rych chi’n dod i osod fy ffeibr?

Bydd y gwaith fel arfer yn cymryd 1.5 awr. Bydd ein criw yn gosod dy wib gysylltiad ffeibr llawn, ac yn gosod dy lwybrydd/ion hefyd.

Mae fideo syml am y broses yn adran ‘Ardal Cwsmeriaid Ogi’.

Beth os yw rhywbeth yn mynd o’i le?

Ryn ni’n gobeithio cael y cyfan yn iawn, y tro cyntaf. Os oes problem, ffonia ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu ebostia cymraeg@ogi.cymru.

A fydd angen cyfeiriad e-bost newydd arna’ i?

Na, fe gei di ddefnyddio unrhyw gyfeiriad e-bost dan haul ’da Ogi! Os wyt ti’n symud o ddarparwr arall, sylwa y bydd rhai cwmnïau yn israddio dy gyfrif e-bost neu’n gofyn i ti dalu ffi misol i barhau i ddefnyddio eu gwasanaeth e-bost llawn ar ôl i dy gontract band eang ddod i ben. Mae’n syniad da eu holi nhw am hyn ymlaen llaw. 

Os oes gen i wasanaeth Llais Ogi, ydw i’n gallu cadw fy hen rif ffôn?

Os wyt ti wedi dewis cael gwasanaeth Llais Ogi, fe gei di gadw dy rif ffôn. Rho wybod i ni ac fe wnawn ni drefnu iddo gael ei symud i ti. Does dim cost ychwanegol, ond fe all gymryd diwrnod neu ddau (gan amlaf tua 7-10 diwrnod). Felly os bydd oedi, fe wnawn ni roi rhif ffôn dros dro i dy gadw mewn cysylltiad ’da phobl. Os gweli di’n dda, paid â gofyn i dy ddarparwr blaenorol ddatgysylltu dy ffôn tan y bydd dy rif wedi cael ei drosglwyddo.  

Sut byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth amdanat ti

Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth bersonol y byddwn ni’n ei chasglu amdanat ti i wneud y canlynol:

  • Asesu dy sgiliau,  dy gymwysterau, a pha mor addas wyt ti ar gyfer y swydd y gwnest ti gais amdani
  • Edrych ar dy gefndir a dy eirdaon, pan fydd hynny’n berthnasol i’r swydd
  • Cyfathrebu â thi am y broses recriwtio
  • Cadw cofnodion sy’n berthnasol i’n proses benodi
  • Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol

Mae penderfynu dy benodi neu beidio i’r swydd y gwnest ti gais amdani yn fuddiant dilys inni, gan y byddai o fudd i’n busnes i benodi rhywun i’r swydd honno.

Mae angen inni hefyd brosesu dy wybodaeth bersonol i benderfynu a fyddwn yn rhoi contract cyflogaeth iti.

Sut mae newid cyfrinair fy rhwydwaith?

Fe alli di weld neu newid cyfrinair dy rwydwaith eero unrhyw bryd yn Ap eero, yn y gosodiadau (‘Settings’).  

I newid cyfrinair dy rwydwaith Zyxel, cer i ‘Maintenance’ ac yna i ‘User Account’ ar banel rheoli ar-lein Zyxel (Web GUI). 

Oes modd i rieni reoli’r defnydd o’r rhwydwaith?

Oes, glei! Mae modd creu proffil ar gyfer unrhyw ddyfais sy’n defnyddio’r rhwydwaith (er enghraifft, llechen dy blentyn) gan osod pa bryd y mae’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd a pha fath o gynnwys y mae’n gallu’i weld. 

Defnyddia’r nodwedd Proffiliau yn yr ap eero, neu’r gosodiadau ‘Parental Control’ ar banel rheol ar-lein Zyxel (Web GUI).