Agor capasiti
Mae seilwaith capasiti uchel newydd Ogi yn harneisio pŵer rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd y wlad i gysylltu Cymru, Lloegr a thu hwnt â chynnyrch ffeibr tywyll a tiwbio-micro newydd. Mae’n brosiect ffeibr nodedig – y cyntaf o’i fath i Gymru – ar gael o ddarparwr ffibr llawn Cymru.
Mae’r llwybr amrywiol yn cynyddu capasiti o Loegr i Gymru, dros bont Tywysog Cymru, i mewn i Ganolfan Ddata Vantage CWL1 yng Nghasnewydd ac ymlaen; yn darparu capasiti, amrywiaeth a gwytnwch i gludwyr, hyperscalers a darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd sy’n edrych i ehangu ar draws de’r DU.
Mae’r rhwydwaith newydd yma yn dod â gwasanaethau seilwaith ffibr tywyll a tiwbio-micro pwrpasol i’r farchnad i ddechrau, gyda chyfres o wasanaethau wedi’u goleuo a chynhyrchion canolfannau data i’w dilyn.
Barod i gysylltu?
"(Yn ofynnol)" indicates required fields
Mae Cymru bellach yn cael ei hystyried yn un o'r economïau digidol pwysicaf tu allan i Lundain
Gyda 55,000 o bobl yn cael eu cyflogi’n weithredol yn y sector gwasanaethau ariannol; £1.7 biliwn o drosiant blynyddol o sectorau creadigol* a flaenoriaethwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gyflogi 34,900 o bobl, mae’r sector technoleg werth £8.5 biliwn** i economi Cymru, gyda Fintech yn cynhyrchu 44% yn 2021/22.
Mae’r cyfle cyfanwerthol newydd hwn yn gatalydd hanfodol ar gyfer capasiti ffibr ledled y DU, ar adeg pan mae’r ffocws yn symud i Gymru fel lleoliad deniadol ar gyfer canolfannau data, arloesedd digidol a buddsoddiad technoleg.
*Ffilm a theledu, cerddoriaeth, animeiddio, gemau a chyhoeddi – Llywodraeth Cymru, 2023
** Masnach a Buddsoddi Cymru – Llywodraeth Cymru, 2021-22