Bilio a thalu

Sut a pha bryd fydda’ i’n cael fy mil?

Byddwn ni’n anfon dy fil i ti drwy e-bost unwaith y mis (oni bai dy fod yn gofyn am filiau papur, sy’n opsiwn ychwanegol). Bydd y bil yn dangos holl fanylion y costau, gan gynnwys unrhyw ostyngiad a threth ar werth.  

Byddi di’n cael bil am dy wasanaeth Ogi gan amlaf fis ymlaen llaw, a bydd dy ddebyd uniongyrchol yn cael ei wneud ar ddyddiad dy fil neu’n agos at y dyddiad hwnnw. Bydd dy fil cyntaf yn wahanol i’r rhai sy’n dilyn, gan y bydd yn fil am y diwrnodau ers i ti gael dy gysylltu, yn ogystal â dy fis nesaf ymlaen llaw.

Os bydd rhywbeth ar dy fil nad wyt ti’n siŵr amdano, hola ni ar bob cyfrif drwy anfona neges i ni neu ffonio 029 2002 0550. 

Be yw’r pethau pwysig am fy mil?

Bydd dy Fil yn cael ei yrru at dy gyfeiriad ebost (oni bai dy fod ti wedi gofyn am Fil papur, am gost ychwanegol) a bydd yn cynnwys dy holl gostau yn y cyfnod, yn cynnwys costau dy wasanaeth band eang.

Bydd ein biliau am gyfnod o 1 mis, oni bai mai hwn yw dy Fil cyntaf, a bydd yn dechrau o ddyddiad cychwyn y gwasanaeth hyd at ddiwedd y mis wedyn.

Bydd y cyfanswm yn dod o dy gyfri trwy ddebyd uniongyrchol ar neu tua’r dyddiad ar y Bil. Bydd unrhyw ostyngiadau i’w gweld ar y Bil, gyda disgrifiad, a byddwn yn esbonio hefyd os mai gostyngiad untro neu rheolaidd ydyw.

Os wyt ti’n pryderu am dy Fil, ffonia 029 2002 3200 neu ebostia cymraeg@ogi.cymru.

Ydy’r Gwarant Debyd Uniongyrchol yn fy ngwarchod?

Mae’r Gwarant Debyg Uniongyrchol yn gwarchod cwsmeriaid presennol a newydd yn llawn. Mae pob Banc a Chymdeithas Adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol yn cynnig y Gwarant hwn.

Os oes newidiadau i swm, dyddiad neu amlder dy Ddebyd Uniongyrchol byddwn yn rhoi gywbod i ti 10 diwrnod busnes cyn i’r arian ddod o dy gyfrif neu fel y cytunwyd rhyngom. Os wyt ti’n rhoi cais i ni gasglua taliad, yna bydd cadarnhad o’r swm a’r dyddiad yn cael ei roi i ti ar adeg y cais. Os gwneir camgymeriad gyda dy daliadau Debyd Uniongrychol, gennym ni neu dy fanc, yna mae gen ti hawl i ad-daliad llawn o’r swm a dalwyd o dy Fanc neu Gymdeithas Adeiladu, a hynny’n syth. Os wyt ti’n derbyn ad-daliad nad oes gen ti’r hawl iddo, yna mae’n rhaid i ti ei ad-dalu i ni pan fyddwn ni’n ei hawlio.

Gelli ganslo Debyd Uniongyrchol unrhyw bryd trwy gysylltu â’th Fanc neu Gymdeithas Adeiladu. Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig arnat. Rho wybod i ni os gwelwch yn dda.

Be os dwi’n cael trafferth talu?

Plis rho wybod i ni ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru.

Beth fydd yn digwydd os na fydda’ i’n talu fy mil?

Os ydyn ni wedi ysgrifennu atat ti i ofyn am daliad ond ddim yn clywed yn ôl, fe wnawn ni geisio cael gafael arnat ti drwy’r ffôn neu’r e-bost i drafod pethau ymhellach. Os na fyddi di wedi gallu ein talu o hyd (neu’n cytuno ar sut i’n had-dalu), bydd cyflymder dy fand eang yn cael ei ostwng i 3Mbps, a fydd yn ddigon o hyd ar gyfer pori sylfaenol ac anfon e-byst. 

Byddwn ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ti ym mhob cam, gan gynnwys y camau nesaf. Yn y pen draw, fe allai hynny olygu canslo dy wasanaeth Ogi os nad oes modd i ti setlo dy gyfrif neu gadw at unrhyw gynllun ad-dalu y byddi di wedi cytuno arno. 

Ydw i’n gallu newid fy nyddiad talu?

Wrth gwrs! Cysyllta ’da ni i newid dy ddyddiad bilio i un sy’n fwy cyfleus i ti.  

Sut mae newid manylion fy nebyd uniongyrchol?

I ddiweddaru dy fanylion talu, ffonia ni ar 029 2002 0550. 

Ein manylion talu

Os bydd angen i ti wneud taliad unrhyw bryd, heb ddefnyddio debyd uniongyrchol, dyma fanylion ein banc:

Enw’r Cyfrif – Spectrum Fibre Limited
Cod Didoli – 30-91-89
Rhif y Cyfrif – 32691660 

Defnyddia rif dy gyfrif Ogi fel y cyfeirnod. 

Wnaeth fy nhaliad ddim gweithio – beth ddylwn i ei wneud?

Os bydd taliad debyd uniongyrchol yn methu, fe rown ni gynnig arall arni os gallwn ni, neu bydd angen i ti gysylltu ’da ni i’n helpu i greu mandad newydd.