'sdim tagfeydd fan hyn…
Mewn cytundeb nodedig gyda Llywodraeth Cymru, mae’r Consesiwn Cefnffyrdd yn ein helpu i adeiladu gwibffyrdd digidol rhwng trefi a phentrefi, canolfannau data a chyfnewidiadau ledled de Cymru – gan wella sut mae gwybodaeth yn teithio i mewn ac allan o’r ardaloedd ryn ni’n galw’n gartref.
Mae’n rhwydwaith newydd y gall pob math o bartneriaid lleol a gweithredwyr byd-eang ei ddefnyddio – yn darparu buddion i Gymru a’r bobl yn ein cymunedau hefyd.
Yn gynaliadwy o gymunedol
Bydd gwella cysylltiadau digidol yn helpu i wneud Cymru’n fwy cynaliadwy – yn helpu pobol i gymudo llai, a gwneud mwy ar-lein, ble bynnag maen nhw. Ond mae manteision yn y tymor byr i’r consesiwn hefyd. Mae hi wastad yn syniad da peidio â tharfu’n ddiangen. Mae’n well osgoi gwaith adeiladu os oes modd; ac mae defnyddio’r seilwaith sydd yno’n barod yn well o lawer i’r amgylchedd a’r gymuned leol.