Cyflawni cymunedau
Sut rych chi’n penderfynu ble i adeiladu eich rhwydwaith?
Ein nod yw cysylltu trefi a phentrefi drwy’r de. Am y tro, byddwn ni’n blaenoriaethu ardaloedd sy’n hyfyw yn fasnachol (neu sy’n gymwys drwy dalebau), a’r rheini ddim yn cael eu gwasanaethu gan gwmnïau eraill.
Bydd ein cam cynta yn golygu adeiladu i gyrraedd 150,000 o safleoedd, ond ryn ni’n gobeithio cynyddu hyn yn sylweddol dros y blynyddoedd nesa.
Ryn ni’n adolygu ein cynlluniau drwy’r adeg ar sail nifer o ffactorau, a bydd manylion ein cam nesa a’r ardaloedd y byddwn ni’n adeiladu ynddyn nhw ar gael yn yr adran ‘I gymunedau’ ar ein gwefan. Gelli di hefyd gofrestru ar-lein i gael diweddariadau a newyddion rheolaidd gennyn ni am ein cynlluniau at y dyfodol.
Fydda’ i’n cael gwybod os bydd Ogi yn adeiladu yn fy ardal i?
Byddwn ni’n ceisio rhoi gwybod i ti ac i bawb sy’n byw mewn ardal pan fyddwn ni ar ein ffordd iddi. Os bydd y gwaith adeiladu yn effeithio’n uniongyrchol ar gwsmeriaid, byddan nhw’n cael llythyr ffurfiol gan Ogi a’n contractwyr yn rhoi gwybod iddyn nhw beth i’w ddisgwyl, a pha bryd.
Ble mae cael manylion am ffyrdd sydd wedi cau?
Byddwn ni’n rhoi gwybodaeth yn y gymuned leol am unrhyw ffyrdd y bydd yn rhaid eu cau, ar ôl dilyn y prosesau priodol. Bydd nifer o fyrddau cyfathrebu wedi’u gosod yn lleol yn dangos pryd fydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn dechrau ac yn gorffen. Bydd goruchwyliwr hefyd ar y safle, a hwnnw’n bresennol bob dydd. Bydd modd i’r unigolyn hwn ateb unrhyw gwestiynau fydd gen ti am ein gwaith adeiladu.
Hefyd, cadwa lygad am ein timau ymgysylltu cyfeillgar yn dy gymuned di.
Sut fyddwch chi’n cyrraedd fy eiddo os ydw i’n byw ar ffordd breifat?
Os wyt ti’n byw ar ffordd breifat, bydd ein peiriannydd yn rhoi galwad i ti i gael mynediad i dy eiddo ac i drafod unrhyw ofynion penodol.
Beth fydd yn digwydd os bydd eiddo’n cael ei ddifrodi?
Os bydd peiriannydd wedi achosi unrhyw ddifrod i dy eiddo, byddan nhw’n rhoi gwybod i’w Rheolwr Tîm lleol a fydd yn trafod y cam nesa ’da ti.
Os ein tîm ni fydd wedi achosi’r difrod, fel arfer byddwn ni’n trefnu’r gwaith atgyweirio ac yn talu am y difrod a achoswyd, ond bydd angen i’n tîm ni adolygu hyn, a does dim modd ei warantu.
Os byddi di’n sylwi ar unrhyw ddifrod sydd wedi’i achosi a bod y peiriannydd wedi gadael yr eiddo, cysyllta ’da’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid ar ein Llinell Gymraeg, 029 2002 3200, a byddan nhw’n fwy na pharod i dy helpu.
A yw’r offer ar gyfer gwaith adeiladu’r rhwydwaith i fod i gael ei adael ar y safle?
Byddwn ni fel arfer yn mynd â’r offer oddi ar y safle, ond gall fod adegau pan fydd angen ei adael ar y safle am gyfnod byr. Mae hyn yn gwbl normal ac ni fydd yn achosi unrhyw risgiau i’r cyhoedd. Os byddi di’n gweld rhywbeth sy’n dy bryderu di, cysyllta ’da’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid ar ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu anfona neges i ni.