Cyflymder dy wasanaeth

Sut mae profi cyflymder y gwasanaeth?

Cymer Brawf Cyflymder Ogi.

Er mwyn profi dy gyflymder, cysyllta dy ddyfais yn uniongyrchol at dy lwybrydd gyda chebl ethernet, a diffodda unrhyw ddyfais arall rwyt ti’n ei defnyddio. Dyma sut i gael y syniad gorau o’r gwir gyflymder sy’n dod mewn i dy gartref.

Dwi ddim yn cael y cyflymder ron i’n ei ddisgwyl – be sy’n digwydd?

Mae’r cyflymder mae cwsmeriaid yn ei dderbyn yn gallu amrywio am lot o resymau, yn cynnwys pa mor brysur yw’r rhwydwaith yn lleol a phroblemau gyda’r rhyngrwyd yn gyffredinol ym Mhrydain a thu hwnt.

Mae o leiaf 50% o’n cwsmeriaid yn gallu derbyn cyflymderau lanlwytho a lawrlwytho pecynnau Ogi yn ystod oriau brîg (sef 8pm-10pm bob dydd). Gan mai cyflymderau cyfartaloeg yw’r rhain, does dim modd eu gwarantu. Isafswm y cyflymder y dylet ddisgwyl ei dderbyn yn ystod cyfnodau brîg yw tua hanner cyflymder ‘pennawd’ y pecyn. Dyn ni ddim yn gallu gwarantu cyflymder lanlwytho i gwsmeriaid cartre Ogi 150, Ogi 300 a Ogi 900.

Ryn ni’n gwirio rhwydwaith Ogi’n barhaus ond gelli brofi dy gyflymder hefyd ar ein gwefan.

Os yw dy gyflymder yn gyson is na’r digwyl ffonia 029 2002 3200 neu ebostia cymraeg@ogi.cymru ac os nad yw pethau’n gwella o fewn 30 diwrnod rwyt ti’n rhydd i ddirwyn pethau i ben gyda ni.