Fama yn Ogi, ryn ni eisiau cysylltu cymunedau ar-lein, ond hefyd helpu nhw i gysylltu â’i gilydd ‘fyd. A beth sy’n well na chysylltu trwy stori?
Mae Cymru’n enwog am ei straeon, ond mae holiadur newydd yn awgrymu nad yw’r straeon sy’n cael eu dweud heddiw yn adlewyrchu’r ein bywydau pob dydd.
Felly, yn cydweithio â’r darlledwr, darlledwr a bachgen balch o Ferthyr, Jonny Owen, ryn ni am ddathlu Chwedlau Lleol mewn llyfr stori ddigidol newydd sy’n adlewyrchu Cymru heddiw – y cymunedau, a’r cymeriadau ryn ni’n gweld bob dydd.
Ac ryn am glywed dy stori di! Straeon am y bobl a’r cymunedau sy’n rhan o dy fywyd: yr eiliadau bythol o falchder, hiwmor, caredigrwydd a dygnwch sy’n dod a phobl at ei gilydd.
Y straeon rwyt ti’n eu dweud wrth ffrindiau yn y dafarn neu gymdogion ar y daith i’r ysgol. Gallet gyflwyno dy stori isod neu hala neges breifat i ni ar y cyfryngau cymdeithasol – un llinell cloi neu stori epig, beth bynnag rwyt ti eisiau – dyma dy stori di.
Byddwn yn derbyn straeon tan 14 Medi – a GALLET TI fod yn rhan o’n llyfr stori ddigidol Cymraeg newydd – gan helpu i ddogfenni ein hanes mewn ffordd newydd, trwy dy stori di.
Hala dy stori di...
"*" indicates required fields