Cyrraedd a shwmae
Bydd peiriannydd cyfeillgar Ogi yn cyrraedd ar yr amser y cytunwyd arno (maen nhw’n aml yn gweithio mewn parau, felly mae’n bosib y cei di ddau am bris un). Cyn iddyn nhw ddechrau gosod, byddan nhw’n egluro beth fyddan nhw’n ei wneud, gan allu ateb unrhyw gwestiynau.
Dewis y llwybr gorau
Nesa, byddan nhw’n edrych yn ofalus i weld ble a sut i wneud y gwaith gosod. Mae hyn yn golygu chwilio am yr opsiwn gorau i gysylltu dy dŷ â’r rhwydwaith y tu fas, a chadarnhau llwybr y cebl – fe allai hyn fod uwchben neu o dan y ddaear.
Bydd gennyt ti focsys cysylltu y tu mewn a’r tu fas wedi’u mowntio ‘gefn wrth gefn’ ar wal allanol ar y llawr gwaelod. Felly, byddan nhw’n gofyn i ti gadarnhau ble fydd y bocs y tu mewn yn mynd (bydd hyn yn agos at socedi trydan).
Y ceblau a’r cysylltiadau
Nesaf, bydd y llwybrydd yn cael ei blygio i dy focs cysylltu, ac os wyt ti wedi dewis cael gwasanaeth Llais Ogi, fe alli di blygio dy ffôn i mewn hefyd (er bod modd gwneud hyn unrhyw bryd).
Cysylltu’r pŵer
Mae modd cysylltu dy ddyfeisiau â’r llwybrydd gan ddefnyddio ceblau Ethernet neu drwy osodiadau dy wifi.
Mae gwibgysylltiad Ogi wedi cyrraedd
I sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn, bydd dy beiriannydd yn profi dy gysylltiad newydd, cyn i chi ffarwelio, a jobyn dda arall o waith wedi’i chwblhau ar y rhestr. Croeso i’r bywyd gwibiol ar-lein drwy fand eang ffeibr llawn Ogi.