Dechra ’da Ogi
Sut mae sicrhau gwasanaeth wrth Ogi?
Defnyddia’r chwiliwr i weld os yw Ogi’n gallu dy wasanaethu di nawr; neu cyn-gofrestra fel bod modd inni gadw mewn cysylltiad.
Gelli hefyd ffonio ein criw cyfeillgar ar 029 2002 0520 neuebostia sales@ogi.wales.
Os hoffet gysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg mae gennym Linell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru.
Pryd fydd y gwasanaeth yn cael ei osod?
Os wyt ti’n gwsmer Ogi 150, Ogi 300 neu Ogi 900 byddwn yn trefnu gosod dy wasanaeth wrth gymryd dy archeb. Gelli ddewis y slot sydd fwya cyfleus i ti.
Byddwn ni’n gyrru ebyst a negeseuon testun i ti i gadarnahu pethe. Os ydyn ni angen newid y trefniadau am unrhyw reswm, yna byddwn ni’n cysylltu i ail-drefnu’r slot. Os wyt ti’n dymuno newid y trefniant am unrhyw reswm, ebostia sales@ogi.wales neu ffonia 029 2002 0520.
Os wyt ti’n gwsmer Ogi Alt, byddwn ni’n cysylltu i drefnu gosod dy ffeibr.
Os hoffet gysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg cofia am ein Linell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru.
Beth yw cost gosod fy ffeibr?
£60 yw ein ffi gosod arferol, ond ryn ni’n cynnig gostyngiad ar y pris hwn – ac yn ei ddarparu am ddim – i bob un sy’n arwyddo cytundeb Ogi i’r cartref am cyfnod o 12 neu 24 mis.
Mae’r ffi ar gyfer gwaith manylach arnat – yna bydd hyn yn costio £80 a byddwn yn trafod a chytuno hyn gyda ti cyn bwrw ati.
Cost gosod gwasanaeth Ogi Alt yw £99.
Be sy’n digwydd pan rych chi’n dod i osod fy ffeibr?
Bydd y gwaith fel arfer yn cymryd 1.5 awr. Bydd ein criw yn gosod dy wib gysylltiad ffeibr llawn, ac yn gosod dy lwybrydd/ion hefyd.
Mae fideo syml am y broses yn adran ‘Ardal Cwsmeriaid Ogi’.
Beth os yw rhywbeth yn mynd o’i le?
Ryn ni’n gobeithio cael y cyfan yn iawn, y tro cyntaf. Os oes problem, ffonia ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu ebostia cymraeg@ogi.cymru.
A fydd angen cyfeiriad e-bost newydd arna’ i?
Na, fe gei di ddefnyddio unrhyw gyfeiriad e-bost dan haul ’da Ogi! Os wyt ti’n symud o ddarparwr arall, sylwa y bydd rhai cwmnïau yn israddio dy gyfrif e-bost neu’n gofyn i ti dalu ffi misol i barhau i ddefnyddio eu gwasanaeth e-bost llawn ar ôl i dy gontract band eang ddod i ben. Mae’n syniad da eu holi nhw am hyn ymlaen llaw.
Os oes gen i wasanaeth Llais Ogi, ydw i’n gallu cadw fy hen rif ffôn?
Os wyt ti wedi dewis cael gwasanaeth Llais Ogi, fe gei di gadw dy rif ffôn. Rho wybod i ni ac fe wnawn ni drefnu iddo gael ei symud i ti. Does dim cost ychwanegol, ond fe all gymryd diwrnod neu ddau (gan amlaf tua 7-10 diwrnod). Felly os bydd oedi, fe wnawn ni roi rhif ffôn dros dro i dy gadw mewn cysylltiad ’da phobl. Os gweli di’n dda, paid â gofyn i dy ddarparwr blaenorol ddatgysylltu dy ffôn tan y bydd dy rif wedi cael ei drosglwyddo.
Sut byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth amdanat ti
Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth bersonol y byddwn ni’n ei chasglu amdanat ti i wneud y canlynol:
- Asesu dy sgiliau, dy gymwysterau, a pha mor addas wyt ti ar gyfer y swydd y gwnest ti gais amdani
- Edrych ar dy gefndir a dy eirdaon, pan fydd hynny’n berthnasol i’r swydd
- Cyfathrebu â thi am y broses recriwtio
- Cadw cofnodion sy’n berthnasol i’n proses benodi
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol
Mae penderfynu dy benodi neu beidio i’r swydd y gwnest ti gais amdani yn fuddiant dilys inni, gan y byddai o fudd i’n busnes i benodi rhywun i’r swydd honno.
Mae angen inni hefyd brosesu dy wybodaeth bersonol i benderfynu a fyddwn yn rhoi contract cyflogaeth iti.
Sut mae newid cyfrinair fy rhwydwaith?
Fe alli di weld neu newid cyfrinair dy rwydwaith eero unrhyw bryd yn Ap eero, yn y gosodiadau (‘Settings’).
I newid cyfrinair dy rwydwaith Zyxel, cer i ‘Maintenance’ ac yna i ‘User Account’ ar banel rheoli ar-lein Zyxel (Web GUI).
Oes modd i rieni reoli’r defnydd o’r rhwydwaith?
Oes, glei! Mae modd creu proffil ar gyfer unrhyw ddyfais sy’n defnyddio’r rhwydwaith (er enghraifft, llechen dy blentyn) gan osod pa bryd y mae’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd a pha fath o gynnwys y mae’n gallu’i weld.
Defnyddia’r nodwedd Proffiliau yn yr ap eero, neu’r gosodiadau ‘Parental Control’ ar banel rheol ar-lein Zyxel (Web GUI).